Skip to main content
Advertisement

Dyn 27 oed yn gwadu treisio menyw ar faes Eisteddfod Boduan 2023

Mae Emlyn Jones, 27 oed, yn gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys treisio menyw ar faes Eisteddfod Boduan 2023. Mae'r achos yn parhau yn Llys y Goron Caernarfon.

·2 min read
Llys y Goron Caernarfon

Emlyn Jones yn gwadu cyhuddiadau treisio yn llys Caernarfon

Mae dyn 27 oed wedi gwrthod y cyhuddiadau o dreisio menyw y cyfarfu â hi ychydig oriau ynghynt ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023.

Mae Emlyn Jones yn gwadu pedwar cyhuddiad, gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.

Manylion y digwyddiad yn y llys

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y ddynes wedi cyfarfod Emlyn Jones mewn cyngerdd ar faes yr Eisteddfod ar 6 Awst 2023.

Ar ran yr erlyniad, dywedodd Sion ap Mihangel i'r fenyw adael y maes gyda dyn arall, ond wrth chwilio am y garafán lle'r oedd hi'n aros, daeth y tri ar draws Emlyn Jones unwaith eto.

Mae'r erlyniad yn honni i'r tri benderfynu cysgu yn yr un adlen, gyda'r fenyw yn y canol.

Clywodd y rheithgor i'r ail ddyn adael y babell ar ôl gweld Emlyn Jones yn ymddwyn yn amhriodol tuag at y fenyw.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r fenyw gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun, Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r fenyw gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Clywodd y llys i'r fenyw ofyn wrth Emlyn Jones:

"Beth wyt ti'n gwneud?"

ac iddo ymddiheuro.

Honnir iddi ddweud wedyn:

Advertisement
"Mi gysga i'n fa'ma a chysga di yn fanna,"

gan ychwanegu:

"paid a 'nghyffwrdd i".

Manylion y digwyddiad yn ôl yr erlyniad

Yn ôl yr erlyniad, mae'r fenyw yn cofio deffro gyda Emlyn Jones yn pwyso arni ac yn cyffwrdd ei bron.

Dywedodd iddi ymladd yn ei erbyn ond iddi fynd i banig wrth iddo gychwyn ei chrogi.

Honnir i Emlyn Jones gael rhyw gyda'r ddynes yn erbyn ei hewyllys.

Clywodd y rheithgor i'r fenyw adael y babell ar ôl y digwyddiad a chloi ei hun mewn car gerllaw.

Arestiad a datganiad Emlyn Jones

Cafodd Emlyn Jones ei arestio ar 17 Awst 2023.

Clywodd y llys iddo ddweud wrth yr heddlu fod y fenyw wedi cytuno i gael rhyw a bod dim gwirionedd yn yr honiad iddo ei threisio.

Mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News