Cyn-aelod Bwncath yn wynebu gwrandawiad disgyblu
Cafodd Alun Jones Williams ei glirio mewn llys ynghylch honiad o gyfathrebu rhywiol â phlentyn.
Mae cyn-aelod o'r band Bwncath yn wynebu gwrandawiad disgyblu ddwy flynedd wedi i achos llys yn ei erbyn gael ei ollwng.
Cafodd Alun Jones Williams, Bwllheli, ei gyhuddo ym mis Tachwedd 2023 o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn honni na wnaeth Alun Jones Williams wadu gyrru negeseuon a lluniau at ferch 15 oed a'i fod yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol fel athro cofrestredig.
Ar y pryd dywedodd Mr Williams ei fod yn credu bod y ferch yn 18 oed.
Mae panel disgyblu wedi clywed na wnaeth Mr Williams a oedd yn chwarae gitâr fas i Bwncath gymryd digon o ofal i wirio oedran y plentyn wrth gyfnewid negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n gyn-athro mathemateg yn Ysgol Godre'r Berwyn yn y Bala, ond doedd y ferch ddim yn ddisgybl yn yr ysgol lle'r oedd yn gweithio ynddi.
Clywodd y panel fod Mr Williams wedi gyrru sawl llun a neges o natur rywiol at y plentyn.
Gollwng cyhuddiad rhyw yn erbyn cyn-aelod Bwncath
Nid oedd Mr Williams yn bresennol yng ngwrandawiad rhithiol y CGA ddydd Llun 11 Mai.
Roedd wedi ysgrifennu at y rheoleiddiwr yn dweud na fyddai'n mynychu, nad oedd am ddychwelyd i ddysgu a'i fod yn derbyn y byddai'r gwrandawiad yn mynd ymlaen hebddo.
Daeth yr achos llys yn ei erbyn i ben ym mis Ebrill 2024 wedi i'r erlyniad beidio â chynnig unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn - roedd yn 26 oed ar y pryd.
Cyhoeddodd y Barnwr Nicola Saffman reithfarn ffurfiol yn nodi ei fod yn ddieuog ac ni ddygwyd unrhyw gyhuddiadau pellach.
Gan gloi'r achos ar y pryd, dywedodd y Barnwr Nicola Saffman ei bod yn
"cyhoeddi bod Mr Williams yn ddieuog ac yn rhydd i adael y llys".
'Bywyd byth yr un fath eto'
Wrth i'r achos gau, dywedodd Mr Williams ar y pryd fod ei
"enw da yn deilchion"o ganlyniad i'r cyhuddiad
"di-sail", ac y bydd ei
"fywyd byth yr un fath eto".
Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan ei dîm cyfreithiol ar y pryd, dywedodd:
"Rwyf yn hynod falch o gael fy nghanfod yn ddieuog o'r diwedd. Mae'n rhyddhad i mi fod cyfiawnder wedi ennill y dydd."
Mae gwrandawiad CGA - sydd ar wahân - yn nodi nad oedd Mr Williams wedi cymryd digon o ofal i wirio oedran y person yr oedd yn anfon neges ati na chwaith wedi canfod os oedd hi'n dal yn yr ysgol.
Mae'r CGA yn honni bod Mr Williams yn gwybod, neu nad oedd wedi cymryd digon o ofal i wirio, oedran y ferch a bod y negeseuon a anfonodd ati o natur rywiol ac wedi'u cymell yn rhywiol.
Mae'r gwrandawiad disgyblu yn parhau.






