Gwrthdrawiad difrifol yng Nghasnewydd
Mae dau ddyn wedi marw a thri pherson wedi cael eu harestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng car BMW a beic modur ar Heol Aberthaw yn ardal Ringland, Casnewydd, yn gynnar fore Iau.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar ôl derbyn adroddiad am y ddamwain.
Yn ôl Heddlu Gwent, fe wnaeth parafeddygon gadarnhau bod dau ddyn wedi marw yn y lleoliad, a'r gred yw
"taw gyrrwr y beic modur a theithiwr ar y piliwn oedden nhw".
Ychwanegodd y llu mai'r gred yw bod
"y BMW wedi gadael y safle cyn i'r heddlu gyrraedd".
Mae dyn 18 oed a menyw 40 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod menyw 24 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae'r tri yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau gan yrwyr a thrigolion lleol all fod o help i'r ymchwiliad.

Mae'r heddlu'n awyddus i gysylltu ag unrhyw un a deithiodd ar hyd Heol Aberthaw rhwng hanner nos a 01:40 fore Iau.
Maen nhw hefyd yn gofyn i drigolion yr heol i adolygu eu camera cylch cyfyng wrth iddyn nhw ymchwilio i'r amgylchiadau cyn y gwrthdrawiad.
Fe fydd swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deuluoedd y dynion a fu farw wrth i'r ymchwiliad barhau.
Ymateb y gwasanaethau brys
Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru bod criw cerbyd ymateb cyflym wedi cyrraedd y lleoliad ychydig wedi 02:00 a'u bod wedi gadael awr yn ddiweddarach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






