Skip to main content
Advertisement

Cynnydd o £5,000 i ddenu athrawon mewn pynciau allweddol yng Nghymru

Llywodraeth Cymru yn cynyddu cymhellion ariannol i fyfyrwyr hyfforddi athrawon mewn pynciau allweddol, gyda phwyslais hefyd ar gadw athrawon a gwella amodau gwaith.

·5 min read
Athrawon

Cynnydd mewn cymhellion ariannol i fyfyrwyr hyfforddi athrawon

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod hefyd yn bwriadu edrych ar ffactorau sy'n effeithio ar gadw athrawon yn y proffesiwn, gan gynnwys y llwyth gwaith.

Bydd myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn athrawon mewn pynciau lle mae prinder yng Nghymru yn derbyn hyd at £20,000 o gymorth ariannol o fis Medi ymlaen.

Mae hynny'n gynnydd o £5,000 ar y cymhelliad presennol ar gyfer pynciau fel mathemateg, y gwyddorau a'r Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, mai dyma'r cam cyntaf tuag at gyfateb i'r £30,000 sydd ar gael i rai myfyrwyr addysgu yn Lloegr.

Ond er bod rhai undebau wedi croesawu'r newid, mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru (NAHT Cymru) wedi rhybuddio y gallai greu "gweithlu dwy haen".

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg, Anna Brychan a'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ymweld ag Ysgol Gwynllyw wrth gyhoeddi'r cynnydd

Anna brychan a rhun ap iorwerth mewn ysgol
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth y Gweinidog Addysg, Anna Brychan a'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ymweld ag Ysgol Gwynllyw wrth gyhoeddi'r cynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod darparwyr addysg gychwynnol athrawon wedi methu cyrraedd eu targedau recriwtio mewn rhai pynciau ers cryn amser, ac y bydd y cymhelliad ariannol uwch yn helpu i fynd i'r afael â hynny.

Wrth gyhoeddi'r cynnydd yn Ysgol Gwynllyw, dywedodd y Gweinidog Addysg, Anna Brychan bydd effaith y cynllun yn cael ei monitro gyda'r gobaith o weld 150 o athrawon ychwanegol yn y system erbyn 2027-28.

Ychwanegodd fod y llywodraeth hefyd yn bwriadu edrych ar ffactorau sy'n effeithio ar gadw athrawon yn y proffesiwn, gan gynnwys y llwyth gwaith.

"Yn ogystal â gwella amodau athrawon a datblygiad proffesiynol, mae'n hanfodol bod gennym weithlu cynaliadwy ac ein bod yn annog mwy o bobl i ddewis addysgu," meddai.

Dywedodd hefyd fod y llywodraeth am sicrhau bod y buddsoddiad yn helpu pobl i hyfforddi yng Nghymru ac wedyn yn cadw'r sgiliau hynny er budd dysgwyr ledled y wlad.

Barn athrawon am y cynnydd mewn cymhellion

Dywedodd yr athrawes Gymraeg Abby Cripps ei bod yn credu y bydd y cymelliadau uwch yn helpu i ddenu mwy o bobl i hyfforddi mewn pynciau allweddol.

Advertisement

Mae Abby Cripps, sy'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Gwynllyw yn Nhorfaen, yn credu y bydd y cynnydd yn annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn.

"Mae'n dangos bod y llywodraeth yn fodlon buddsoddi mewn athrawon ac yn gweld addysg yn rhan bwysig iawn o'n gwlad," meddai.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn denu mwy o athrawon sy'n arbenigo yn y pynciau hynny."

Derbyniodd hithau'r cymhelliad blaenorol o £15,000 wrth hyfforddi ac mae'n dweud iddo wneud gwahaniaeth mawr drwy leihau'r straen ariannol yn ystod y flwyddyn honno.

Ond ychwanegodd fod cadw athrawon yn y proffesiwn yr un mor bwysig â'u recriwtio.

"Mae bendant yn cymryd rhywfaint o'r straen i ffwrdd yn ystod y flwyddyn hyfforddi.
"Ond yn amlwg, mae'r her o'u cadw nhw yn y dyfodol yn fater arall," meddai.
Abby Cripps
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd yr athrawes Gymraeg Abby Cripps ei bod yn credu y bydd y cymelliadau uwch yn helpu i ddenu mwy o bobl i hyfforddi mewn pynciau allweddol

Beirniadaeth gan undebau athrawon

Dywedodd Laura Doel o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru y dylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar yr "heriau sylfaenol" sy'n wynebu ysgolion yn hytrach na dibynnu ar gymelliadau ariannol.

Rhybuddiodd y bydd athrawon newydd mewn rhai pynciau yn derbyn mwy o gymorth ariannol na chydweithwyr sydd eisoes yn y gweithlu neu fyfyrwyr sy'n hyfforddi mewn pynciau eraill sydd hefyd eu hangen.

"Bydd hynny'n creu amgylchedd gwaith afiach iawn, iawn - dyw e ddim yn deg," meddai.

Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol dros Gymru undeb athrawon NASUWT, fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) yn "arwydd drwg".

"Bydd yn rhoi'r argraff i athrawon yng Nghymru nad yw'r llywodraeth newydd yn cymryd recriwtio a chadw athrawon o ddifrif," meddai.
"Ni all cynnydd bach mewn bwrsarïau i athrawon dan hyfforddiant wneud iawn am y slap yn yr wyneb hwn i'r proffesiwn addysg."

Croeso gan arweinwyr ysgolion ond heriau parhaus

Ar y llaw arall, croesawodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru y cynnydd yn y cymelliadau.

Dywedodd cyfarwyddwr y corff, Claire Armitstead, ei bod yn gobeithio y bydd y newid yn arwain at fwy o raddedigion yn dewis addysgu, "yn enwedig mewn pynciau lle mae prinder mawr o athrawon".

Ond ychwanegodd na fydd y mesur hwn ar ei ben ei hun yn "datrys yr argyfwng recriwtio a chadw staff".

Dywedodd fod angen "chwilio am ffyrdd i leihau llwyth gwaith ac ymdrin â'r rhesymau sy'n arwain at lawer o athrawon yn gadael y proffesiwn o fewn ychydig flynyddoedd".

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi derbyn adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ac yn rhoi ystyriaeth ofalus i'w holl argymhellion, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyflog".

Ychwanegodd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ac y cynhelir ymgynghoriad ar ddyfarniad cyflog arfaethedig ar gyfer 2026-27 ar ôl gwyliau'r haf.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • 'Ni ar ein gliniau erbyn diwedd y tymor' - Sut mae datrys her denu athrawon?
  • 'Hyd at £30,000 i athrawon dan hyfforddiant os fydd Plaid Cymru mewn grym'
  • Pam fod cymaint o athrawon Cymraeg yn gadael y byd addysg?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News