Skip to main content
Ad (425x293)

Datganiad ar wasanaeth bws newydd i gysylltu Gogledd a De Cymru disgwyliedig

Disgwylir datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth am wasanaeth bws newydd i gysylltu Gogledd a De Cymru, gyda barn cymunedol am ei effeithiolrwydd a manteision posibl.

·3 min read
Bws Traws Cymru

Datganiad ar wasanaeth bws newydd

Mae disgwyl i'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wneud datganiad i'r Senedd yn ddiweddarach yn amlinellu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth bws newydd sy'n cysylltu Gogledd a De Cymru.

Bu'r cynlluniau yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Plaid Cymru yn ystod ymgyrch etholiad y Senedd yn ddiweddar.

Ar y pryd, dywedodd gweinidogion y byddai'r gwasanaeth yn gwella cysylltiadau rhwng cymunedau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, gan ddarparu cysylltiadau cyflymach â gwell cysylltiadau rheilffordd i deithwyr sy'n mynd yn eu blaenau i Dde Cymru.

Gallai'r llwybr newydd fod 90 munud yn gyflymach na'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus bresennol, gyda'r gwasanaeth yn defnyddio amserlen arosfannau cyfyngedig a rhwydwaith cyfnewid gwell.

Mae'r cynnig yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, gyda thocynnau symlach a chydlynu agosach rhwng gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd.

Barn teithwyr lleol

Dywedodd Dai Humphreys y byddai'n "dda cael bws hwyrach".

Yn Nolgellau, dywedodd teithwyr eu bod yn croesawu'r cynllun, ond bod rhai yn cwestiynu pa mor effeithiol fyddai'r gwasanaeth.

Ad (425x293)

Dydy Dai Humphreys ddim yn dreifio, ac mae'n defnyddio llawer iawn ar y rhwydwaith fysiau lleol.

"Mae'n cymryd hir i fynd trwy'r pentrefi bach a bob man, mae'n cymryd lot hirach na mynd mewn car, byse direct route yn rili handi.
"Dim ond stopio mewn llefydd mawr fel Aberystwyth, Abertawe, Caernarfon ac osgoi stopio yn y pentrefi bach.
"Hefyd, mae'r bysys yn gorffen yn rhy gynnar i bobol, byddai'n dda cael bws hwyrach."
Dai Humphreys
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Dai Humphreys y byddai'n "dda cael bws hwyrach"

Mae Paul Hill o'r farn bod "angen bysiau yn fwy aml a mwy o yrwyr i'w gefnogi".

Yn teithio ar fws yn rheolaidd, dywedodd Paul Hill y byddai'n defnyddio'r llwybr newydd i ymweld â'i ferch ond mae'n cwestiynu a fyddai eraill.

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn gweithio oherwydd does dim digon o footfall, pobl i deithio ar y bysiau mewn gwirionedd, er mwyn iddo fod yn hyfyw. Mae angen iddo fod yn broffidiol.
"Ydy'r seilwaith yma i gefnogi hyn? Mae angen bysiau yn fwy aml a mwy o yrwyr i'w gefnogi. Oes digon o arian yno?"
Paul Hill
Disgrifiad o’r llun, Mae Paul Hill o'r farn bod "angen bysiau yn fwy aml a mwy o yrwyr i'w gefnogi"

Dywedodd Beryl Norgrove y byddai cael llwybr newydd yn "syniad ardderchog".

"Syniad ardderchog, dim pawb sydd yn gyrru ac mae mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus lot haws.
"Does dim trên fan'ma chwaith wedyn mae gwella'r rhwydwaith mewn llefydd fel hyn yn syniad da iawn.
"Mae gena i deulu yn byw yn y de felly mi fyddai'n ei ddefnyddio fo'n sicr. Mae'n gyfleus, dwi'n meddwl bod y gwasanaeth yn dda iawn."
Beryl Norgrove
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Beryl Norgrove y byddai cael llwybr newydd yn "syniad ardderchog"

Manylion ychwanegol

Nid oes manylion pellach wedi eu cyhoeddi eto, am brisiau, amserlenni na dyddiad lansio y llwybr fysiau newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News