Darpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr yn anghyson ar draws Cymru, medd ymchwil
Mae Efa, Elen a Swyn o Brifysgol Caerdydd yn cydnabod casgliad gwaith ymchwil newydd sy'n dangos bod y ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr yn amrywio'n fawr ar draws Cymru.
Ddydd Llun, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno adroddiad ar y gwaith ymchwil hwn ar faes Eisteddfod yr Urdd.
"Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw'r profiad hwnnw'n gyson ar draws y sector," medd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn.
Casglwyd ymatebion gan dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac uwch, gan ddangos profiadau cymysg o ran darpariaeth Gymraeg ar draws y sector.
"Er bod cynnydd wedi bod mewn darpariaeth Gymraeg o ganlyniad i waith y Coleg, mae'r ymchwil hwn yn amlygu unwaith yn rhagor bod angen i'r profiad Cymraeg ymestyn ymhell tu hwnt i'r ystafell ddosbarth," medd Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu profiadau rhai myfyrwyr a oedd ar faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Sul.
Profiadau myfyrwyr o'r ddarpariaeth Gymraeg yn y brifysgol
Elen Evans, myfyrwraig trydedd flwyddyn yn astudio Daearyddiaeth yng Nghaerdydd, nododd diffyg darpariaeth Gymraeg ar ei chwrs a'r effaith arni.
"Gyda fy mhwnc i, does dim llawer o ddarpariaeth Gymraeg ar gael. Yn y diwedd ges i diwtor personol Cymraeg, ond s'dim tiwtoriaid ar y cwrs yn dysgu trwy'r Gymraeg.
"Ma' hawl gyda ni i gyflwyno asesiadau yn Gymraeg, ond doedd hynny ddim yn teimlo'n ymarferol gan fod popeth arall yn cael ei wneud yn Saesneg ac felly fi'n aml yn teimlo dan anfantais."
Mae Swyn Trysor, sy'n astudio Rheolaeth Busnes a Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhannu teimladau tebyg am y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod ei hastudiaethau.
"Yn ystod y tair blynedd dwi wedi bod yma, dim ond un modiwl Cymraeg sydd wedi bod ar gael. Ar wahân i hynny, prin iawn oedd y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg."
Mae hefyd yn pwysleisio'r effaith gadarnhaol o fyw mewn llety Cymraeg ar ei brofiad cymdeithasol.
"Pan ddechreuais yn y brifysgol, o'n i'n byw mewn fflat Gymraeg ac roedd hynny'n rili neis. Ond doedd y blociau eraill ddim yn Gymraeg, felly roedd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran cymdeithasu."
Mae Swyn ac Elen yn credu bod angen i brifysgolion wneud mwy i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr.

Effaith bloc Cymraeg yn Neuadd Senghennydd
Efa Jones, sy'n astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg, tynnodd sylw at bwysigrwydd cael bloc Cymraeg yn llety Senghennydd i greu cymuned Gymraeg agos a diogel.
"Yng Nghaerdydd yn ddiweddar, rydyn ni wedi gallu sicrhau bod bloc Cymraeg yn llety Senghennydd. Mae hynny wedi helpu i greu cymuned agos ac awyrgylch diogel lle gallwn ni siarad Cymraeg gyda'n gilydd."
Fodd bynnag, mae Efa hefyd yn mynegi pryderon am y ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu o fewn y brifysgol.
"Ar y llaw arall, dydy'r adran Gymraeg ddim yn bodoli fel adran ar wahân bellach ac mae hi bellach yn rhan o adran ieithoedd. Dwi'n meddwl bod hynny'n dangos nad yw'r Gymraeg yn flaenoriaeth fel y dylai fod ym mhrifddinas Cymru."
Mae hi hefyd yn nodi bod llawer o fyfyrwyr yn poeni am y diffyg cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae lot o fyfyrwyr hefyd yn poeni nad ydyn nhw'n gallu gwneud eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gorfod gwneud rhan helaeth o'u hastudiaethau yn Saesneg."

Ystyriaeth o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr
Mae'r ymchwil hefyd yn ystyried sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo i fyfyrwyr a'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg mewn pedwar maes penodol:
- gallu myfyrwyr i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
- dewis o lety gyda siaradwyr Cymraeg
- cynnig a dyrannu tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg
- mynediad at wasanaethau llesiant drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ogystal, mae'r defnydd ehangach o'r Gymraeg gan sefydliadau addysgol, gan gynnwys diwylliant ieithyddol y campws, wedi cael ei ystyried.

