Skip to main content
Advertisement

Dirprwy ysgol yn cael dedfryd am droseddau rhywiol ar blant 14 oed

Dirprwy bennaeth ysgol yn Sir Fynwy wedi cael dedfryd am geisio cael 'luniau drygionus' gan fachgen 14 oed. Cafodd ei ddedfrydu i 6 mis o garchar wedi'i ohirio a rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am 7 mlynedd.

·3 min read
Durand Primary School

Dirprwy ysgol yn cael dedfryd am droseddau rhywiol ar blant 14 oed

Mae wedi dod i'r amlwg bod dirprwy bennaeth ysgol yn droseddwr rhyw wedi iddo ofyn am "luniau drygionus" gan rywun a oedd, yn ei gred ef, yn fachgen 14 oed.

Roedd Anthony Moses, 48, o Oakfield, Cwmbrân, yn meddwl ei fod yn anfon negeseuon at blentyn ar wefan FabGuys cyn defnyddio'r ap Snapchat - ond cafodd ei ddal gan swyddog heddlu oedd yn esgus bod yn blentyn yn ei arddegau.

Cafodd dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Durand, Cil-y-coed, Sir Fynwy ddedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio am 12 mis.

Fe anfonodd yr ysgol lythyr at rieni'n cadarnhau nad oedd y mater yn ymwneud ag unrhyw blentyn yn yr ysgol na'r gymuned leol.

Yr ysgol am ddilyn y broses briodol

Yn y llythyr dywedodd yr ysgol y byddai rhieni "efallai'n dod yn ymwybodol o wybodaeth fydd yn dod yn gyhoeddus am ein dirprwy bennaeth, Anthony Moses".

Ychwanegon nhw fod yr ysgol wedi gweithio gyda phartneriaid statudol, yr awdurdod lleol a'r heddlu cyn gynted ag y daethon nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy nad oedd Moses yn y gwaith ar adeg y troseddau.

"Fel cyngor ac ysgol, diogelwch a lles ein disgyblion yw ein prif flaenoriaeth," meddai llefarydd.
"Bydd yr ysgol a'r awdurdod lleol yn dilyn y broses briodol nawr bod y broses droseddol wedi dod i ben."

Digwyddodd y drosedd ar 20 Tachwedd 2024.

Ad (425x293)

Roedd Moses yn gwadu'r cyhuddiad o geisio cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn ond cafodd ei euogfarnu yn dilyn achos llys ym mis Chwefror eleni cyn iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Yn ôl y papur newydd y South Wales Argus, cafodd y gwrandawiad dedfrydu wybod fod Moses wedi ysgrifennu "llythyr edifeirwch" at y barnwr, Richard Kember.

Dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd ei fod yn ymwybodol mai dim ond 14 oed oedd y "bachgen".
Ychwanegodd: "Gofynnoch chi i'r twyllwr, 'Oes gyda chi unrhyw luniau direidus?' Fe geisioch chi gael gafael ar ddelweddau a gofynnoch chi am rai."
Dywedodd y barnwr wrth Moses y byddai'n ei arbed rhag dedfryd o garchar ar unwaith gan ei fod yn credu bod yna "obaith realistig o wella".

Mae'n rhaid i Moses gyflawni 150 awr o waith di-dâl yn y gymuned a chwblhau gofyniad gweithgaredd adsefydlu 30 diwrnod.

Bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am y saith mlynedd nesaf ac mae e hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am yr un cyfnod o amser.

Bydd hefyd yn rhaid iddo dalu gordal dioddefwr statudol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Plant mewn gofal yn treulio misoedd mewn cartrefi heb eu cofrestru

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News