Skip to main content
Advertisement

Deng mlynedd ar ôl Brexit, effeithiau'r refferendwm yn parhau i ddylanwadu ar Gymru

Deng mlynedd ar ôl refferendwm Brexit 2016, mae effeithiau'r penderfyniad yn parhau i ddylanwadu ar wleidyddiaeth a hunaniaeth Cymru, gyda gwleidyddion a dadansoddwyr yn trafod y newidiadau a'r heriau sydd wedi codi ers hynny.

·6 min read
Llun o faneri Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn chwifio y tu allan i Senedd San Steffan.

Deng mlynedd ers y refferendwm Brexit

Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd mwyafrif o etholwyr y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cymru, o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn union ddegawd yn ddiweddarach, mae effeithiau'r digwyddiad gwleidyddol hwn yn parhau i gael eu gweld ar wleidyddiaeth Cymru, yn ôl rhai a fu'n rhan o'r ymgyrch yn ystod yr haf tyngedfennol hwnnw.

Llŷr Powell, sydd bellach yn Aelod o Senedd Cymru dros y blaid Reform, oedd yn 21 oed yn 2016 ac yn gweithio fel swyddog i'r wasg i'r ymgyrch dros adael yr UE yng Nghymru. Roedd yn bresennol yng Nghei Connah ar noson y refferendwm, lle cafodd canlyniadau gwahanol rannau o Gymru eu casglu. Mae'n cofio'r foment

"swreal"
wrth deithio'n ôl i'r gwesty a'r geiriau
"we've done it"
yn cael eu hailadrodd yn ei ben.

Mae'r llun yn dangos Llŷr Powell yn cael ei holi gan ohebydd. Mae'r ddau'n sefyll uwchlaw neuadd chwaraeon ble mae pleidlieisiau yn cael eu cyfrif.
Disgrifiad o’r llun, Llŷr Powell yn cael ei holi ar raglen ganlyniadau S4C wedi'r refferendwm

Mae Powell yn credu bod canlyniad y refferendwm wedi cyfrannu at ganlyniadau hanesyddol yn etholiad diweddar Bae Caerdydd, pan ddaeth cyfnod hir Llafur mewn grym i ben. Plaid Cymru enillodd y nifer fwyaf o seddi, gyda Reform yn ail. Er nad yw'n disgwyl i Blaid Cymru gytuno â'i ddadansoddiad, mae Powell yn credu bod Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog oherwydd y newid a gyflwynwyd gan y refferendwm.

"Roedd Llafur yn gryf yng Nghymru ac roedd pobl yn meddwl 'what's the point, mae Llafur yn mynd i ennill'. Ar ôl 2016 mae pobl yn gwybod nawr chi'n gallu newid unrhyw beth drwy'r ballot box os chi'n troi mas."

'Brexit oedd y camgymeriad gwaethaf'

Daeth y refferendwm saith wythnos ar ôl i bobl Cymru bleidleisio mewn etholiad i Fae Caerdydd. Mark Drakeford, oedd yn aelod blaenllaw o gabinet Llywodraeth Cymru ar y pryd, cofio Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn erfyn ar Brif Weinidog y DU David Cameron i beidio â chynnal y refferendwm mor agos at yr etholiad.

Yn y pen draw, roedd amseru'r refferendwm yn gwneud hi

"fwy neu lai'n amhosibl"
i ddod â phobl o wahanol bleidiau at ei gilydd i ymgyrchu dros aros yn yr UE, meddai Drakeford. Mae'n disgrifio 23 Mehefin 2016 fel
"y diwrnod pan ddigwyddodd y camgymeriad gwaethaf yn fy mywyd gwleidyddol"
ac yn rhoi'r bai ar Cameron am ei benderfyniad
"anghyfrifol"
i gynnal y refferendwm.

Roedd cynnal pleidlais ar Brexit yn addewid ym maniffesto'r Ceidwadwyr cyn etholiad cyffredinol 2015.

Mark Drakeford yn areithio o'r llwyfan ar ôl cael ei ailethol yn yr etholiad i'r Cynulliad yn 2016.
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Mark Drakeford ei ail-ethol i Fae Caerdydd wythnosau cyn y refferendwm

Mae Drakeford hefyd yn credu bod canlyniad y refferendwm wedi effeithio ar wleidyddiaeth Cymru heddiw, yn enwedig ar natur y drafodaeth wleidyddol, gan roi trwydded i rai fod

"yn gas"
.

Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru adeg y refferendwm, yn cytuno. Ym Mehefin 2016, roedd hi newydd gael ei hethol fel Aelod Cynulliad newydd Rhondda ac roedd yna

"awydd am newid yn y Cymoedd"
. Fodd bynnag, roedd yna bris i'w dalu fis yn ddiweddarach pan gefnogodd nifer o bobl a gefnogodd ei hymgyrch hi Brexit.

