Skip to main content
Advertisement

Cyngor Sir Caerfyrddin Gwrthod Cais i Ymestyn Glo Brig Glan Lash

Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthod cais cwmni Bryn Bach Coal Ltd i ymestyn gwaith glo brig Glan Lash, gan amddiffyn yr amgylchedd lleol a bioamrywiaeth.

·4 min read
Arwydd wrth fynedfa glofa Glan Lash

Gwrthod Cais i Ymestyn Glo Brig Glan Lash

Fe agorodd y lofa yn 2012 ac mae'r cwmni sy'n gyfrifol amdani wedi ceisio ddwywaith i ymestyn y gwaith.

Mae'r cynnig olaf oedd wrthi'n cael ei ystyried am ragor o gloddio am lo yn y Deyrnas Unedig wedi'i wrthod gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Penderfynodd y cyngor beidio â chaniatáu cynllun i ymestyn safle glo brig Glan Lash ger Llandybïe, gan ddweud y byddai'n niweidio'r amgylchedd lleol.

Roedd cwmni Bryn Bach Coal Ltd wedi gofyn i allu palu am 85,000 o dunelli o lo, gan addo creu 11 o swyddi.

Dyma'r ail waith i gynlluniau'r cwmni am estyniad gael eu gwrthod ers i'r lofa gau yn 2019.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb y cwmni.

Glan Lash

Tristwch a Phryder Wrth i Lofa Ffos-y-Fran Gau

Torri biliau gyda dŵr o hen byllau glo?

Wrth egluro'r penderfyniad mewn hysbysiad ar-lein, dywedodd pennaeth lle a chynaliadwyedd y cyngor, Rhodri Griffiths y byddai'r cynlluniau yn gwrthdaro â nifer o bolisïau lleol ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd.

Byddai coetiroedd oedd wedi'u gwarchod a pherthi'n cael eu niweidio, a'r cloddio'n arwain at "aflonyddwch, dirywiad a cholled annerbyniol" o diroedd mawn "anadferadwy".

Roedd pryderon hefyd am boblogaeth leol o fritheg y gors - un o loÿnnod byw mwyaf prin y Deyrnas Unedig.

Roedd y cwmni wedi addasu eu cynlluniau gwreiddiol am estyniad i'r gwaith cloddio, ar ôl i gynghorwyr wrthod y cais gwreiddiol yn 2023.

Fe agorodd y lofa yn 2012 â thrwydded oedd yn caniatáu tynnu 92,500 o dunelli o lo dros gyfnod o bedair blynedd a hanner.

Advertisement

Dywedodd Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru bod penderfyniad y cyngor yn "newyddion gwych".

"Mae'n golygu nid dim ond rhoi stop ar gloddio yn Glan Lash ond dyma oedd y cynnig olaf am safle glo brig yng Nghymru hefyd," meddai.
"Mae'n rili arwyddocaol achos mae nawr yn meddwl y gallwn ni symud at ddyfodol o ynni mwy glan a gwyrddach yng Nghymru, a hefyd mae'n meddwl bod y tir yna nawr yn gallu cael ei adfer i natur a'r gymuned," ychwanegodd.

Dywedodd Coal Action Network fod "dim cais byw ar gyfer pwll glo newydd" yn y Deyrnas Unedig bellach, a bod y penderfyniad yn dangos "ymrwymiad clir, a strategol i arweinyddiaeth ar yr hinsawdd, gwarchod cynefinoedd prin, a diogelu iechyd cymunedau lleol".

"Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu a'r awdurdod lleol ar adfer y safle er mwyn sicrhau bod hynny'n cael ei gwblhau i'r safon sydd wedi'i addo," meddai Daniel Therkelsen o'r grŵp ymgyrchu.

Glo 'o Ansawdd Uchel'

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin iddyn nhw wrthod y cais am ei fod "yn mynd yn groes i bolisïau oedd wedi'u hamlinellu yng nghynllun datblygu lleol" y sir.

Mae Bryn Bach Coal Ltd wedi cael cais am ymateb.

Yn eu cais cynllunio, roedd y cwmni wedi dadlau eu bod wedi datblygu "marchnad niche ar gyfer anthracite o ansawdd uchel" gyda rhan helaeth y glo ddim yn cael ei losgi ond ei ddefnyddio'n hytrach mewn diwydiannau fel hidlo dŵr a chreu batris.

Mae ganddyn nhw chwe mis i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Fe gaeodd safle glo brig mwya'r DU - Ffos-y-Fran ger Merthyr Tydfil - yn 2023 ar ôl i'r perchnogion yno fethu yn eu hymgais am estyniad i'r gwaith.

Ar safleoedd o'r fath mae craig a phridd yn cael ei grafu oddi ar yr wyneb er mwyn casglu glo - gan greu pwll agored, yn hytrach na phalu'n ddwfn yn y ddaear.

Mae gan Gymru un pwll glo dwfn ar ôl yn Aberpergwm, Cwm Nedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon Perthnasol

Gwrthod cais i ymestyn gwaith glo brig ger Rhydaman

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News