Skip to main content
Advertisement

Dyn 37 oed yn cael ei gyhuddo ar ôl ymosodiad difrifol yng Ngheredigion

Dyn 37 oed wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ar ôl ymosodiad ar Stryd Margaret, Ceinewydd, lle mae dyn 20 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.

·1 min read
Stryd Bethel

Dyn 37 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn digwyddiad yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Mae dyn 20 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn ymosodiad ar Stryd Margaret yng Ngheinewydd am tua 00:51 ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf.

Mae'r dyn yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Cafodd y dyn 37 oed ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos mewn llys ddydd Llun.

Advertisement

Mae dyn 59 oed a gafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o ymosod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad, i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Dyn 37 oed wedi'i arestio ar ôl ymosodiad yng Ngheinewydd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News