Dylan Dawes yn cyrraedd y llys ar ddyddiad blaenorol cyn iddo wynebu ei ddefryd
Mae cyn-gynhyrchydd BBC, Dylan Dawes, wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar wedi'i ohirio ar ôl cael ei ganfod yn euog o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant.
Yn 2022, canfuwyd dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant ar bedair dyfais yng nghartref Dylan Dawes, sydd yn 50 oed ac yn byw yng Nghaerdydd.
Ymhlith y delweddau anweddus roedd bron i 200 o luniau o Gategori A, sef y categori mwyaf difrifol o ddelweddau o'r fath.
Ym mis Ebrill 2026, cafodd Dawes ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o feddu ar ddelweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant yn 2022, yn ogystal â thri chyhuddiad arall o greu delweddau anweddus o blant rhwng 2006 a 2022.
Yn Llys y Goron Casnewydd, fore Iau, cafodd ddedfryd o 18 mis o garchar wedi'i ohirio am ddwy flynedd.
Dilynwch a Chysylltwch
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol
Cyn-gynhyrchydd BBC yn euog o fod â delweddau anweddus o blant.






