Mae Dylan Dawes yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn
Mae cyn-gynhyrchydd gyda'r BBC sy'n wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â delweddau anweddus o blant wedi datgan ei fod ar brawf oherwydd "rhywun arall yn edrych ar bornograffi" ar ei ddyfeisiau.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod staff yn hen ganolfan BBC Cymru yn Llandaf yn aml yn defnyddio offer cydweithwyr, gan gynnwys gyriant disg caled (hard drive) oedd yn berchen i Dylan Dawes.
Daeth yr heddlu o hyd i dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant, gan gynnwys bron i 200 o luniau Categori A - y mwyaf difrifol - ar bedwar dyfais yng nghartref Mr Dawes yn 2022.
Mae'r diffynnydd 50 oed o Gaerdydd yn gwadu chwe chyhuddiad o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant.
'Amhosib' cadarnhau pwy lawrlwythodd ddelweddau cam-drin plant
Cyn-gynhyrchydd BBC yn gwadu bod â delweddau anweddus o blant
Clywodd y llys fod Mr Dawes wedi gweithio yng nghanolfan y BBC yn Llandaf, yn bennaf fel cynhyrchydd radio, ers 2001.
Roedd hynny mewn swyddfa agored, y rhan fwyaf o'r amser heb ddesgiau penodol ar gyfer gweithwyr penodol.
Cafodd liniadur gwaith, oedd yn anarferol ar y pryd, ond byddai hefyd yn dod â dyfeisiau personol i'r gweithle am resymau ymarferol fel defnyddio meddalwedd nad oedd ar gael ar y gliniadur.
Roedd hynny'n cynnwys gliniadur Compaq personol a gyriant disg caled Freecom, a gafodd eu gadael yn y swyddfa yn aml a'u defnyddio gan gydweithwyr "yn rheolaidd" i storio neu symud data.
Ychwanegodd ei fod wedi mynd ag un o ddau hen iPad personol "yn bendant" i'r swyddfa, ond mae'n amau a wnaeth hynny yn achos y llall.
Dywedodd ei fod "yn bendant ddim" â diddordeb erioed mewn pornograffi o blant, mewn ymateb i fargyfreithiwr yr amddiffyn Andrew Taylor.
'Dim syniad pwy all fod yn gyfrifol'
Roedd wedi edrych ar bornograffi "heterorywiol o oedolion", gan gynnwys ar iPad teuluol, ond ei fod wedi dileu'r hanes archwilio gan fod ei blant hefyd yn defnyddio'r ddyfais.
"Oes gyda chi unrhyw syniad sut gyrhaeddodd y delweddau [anweddus] y dyfeisiau yma?" gofynnodd Mr Taylor.
"Does dim syniad gen i," atebodd.
"Allwch chi awgrymu o gwbl pwy allai fod yn gyfrifol am y delweddau yma?" gofynnodd Mr Taylor.
Dylan Dawes wrth yr heddlu:
"Nadwyf unrhyw beth am y lluniau anweddus oedd ar ei ddyfeisiau"

Wrth ei groesholi, gofynnodd Harry Baker ar ran yr erlyniad pam ddywedodd Mr Dawes mewn cyfweliad heddlu nad oedd "yn ymwybodol" ei fod wedi gweld delweddau anweddus o blant, yn hytrach na gwadu'r peth yn llwyr.
"Dyna oedd yr ieithwedd gywir," atebodd, oherwydd "straen aruthrol ar y pryd".
Gwadodd ei fod wedi archwilio'r term jailbait ar ei liniadur, a'i fod "erioed" wedi gweld lluniau o ferched dan oed wrth edrych ar wefannau pornograffi oedolion.
Yn achos y gyriant disg caled Freecom, dywedodd y daeth i fod yn offer gwaith fwy neu lai oherwydd pa mor aml y cafodd ei ddefnyddio gan gydweithwyr.
Roedd yna elfen o "ymddiriedaeth" wrth i gydweithwyr ddefnyddio offer ei gilydd, meddai.
Er nad oedd hynny'n bolisi gan y BBC, dywedodd taw "dyna beth oedd pobl yn ei wneud i wneud eu gwaith".
Ychwanegodd bod dyfeisiau'n cael eu gadael yn y swyddfa, ac weithiau'n gadael yr adeilad dros dro.
'Wnes i mo'u rhoi yna'
Dywedodd Mr Dawes nad oedd erioed wedi gweld y delweddau anweddus oedd ym min ailgylchu'r gyriant disg caled.
"Ond maen nhw yn eich bin ailgylchu chi," dywedodd Mr Baker. "Ai cyd-ddigwyddiad anffodus yw canfod [delweddau anweddus] ar bedwar o'ch dyfeisiau?"
"Mae'n anffodus," meddai Mr Dawes.
"Onid esboniad mwy synhwyrol yw y gallai perchennog y pedair dyfais fod wedi eu rhoi yna?" gofynnodd Mr Baker.
"Na, achos wnes i mo'u rhoi yna," atebodd Mr Dawes.
Gofynnodd Mr Baker wedyn: "Ai dweud ydyn ni eich bod yn ddioddefwr rhywun arall yn edrych ar bornograffi?"
Pan ofynnwyd pam na awgrymodd pwy allai fod yn gyfrifol yn ystod cyfweliad heddlu, atebodd Mr Dawes taw "damcaniaethu pur fyddai hynny" ac nad oedd eisiau "dechrau taflu enwau o gwmpas".
"A'i'r gwirionedd yw bod dim atebion gyda chi ac eich bod yn gobeithio blyffio eich ffordd allan ohono?" gofynnodd Mr Baker.
"Dydw i ddim yn ceisio blyffio fy ffordd allan o unrhyw beth," meddai Mr Dawes.
"Y gwirionedd yw eich bod wedi lawrlwytho a gwylio pornograffi plant," awgrymodd.
Atebodd y diffynnydd: "Dyw hynny yn bendant ddim yn wir."
'Popeth yn hollol newydd i ni gyd'
Clywodd y llys dystiolaeth Joseph Gooden, a weithiodd i'r BBC rhwng 2000 a 2016 gan rannu swyddfa am gyfnod gyda Dylan Dawes, er eu bod mewn timau gwahanol.
Dywedodd na allai gofio cael gyriant disg caled ei hun yn yr adeg hynny, a bod pobl yn "rhannu ac yn cymryd beth roedden ni ei angen" ar gyfer prosiectau penodol.
Gofynnodd Andrew Taylor a oedd yna unrhyw bolisi bryd hynny ynghylch cadw offer dan glo neu eu hamddiffyn gyda chyfrinair.
"Roedd yna drafodaeth amdano tua 2014," meddai Mr Gooden, "ond roedd popeth yn hollol newydd i ni gyd ar y pryd."
Mae Dylan Dawes yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