Ymgyrch y refferendwm oedd

"yr ymgyrch anoddaf i mi fod yn rhan ohoni"
, meddai Wood, a chytuno bod amseru'r bleidlais mor agos at yr etholiad wedi creu problemau. Dywedodd iddi ddweud wrth Carwyn Jones ddechrau'r gwanwyn bod angen ymgyrch dros aros yn yr UE fyddai'n dod ag undebau, eglwysi a sefydliadau cyhoeddus Cymru ynghyd, ond bod Jones wedi dweud na fyddai hynny'n bosib oherwydd yr etholiad.

"Rwy'n deall hynny ond roedd hynny'n risg ar y pryd achos doedden ni methu dod ag ymgyrch ynghyd ar y funud olaf."

Advertisement

Erbyn i Leanne Wood a Carwyn Jones allu ymgyrchu gyda'i gilydd roedd hi'n rhy hwyr, yn ôl Wood.

Llun o Leanne wood a Carwyn Jones gyda'i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae'r ddau yn dal crys tîm pêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun, Erbyn i Leanne Wood a Carwyn Jones allu ymgyrchu gyda'i gilydd roedd hi'n rhy hwyr, yn ôl Wood

Fel Drakeford, mae Wood yn credu bod dylanwad mwyaf Brexit ar wleidyddiaeth Cymru yw'r hyder sydd gan rai i fynegi safbwyntiau a oedd yn cael eu hystyried yn annerbyniol. Mae hi'n disgrifio Brexit fel dechrau ar y

"pegynnu gwleidyddol sydd gyda ni heddiw"
.

Andrew RT Davies, un o'r lleisiau cryfaf o blaid Brexit yng Nghymru, dywed bod gwleidyddion yn dal i gael eu rhannu yn nhermau sut y bleidleisiodd pawb yn 2016. Mae'n nodi bod y rhethreg ar y ddwy ochr yn gallu bod yn well ac mae llawer i'w ddysgu.

Deng mlynedd ar ôl y bleidlais, mae Davies yn credu'n angerddol bod y DU yn gryfach nawr o allu gwneud ei phenderfyniadau ei hun.

"Efallai nad ydy'r dewisiadau gwleidyddol dros y 10 mlynedd diwethaf bob tro wedi bod y rhai cywir ond o leiaf yn wleidyddol ry'n ni wedi gallu gwneud hynny."

'Brexit wedi ail-siapio sut mae pobl yn teimlo am Brydain'

Yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae mwyafrif clir o etholwyr Cymru bellach o blaid ail-ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, yn bennaf oherwydd safbwynt y rhan fwyaf o etholwyr iau oedd yn rhy ifanc i bleidleisio yn 2016.

Mae Larner hefyd yn dweud bod Brexit wedi cael effaith hirdymor ar hunaniaeth pobl. Mae ymchwil yn dangos bod y cysyniadau

'aros'
a
'gadael'
wedi dod yn hunaniaeth gymdeithasol bwerus, hyd yn oed yn gryfach na pherthyn i blaid wleidyddol.

Yn benodol yng Nghymru, mae Brexit wedi gwahanu ymdeimlad pobl o Brydeindod yn sylweddol, tra bod hunaniaeth Gymreig wedi aros yr un fath. Felly, mae Brexit wedi ail-siapio sut mae pobl yn teimlo am Brydain heb newid eu teimladau am Gymru.

Mared Gwyn, newyddiadurwr Euronews sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel, yn nodi bod Brexit wedi bod yn

"her fawr"
i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hi'n dweud bod y canlyniad wedi syfrdanu'r Undeb ac wedi rhoi arweinwyr yr UE ar brawf.

Llun o Mared Gwyn yn gwenu at y camera. Mae hi'n gwisgo siaced wen.
Disgrifiad o’r llun, Roedd Brexit yn "her fawr" i'r Undeb Ewropeaidd, meddai Mared Gwyn

Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae penaethiaid yr UE yn teimlo eu bod wedi ymateb i Brexit mewn ffordd lwyddiannus, gyda mwy o wledydd yn awyddus i ymuno.

Mae cwestiwn yn codi a fydd y Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn ceisio ailymuno â'r UE, yn sgil dadlau am sefyllfa Syr Keir Starmer a sylwadau Wes Streeting am y posibilrwydd o ail-ymuno.

Yng Nghymru, mae'r prif weinidog newydd wedi dweud y dylai'r DU agosáu at Brwsel. Deng mlynedd ers y bleidlais hanesyddol honno, mae Brexit yn parhau i fod yn destun trafod a dadlau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News