Ceidwadwyr yn gwrthod cydweithio â Phlaid Cymru ar gynlluniau gwariant
Mae Rhun ap Iorwerth angen cefnogaeth gan blaid arall i basio cyllideb atodol y llywodraeth.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan na fyddant yn cydweithio gyda Phlaid Cymru ar eu cynlluniau gwariant cyntaf fel llywodraeth.
Bydd Rhun ap Iorwerth yn wynebu ei brawf cyntaf fel Prif Weinidog ar 14 Gorffennaf, pan fydd angen cefnogaeth gan blaid arall i basio cyllideb atodol y llywodraeth.
"Nad ydym wedi cael unrhyw sgyrsiau o gwbl gyda'r llywodraeth," meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wrth y BBC, gan ychwanegu y byddai aelodau'r blaid yn pleidleisio yn erbyn cyllideb canol blwyddyn y llywodraeth.
Mae'r penderfyniad hwn yn golygu mai Llafur yw'r unig bartner posib ar gyfer cytundeb gwerth £294m, sy'n cynnwys £40m ar gyfer atgyweirio ysgolion a £100m ar gyfer lleihau amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd ffynhonnell yn y Blaid Lafur fod sgyrsiau "adeiladol" yn digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth, ond eu bod yn parhau i fod "ymhell ar wahân" i Blaid Cymru ar hyn o bryd.
'Cyfle olaf' i wella Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - gweinidog
Mae gwasanaeth bws newydd wedi cael ei sefydlu i gysylltu gogledd a de Cymru.
Mae rhybudd wedi cael ei roi y gallai cynllun dychwelyd poteli gwydr i gwsmeriaid gostio 50c y potel.
Mae Llafur wedi galw am fwy o arian i fynd tuag at anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn ysgolion.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y Senedd ddydd Mawrth ei fod yn barod i siarad â Reform yn ogystal ag eraill.
Fodd bynnag, mae cytundeb rhwng y ddwy blaid yn cael ei ystyried yn annhebygol gan ystyried bod Plaid Cymru wedi diystyru gweithio gyda phlaid Nigel Farage yn ystod yr etholiad diwethaf.
Nid oes gan Blaid Cymru ddigon o aelodau i basio'r gyllideb mewn pleidlais yn y Senedd - fe gollodd y llywodraeth bleidlais yn ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yr wythnos diwethaf.
Amlwg na fydd gan y llywodraeth gefnogaeth
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd Reform, Dan Thomas, os oedd Rhun ap Iorwerth yn fodlon gweithio gyda Reform.
"Mae'n amlwg o'r ymateb cychwynnol gan yr holl wrthbleidiau, os yw'r pleidleisio'n cyd-fynd â'r rhethreg, na fydd gan y llywodraeth gefnogaeth i'w chyllideb atodol, ac na fydd yn mynd trwodd."
"Felly a wnaiff y prif weinidog ddatgelu a ydych chi'n cynnal unrhyw drafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol eraill, a oes unrhyw le i gyfaddawd o fewn y gyllideb atodol ac a fyddech chi'n fodlon gweithio gyda Reform?"
Esboniodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn fodlon cael sgyrsiau gydag "arweinwyr Reform, y Ceidwadwyr, Llafur a'r Blaid Werdd".
Roedd yn cydnabod y bydd angen cefnogaeth gan blaid arall er mwyn pasio'r gyllideb, gan alw ar aelodau i gefnogi eu mesurau i leihau rhestrau aros a chynyddu gwariant ar ofal plant.
Gofynnodd arweinydd Reform, Dan Thomas, os oedd Rhun ap Iorwerth yn fodlon gweithio gyda Reform.

Yn ôl ffynonellau o fewn y blaid Geidwadol, nid oes trafodaethau wedi digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth.
Dywedodd Dan Thomas bod gan Reform nifer o linellau coch; maen nhw eisiau sicrwydd o swydd i bob myfyriwr nyrsio a bydwraig, cynyddu gwariant ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â rhoi'r gorau i holl wariant Llywodraeth Cymru dramor.
Mae Elin Jones wedi cyhoeddi £294m mewn gwariant newydd yn ei chyllideb atodol, gyda £40m i fynd ar atgyweirio ysgolion, £55m ar ofal plant, a £100m ar gyfer amseroedd aros.
Daw'r arian ychwanegol o ganlyniad i arian a wariwyd gan lywodraeth y DU - yn bennaf i dalu dyledion cynghorau Lloegr yn sgil gwariant ar gefnogi pobl ifanc ag anghenion addysg arbennig ac anableddau.
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar y llywodraeth i wario'r arian yma ar anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




