Skip to main content
Advertisement

BBC Uncovers Fake Manifesto and Misinformation Ahead of Senedd Election

Mae BBC wedi darganfod camwybodaeth gan gynnwys maniffesto ffug a honiadau anghywir am gost polisi 20mya ar-lein cyn etholiad y Senedd, gan ddefnyddio chwe phleidleisiwr cudd i fonitro'r sefyllfa.

·6 min read
Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI

BBC Creates Six Fake Voters to Monitor Online Environment

Mae'r BBC wedi creu chwe pherson ffug er mwyn cadw golwg ar eu byd nhw ar-lein - mae'r lluniau wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI.

Mae honiadau am wir gost polisi 20mya a maniffesto ffug ymhlith camwybodaeth sy'n cael ei rhannu ar-lein cyn etholiad y Senedd, yn ôl ymchwil BBC.

Ymhlith nifer, fe wnaeth pleidleiswyr cudd BBC Cymru weld un cyfrif oedd yn cael ei ddisgrifio fel "ffynhonnell newyddion ddibynadwy" tra, mewn gwirionedd, ei fod yn dudalen answyddogol oedd yn cefnogi plaid benodol.

Mae'r chwe phleidleisiwr cudd yn seiliedig ar ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol, dolen allanol.

Dim ond syniad bras o'r hyn sydd yn cael ei rannu sydd gennym ni, ond, mae'r ymchwil wedi dangos bod gwybodaeth gamarweiniol a ffug yn cael ei rhannu ar-lein.

Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI
Disgrifiad o’r llun, Mae'r pleidleiswyr ffug yn cynrychioli grwpiau gwahanol o bobl gydag amrywiaeth o werthoedd, swyddi a barn wleidyddol

What Can We Learn About Social Media From Creating Six Fake Profiles?

Mae un dudalen, Wales Network News, yn disgrifio ei hun fel "ffynhonnell newyddion ddibynadwy ar gyfer cymunedau Cymru".

Fe wnaeth y dudalen hon ymddangos ar ffrwd Facebook Claire, un o'r chwe phleidleisiwr cudd sydd yn bennaf yn dilyn grwpiau lleol o fewn ei hetholaeth, Afan Ogwr Rhondda.

Ar yr olwg gyntaf, roedd yn edrych fel ffynhonnell newyddion gonfensiynol; mae'n aml yn rhannu mwy na dwsin o negeseuon y dydd, bron pob un ohonynt am wleidyddiaeth Cymru a llawer mewn grwpiau Facebook cymunedol lleol, fel un Claire.

Roedd y post wnaeth ymddangos ar ffrwd Claire yn stori newyddion ddilys am gyn-arweinydd Senedd UKIP, Caroline Jones, yn gadael plaid Reform UK.

Mae'r pleidleiswyr ffug yn cynrychioli grwpiau gwahanol o bobl gydag amrywiaeth o werthoedd, swyddi a barn wleidyddol.

Ond pan gliciodd y BBC ar gyfrif Wales Network News ar Facebook, fe ddaeth hi'r amlwg fod gwybodaeth anghywir arno.

Roedd enghreifftiau'n cynnwys rhannu maniffesto ffug Reform UK dro ar ôl tro, yn honni y byddai'r blaid yn diddymu'r Senedd, yn cael gwared ar dimau chwaraeon Cymru, ac yn hyrwyddo "un anthem" ac "un iaith" i Brydain Fawr, yn ogystal â chael gwared ar bresgripsiynau a thocynnau bws am ddim.

Maniffesto ffug

Nid yw'r un o'r polisïau hyn yn ymddangos ym maniffesto Senedd go iawn Reform UK. Gellir dod o hyd i fanylion maniffesto pob plaid ar wefan BBC Cymru Fyw.

Wrth edrych yn fanylach, nid yw'r dudalen yn ffynhonnell newyddion ddiduedd, ond mae'n cynnwys gwybodaeth sydd yn bennaf yn cefnogi Plaid Cymru, yn rhannu straeon sy'n feirniadol o wrthwynebwyr y blaid ac yn aml yn copïo postiadau'n uniongyrchol o sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol y blaid.

