Skip to main content
Advertisement

Cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn cynnig Sgwâr Callaghan ar gyfer ysgol Gymraeg newydd

Cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ddarparu tir ar Sgwâr Callaghan fel safle posibl ar gyfer pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas.

·4 min read
Ysgolion uwchradd Caerdydd

Tri ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd ar hyn o bryd

Mae tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern.

Ceisio sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd

Mae ymgyrchwyr sy'n cefnogi sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd wedi croesawu'r newyddion bod cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ddarparu tir yng nghanol y ddinas fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd.

Dywedodd Huw Thomas, cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd sydd bellach yn aelod Llafur yn y Senedd, ei fod wedi

"gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r tir sydd yn ei heiddo ar Sgwâr Callaghan i Gyngor Caerdydd fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd hon".

Gwnaed y cais hwn cyn yr etholiad fis Mai, ac mae Mr Thomas wedi cael

"ymateb cadarnhaol"
gan y gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford.

Mae Ymgyrch Ysgol De Caerdydd wedi croesawu'r newyddion, gan eu disgrifio fel

"datblygiad tyngedfennol"
i'r ymgyrch.

Mae'r BBC wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Sgwâr Callaghan yw'r safle ar y de-ddwyrain o orsaf Caerdydd Canolog.

Sgwâr Callaghan
Disgrifiad o’r llun, Mae Sgwâr Callaghan i'r de-ddwyrain o orsaf Caerdydd Canolog

Ymholiad yn y Senedd am y cynnig

Wrth ofyn cwestiwn i'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, yn y Siambr ddydd Mawrth, dywedodd Huw Thomas, AS Caerdydd Penarth, mai

"mater o falchder i mi yn ystod fy nghyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd, fu cyflawni twf sylweddol mewn darpariaeth addysg Gymraeg yn y brif ddinas".

Ychwanegodd:

"Bellach, mae'r ddinas yn ystyried sut y gellid agor pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yma.

"Yn gynharach eleni, derbyniais i ymateb cadarnhaol gan y gweinidog cyllid ar y pryd, Mark Drakeford, i fy nghais yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r tir sydd yn ei heiddo ar Sgwâr Callaghan i Gyngor Caerdydd fel safle posibl ar gyfer yr ysgol newydd hon.

"A gaf i gadarnhad heddiw gennych chi fod y cynnig hwnnw'n dal i sefyll o dan y llywodraeth newydd?"

Advertisement

Ymateb y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg

Mae'r gweinidog Anna Brychan, sydd wedi byw yn ardal Grangetown yn ne Caerdydd ers dros 25 mlynedd ac wedi cefnogi ymgyrch Ysgol De Caerdydd yn y gorffennol, wedi ymateb i'r cwestiwn.

Dywedodd:

"Rwy'n ymwybodol fy mod i i fod yn ofalus iawn o ran gwneud datganiadau ar faterion sydd yn ymwneud â dyrannu llefydd ysgol, rhag ofn bydd y rheini'n rhai wedyn bydd yn rhaid i weinidogion wneud sylw arnyn nhw yn y man.

"Rhag tramgwyddo yn fy natganiad llafar cyntaf erioed, gaf i, os gwelwch yn dda, ofyn amynedd ganddo fe i fi gael gwirio i ba raddau mae e'n addas i fi fynd i fanylder ar y cwestiwn a gododd e ynglŷn â phedwaredd ysgol uwchradd yng Nghaerdydd?"

Cynllun tram newydd yn Sgwâr Callaghan

Dechreuodd gwaith ddydd Llun yn Sgwâr Callaghan ar gynllun tram newydd fel cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, a fydd yn cysylltu gorsaf ganolog y ddinas â'r Bae erbyn dechrau 2029.

Llun artist o lwybr arfaethedig y dramffordd drwy Sgwâr Callaghan
Disgrifiad o’r llun, Dechreuodd gwaith ddydd Llun yn Sgwâr Callaghan ar gynllun tram newydd fel cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, a fydd yn cysylltu gorsaf ganolog y ddinas â'r Bae erbyn dechrau 2029

Ymateb Ymgyrch Ysgol De Caerdydd

Dywedodd Catrin Dafydd ar ran Ymgyrch Ysgol De Caerdydd bod y cyfathrebu rhwng Huw Thomas a Mark Drakeford yn dangos

"cytundeb dros yr angen am y bedwaredd ysgol uwchradd a bod rhaid ei lleoli wrth galon cymunedau mwyaf aml-ddiwylliannol y brifddinas a Chymru".

Ychwanegodd:

"Mae safle Sgwâr Callaghan yn edrych fel dewis addawol iawn ar gyfer adeiladu ysgol Gymraeg bob oed.

"Bydd sefydlu Ysgol De Caerdydd wrth galon y gymuned yn symbol clir o'r Gymru newydd, gan sicrhau fod y Gymraeg ar gael yn hygyrch a chymunedol i ni i gyd.

"Cyhyd â bod digon o le ar gyfer adnoddau o bob math, mae'r datblygiad yn gwireddu gweledigaeth ddinesig gynhyrfus i'r Gymraeg, sy'n gwyrdroi'r ffaith mai Tre-biwt, un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y brifddinas, yw un o'r ardaloedd hefyd sydd â'r mynediad gwaethaf at addysg Gymraeg ar hyn o bryd."

Dilynwch Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Cynlluniau addysg Gymraeg Caerdydd yn 'gawdel'
  • Galw am bedwaredd ysgol gyfun Gymraeg yn ne Caerdydd
  • 'Rhyddhad' y bydd lle i ragor o blant mewn Ysgol Gymraeg

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News