Damwain Ffordd ar yr A48 yn Caerdydd
Mae dyn 18 oed o Drelái, Caerdydd wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 yn y brifddinas ar 6 Mehefin.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal y Tymbl, Sain Nicolas ar gyrion Caerdydd tua 8.05pm ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac mae nhw'n cael cefnogaeth gan swyddogion yr heddlu.
Mae dau arall – menyw 59 oed a dyn 64 oed o Dresimwn, Bro Morgannwg – wedi cael eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer anafiadau wedi'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Cysylltu â Chymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