Arwyddocâd y gwaith ymchwil i gynllunio'r dyfodol
Mae'r gwaith ymchwil yn cael ei ystyried yn bwysig er mwyn cynllunio'r ffordd ymlaen, yn ôl swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
"Wrth i ni ystyried pwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd parhaus o'r iaith Gymraeg, rhaid cydnabod pa mor allweddol yw rôl colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol fel rhan o'u bywydau academaidd a chymdeithasol.
"Yr hyn mae'r gwaith ymchwil hwn yn ei gynnig i ni yw gwell dealltwriaeth o brofiad uniongyrchol myfyrwyr o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae dyletswyddau penodol wedi'u gosod drwy safonau'r Gymraeg, ond hefyd ar y diwylliant ehangach sy'n dylanwadu ar ddefnydd o'r iaith o ddydd i ddydd.
"Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw'r profiad hwnnw'n gyson ar draws y sector.
"O ganlyniad, rydym wedi nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i'r sefydliadau perthnasol fynd i'r afael â nhw. Rwy'n edrych ymlaen at drafodaethau adeiladol a chadarnhaol dros y misoedd nesaf."

Pum cam gwella penodol wedi'u hadnabod
Rhannwyd holiaduron ymhlith myfyrwyr mewn colegau a phrifysgolion yng Nghymru, ac cynhaliwyd sesiynau trafod gyda grwpiau llai i gael darlun cyflawn o'r gwasanaethau Cymraeg a gynigir.
O ganlyniad, nodwyd pum cam gwella penodol:
- Safoni trefniadau asesu yn Gymraeg
- Cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol, nid dim ond fel opsiwn
- Cau'r bylchau sgiliau Cymraeg yn y gweithlu
- Cryfhau'r profiad Cymraeg sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn
- Sicrhau cysondeb drwy hunanasesu a monitro cadarn
Ystadegau a sylwadau ychwanegol
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng dros ddwy flynedd, ac mae angen mwy o Gymraeg ar-lein ac mewn gemau i ehangu defnydd ohoni.
Mae hefyd lle i wella wrth gynnig cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.
James Owen, Prif Weithredwr Medr, sy'n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru, ychwanegodd:
"Mae'r canfyddiadau'n dangos darlun amrywiol, ac yn tanlinellu'r angen i wneud mwy i gefnogi'r sector addysg drydyddol, ei staff, a'i ddysgwyr i symud ymhellach ar y continwwm sgiliau Cymraeg dros amser.
"Bydd Amod y Gymraeg newydd Medr yn rhoi ffocws cliriach ar rôl darparwyr wrth hybu a hyrwyddo'r Gymraeg, ac ar feithrin amgylchedd lle gall staff a dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn naturiol.
"Bydd angen i golegau a phrifysgolion ddangos sut maen nhw'n mynd i hyrwyddo gwerth y Gymraeg, y manteision mae'r iaith yn eu cynnig, a sut y byddan nhw'n creu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
"Mae'r gofynion hyn, sydd wedi'u cyd-greu â phartneriaid a chyd-reoleiddwyr megis Comisiynydd y Gymraeg, yn codi'r uchelgais ar draws y sector ac yn creu lifer rheoleiddio fydd yn sail i'n Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg Drydyddol sydd wrthi'n cael ei ddatblygu."
Ymchwil amserol a llwybr clir i wella
Yn ôl Ioan Matthews, mae'r ymchwil yn amserol ac yn cynnig llwybr clir i wella gwasanaethau Cymraeg i ddysgwyr mewn colegau a phrifysgolion.
"Mae profiadau dysgwyr o'r Gymraeg yn ystod eu cyfnod mewn coleg neu brifysgol yn dylanwadu'n sylweddol ar eu gallu a'u parodrwydd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle wedyn.
"Mae'r camau gwella yn rhoi llwybr clir i golegau a phrifysgolion weithio gyda sefydliadau fel Medr, Comisiynydd y Gymraeg a'r Coleg i wella'r gwasanaeth i ddysgwyr.
"Yn sgil newidiadau diweddar i'r tirwedd addysg drydyddol, mae hyn yn fwy o reidrwydd nag erioed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






