Ymosodiad Trwm mewn Ysgol Sir Benfro
Mae athrawes a gafodd ei thrywanu yn ei phen gan ddisgybl mewn ysgol yn Sir Benfro wedi dweud wrth y llys fod y digwyddiad yn rhywbeth
"mae'n ail-fyw bob dydd"a'i bod yn credu ei bod yn mynd i farw.
Cafodd Vicki Williams, athrawes hanes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, ei thrywanu gan ddisgybl ar 5 Chwefror.

Clywodd y llys fod y bachgen, oedd yn 15 ar y pryd, wedi dilyn Vicki Williams i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn
"hyrddio"ati gyda chyllell gegin fawr.
Dywedodd Mrs Williams iddi gael ei thrywanu yn ei phen a chael anafiadau i'w dwylo a'i chefn wrth geisio amddiffyn ei hun.
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.
Manylion y digwyddiad yn y llys
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, clywodd y rheithgor fod Mrs Williams wedi dysgu'r bachgen yn ystod y bore ac nad oedd unrhyw broblemau gyda'r bachgen dan sylw.
Wrth gael ei chroesholi, gofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Matthew Roberts KC, iddi:
"Oeddech chi'n dod ymlaen yn dda [gyda'r bachgen]?"
"Roeddwn i'n credu hynny,"meddai.
Gyda'r bachgen wedi methu gwers flaenorol, dywedodd fod ganddo beth gwaith
"copïo i fyny"i'w wneud.
O ystyried fod arholiadau ffug wedi bod a'r ffaith bod arholiadau TGAU ar y gorwel,
"a oedd hi'n anarferol iddo ddod i'ch gweld chi ar ddiwedd y dydd?"gofynnodd yr amddiffyn.
"Doedd e erioed wedi dod i wirio gwaith cyn y pwynt hynny."
Clywodd y llys fod y bachgen wedi cau drws yr ystafell ddosbarth, cyn dod i sefyll y tu ôl i Mrs Williams oedd yn esbonio'r gwaith wrth ei desg.
Dywedodd Mrs Williams:
"Yr holl amser, roedd yn twrio yn ei fag, doedd e ddim yn edrych [ar y llyfr]."
Dywedod bod hynny'n
"dacteg i wneud i mi barhau i siarad", a'i fod yna wedi gwneud
"symudiad araf i geisio mynd y tu ôl i mi".
"Mae'n tynnu rhywbeth allan o'i fag. Ar y pwynt yna, mae'n fy nharo i fy nghadair. Rwy'n edrych i fyny ac mae'r gyllell gyda'i blaen tuag i lawr."
Ymateb Gwasanaethau Brys a Chofnodion Bodycam
Cafodd deunydd bodycam yr heddlu ei chwarae yn y llys o'r cyfnod lle'r oedd y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad.
Roedd Mrs Williams i'w chlywed yn dweud
"rwy'n credu ei fod wedi fy mwrw gyda'r handlen [y gyllell]".
Wrth ei chroesholi, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn:
"Yn eich cyfweliad heddlu, rydych chi'n dweud, 'Roeddwn i'n gallu gweld yr ochr finiog'. Pam na fyddech wedi dweud hynny wrth yr heddlu yn y lle cyntaf?"
"Roedd y peth newydd ddigwydd, roedd gen i deimlad cryf o ofid ac yn ceisio deall beth oedd wedi digwydd a pham."
Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Mrs Williams wedi gofyn i'r bachgen beth oedd yn ei fag, a gofyn iddo dynnu'r eitem allan.
"Na,"atebodd Mrs Williams,
"nid dyna ddigwyddodd."
Dywedodd yr amddiffyniad fod y bachgen wedi tynnu'r gyllell o'i fag, fel yr oedd hi wedyn gofyn iddo wneud, a bod yr ochr finiog yn wynefu'r athrawes, tra'r oedd yn eistedd i lawr.
"Na. Nid dyna ddigwyddodd o gwbl,"meddai.
Disgrifiad o Lygaid y Bachgen a Teimladau Mrs Williams
Disgrifiodd yr athrawes lygaid y bachgen yn ystod yr ymosodiad fel
"casineb pur"ac yn llygaid na fyddai yn eu hanghofio yn fuan.
"Rwy'n gwybod fy mod wedi cael fy nhrywanu yn fy mhen,"meddai.
"Rwy'n ofni fy mod yn mynd i farw, rwy' wedi gweld y gyllell, rwy'n gwybod fy mod wedi cael fy nhrywanu, yr oll rwy'n meddwl am ar y pwynt yna yw 'dwi angen help'.
"Roeddwn i mewn sioc. Fy mhryder cyntaf oedd, 'rwy'n marw, dydw i ddim yn mynd i weld fy merch eto'.
"Mae hyn yn rhywbeth mae'n rhaid i mi ailfyw bob dydd",meddai.
"Roedd hwn yn bendant yn ymosodiad arna i."
Gofynnodd yr amddiffyniad:
"Onid sgarmes a ddigwyddodd oherwydd ei ddiffyg parodrwydd i chi fynd â'r gyllell oedd hyn?"
Gwadu hynny wnaeth yr athrawes.
Aeth ymlaen i ddweud:
"O'n i'n sefyll pan darodd fi, a nath grym yr ergyd fy ngwthio i lawr i fy nghadair.
"Roedd e'n teimlo'n drwm iawn, roedd e'n teimlo fel bod llawer o rym ar fy mhen.
"Dwi'n gweld mai cyllell sydd ganddo fe pan mae'n ei dynnu yn ôl,"meddai.
"Mae'n symud yn ôl er mwyn ceisio ymosod arna'i eto, ac yn gwneud symudiad trywanu."
Dolenni a Chysylltiadau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
CRITICAL REQUIREMENTS:
1. LENGTH: Original is 4479 chars. Your content MUST be at least 3807 chars (85% of original)
2. QUOTES: Preserve ALL direct quotes from the original using <blockquote> tags
3. DETAILS: Keep ALL names, dates, statistics, and specific information
4. STRUCTURE: Use <h2> for section headings, <p> for paragraphs, <blockquote> for quotes
5. DO NOT summarize, shorten, or omit any significant information
6. IMAGES: Place these images in the content where they are contextually relevant:


: Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
Rules:
- Place each {{IMAGE_X}} placeholder AFTER the paragraph that discusses related content
- Match image descriptions to relevant text (e.g., image of "police at scene" goes after paragraph about police response)
- Put placeholder on its own line between paragraphs
- If an image doesn't fit anywhere specific, place it after the first relevant section






