Tân ar Safle Gwaith Dur Tata ym Mhort Talbot
Mae trigolion ger safle gwaith dur Tata ym Mhort Talbot wedi cael eu cynghori i aros dan do ar ôl i dân ddechrau ar un o linellau prosesu'r safle.
Dechreuodd y tân tua 20:00 nos Fercher, gyda staff wedi cael eu symud o'r safle yn ddiogel.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y gwasanaethau brys yn parhau ar y safle fore Iau ac yn gweithio i reoli'r digwyddiad.
Mae trigolion wedi cael cyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau, tra bod gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal os yn bosibl.
Roedd mwg trwchus i'w weld yn codi o'r safle, ac yn ôl Kellie Evans, oedd yn gyrru heibio, roedd yr olygfa yn
"apocalyptaidd".
Dywedodd nad oedd hi'n gallu gweld y fflamau
"oherwydd bod yr awyr mor ddu".

Dywedodd Tata Steel fod yr holl weithwyr wedi gadael y safle'n ddiogel.
Ychwanegodd y cwmni nad oedd y tân yn gysylltiedig â dymchwel hen ddaliwr nwy gwag ar y safle nos Fercher.
Diolchodd Tata Steel i staff y safle a'r gwasanaethau brys am eu
"gweithredu prydlon a phroffesiynol".
Pynciau Cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Carcharu gweithwyr am ddwyn gwerth £1.2m o dun o waith dur TATA
- Tata: Gweithwyr yn protestio yn erbyn colli swyddi
- Galw ar Tata i oedi cynlluniau i gau ffwrneisi chwyth






