Skip to main content
Advertisement

Dyn 61 oed yn marw mewn gwrthdrawiad beic modur yn ardal Beddgelert

Dyn 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad beic modur ar y ffordd rhwng Nantmor a Nantgwynant yn ardal Beddgelert ddydd Iau.

·1 min read
Y ffordd rhwng Nantmor a Nantgwynant.

Digwyddiad Gwrthdrawiad yn Ardal Beddgelert

Mae dyn 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad a ddigwyddodd ddydd Iau yn ardal Beddgelert.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi ymateb toc wedi 11:30 i wrthdrawiad oedd yn ymwneud â beic modur.

Y beic modur oedd yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar y ffordd rhwng Nantmor a Nantgwynant.

Advertisement

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Ffyrdd o Ddilyn y Newyddion

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News