Gan ddefnyddio teclyn tryloywder, mae'n bosib gweld, rhwng Gorffennaf 2020 a Thachwedd 2025, fod y dudalen yn cael ei galw'n "Cefnogwyr Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro".

Cyn hyn, ar ôl cael ei chreu ym mis Medi 2019, roedd yn dudalen oedd yn cefnogi Plaid Brexit yn yr un ardal.

Mae Wales Network News wedi cael cais am sylw.

Dywedodd Plaid Cymru nad oedd gan y dudalen unrhyw gysylltiad â'r blaid.

Additional Election Information and Data Privacy

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Ad (425x293)

Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?

Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Origin and Spread of the Fake Manifesto

Dydy hi ddim yn glir beth yw union darddiad y maniffesto ffug, ond daeth y BBC o hyd i dudalen a oedd wedi'i phostio a'i rhannu fisoedd cyn iddo ymddangos ar Wales Network News.

Ni wnaeth y dudalen honno ymateb ar ôl i'r BBC gysylltu.

Ymddangosodd tudalen wahanol, Doge Cymru (sydd hefyd yn cael ei alw'n Senedd Waste) ar ffrwd cyfrif X Siân, un arall o'r pleidleiswyr cudd ffuglennol.

Ar ei ffrwd, fe wnaethon ni weld postiad gan Doge Cymru, sy'n aml yn beirniadu'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel "y miliynau o bunnoedd a wastraffwyd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru".

Mewn un post, dywedodd y dudalen fod Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi bod mewn clymblaid am "y rhan fwyaf o" gyfnod 27 mlynedd Llafur mewn llywodraeth.

Mae clymblaid fel arfer yn golygu bod gan bob plaid dan sylw weinidogion yn y cabinet.

Dim ond unwaith y mae Plaid a Llafur wedi bod mewn clymblaid ym Mae Caerdydd, am bedair blynedd o 2007.

Fe wnaeth y pleidiau gytundebau cydweithio o 2016 i 2017 ac o 2021 i 2024 ar bolisïau penodol, ond roedd Plaid Cymru yn dal i fod yn wrthblaid.

Pobl ifanc yn sefyll mewn cylch yn edrych ar eu ffonau symudol
Disgrifiad o’r llun, Bydd BBC Cymru yn dal i fonitro ffrydau y chwe phleidleisiwr tan yr etholiad

Bydd BBC Cymru yn dal i fonitro ffrydau y chwe phleidleisiwr tan yr etholiad.

Claims About the 20mph Speed Limit Policy

Roedd y dudalen hefyd yn honni fod y terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru wedi "costio £9bn i economi Cymru".

Fe wnaeth y newid gostio £34m i'w weithredu ac mae wedi gweld gostyngiad yn nifer yr anafiadau ar ffyrdd Cymru, ond nid yw wedi bod yn boblogaidd yn gyffredinol.

Mae'n ymddangos mai'r amcangyfrif uchaf o gost y polisi i'r economi dros gyfnod o 30 mlynedd yw'r ffigwr o £9bn, a gafodd ei wneud mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru yn 2022.

Y gwir yw, nid ydym yn gwybod yn union beth fydd y costau na'r effaith hirdymor, ond mae'n anghywir i ddweud fod y polisi wedi costio, neu y bydd yn costio, £9bn.

Mae Senedd Waste hefyd wedi cael cais am sylw.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r hyn y mae ein Pleidleiswyr Cudd yn ei weld trwy'r gwahanol algorithmau yn ddarlun cyflawn o'r hyn y mae pleidleiswyr go iawn yn ei weld ar-lein yng Nghymru.

Ond, mae eu proffiliau wedi'u creu i adlewyrchu ystod o safbwyntiau a chefndiroedd, a byddwn yn parhau i fonitro eu ffrydau tan yr etholiad er mwyn rhannu sut mae'r ymgyrch yn datblygu ar y cyfryngau cymdeithasol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News