Skip to main content
Advertisement

Dyn 61 oed wedi'i arestio ar ôl gwrthdrawiad difrifol ym Mhorthcawl

Dyn 61 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhorthcawl. Heddlu De Cymru yn ymchwilio ac yn apelio am dystiolaeth gan y cyhoedd.

·1 min read
Pyle Road, Notais, Porthcawl

Dyn 61 oed wedi'i arestio ar ôl gwrthdrawiad difrifol ym Mhorthcawl

Mae dyn 61 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhorthcawl.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Pyle yn ardal Notais y dref, tua 23:48 nos Wener.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud â dau gar, sef Ford Mondeo du a Vauxhall Corsa glas.

Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth.

Ad (425x293)

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.

Mae'r dyn o Ogledd Corneli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a gafodd ei arestio yn parhau yn nalfa'r heddlu.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Mae unrhyw un sydd â lluniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r heddlu hefyd yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News