Cyhuddiadau a gwrthwynebiad Dylan Dawes
Mae Dylan Dawes yn gwadu chwe chyhuddiad o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant, gan gynnwys 192 o luniau Categori A.
Mae llys wedi clywed y gallai delweddau cam-drin plant fod wedi eu lawrlwytho i ddyfeisiadau wrth chwilio am bornograffi cyfreithlon i oedolion yn ddiarwybod i'r defnyddiwr.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod dros 6,200 o ddelweddau wedi eu canfod ar bedwar dyfais ym meddiant cyn-gynhyrchydd gyda'r BBC, ond ei fod yn amhosib cadarnhau'n union pwy oedd yn gyfrifol am eu lawrlwytho.
Gwrthwynebiad Dylan Dawes
Mae Dylan Dawes, 50, o Gaerdydd, yn gwadu chwe chyhuddiad o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant, gan gynnwys 192 o luniau Categori A.
Dywedodd Mr Dawes ei fod wedi edrych ar bornograffi oedolion yn y gorffennol, ond fe wadodd god ganddo ddiddordeb rhywiol mewn plant a dywedodd ei fod ar brydiau wedi gadael dyfeisiadau yn y gweithle.
Tystiolaeth arbenigol a dadansoddiad y dyfeisiadau
Clywodd y rheithgor ddydd Mercher dystiolaeth arbenigwr technoleg a archwiliodd y dyfeisiadau.
Cadarnhaodd Jordan Myhill bod rhai lluniau ym min ailgylchu'r gyriant caled (hard drive), ond bod y mwyafrif wedi eu hadfer gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol.
Byddai'r rheiny, meddai, yn ymddangos fel petaent wedi eu dileu am byth, tu hwnt i gyrraedd defnyddwyr cyffredin, ond yn bodoli rhywle yn y ddyfais ac yn bosib i arbenigwyr eu hadfer "90% o'r amser".
Wrth ei chroesholi ar ran yr amddiffyn, gofynnodd Andrew Taylor a yw'n anoddach i gadarnhau pwy lawrlwythodd ddelweddau yn achos "dyfais sy'n cael ei rhannu".
Holodd Mr Taylor a yw'n bosib i lawrlwytho delweddau i ddyfais yn ddiarwybod i ddefnyddiwr wrth, er enghraifft, edrych ar, neu lawrlwytho, cynnwys o wefan pornograffi oedolion cyfreithiol.
"Ydi, ond byddai'n rhaid ymweld â gwefan gyda'r delweddau hynny," atebodd Ms Myhill.
Awgrymodd Mr Taylor y gallai defnyddiwr, o ganlyniad, fod â delweddau anghyfreithlon ar ddyfais heb yn wybod.
Gan gyfeirio at ddelweddau wedi eu hadfer gan arbenigwyr, awgrymodd Mr Taylor ei fod yn amhosib olrhain yn ddiamau rywfaint o'r wybodaeth yn eu cylch.
"A allwch chi ddweud pryd, sut neu - yn bwysicach - pwy allai fod wedi eu lawrlwytho?" gofynnodd.
Dyfais 'allan o'm dwylo sawl tro'
Clywodd y llys drawsgrifiad o gyfweliad heddlu Dylan Dawes y diwrnod y cafodd ei arestio ym mis Chwefror 2022.
Pan ofynnwyd a oedd wedi cyflawni'r troseddau honedig, atebodd:
"Doeddwn i ddim yn ymwybodol fy mod wedi gwneud hyn, na."
Roedd yna ddelweddau anghyfreithlon ar liniadur, dau iPad a gyriant caled ym meddiant y diffynnydd.
Dywedodd Mr Dawes ei fod yn arfer mynd â'r iPad hynaf o'r ddau i'r gwaith weithiau, ac "o bosib wedi rhoi ei fenthyg" i gydweithwyr, ond bod yr un mwyaf newydd, mwyaf tebyg, heb adael ei gartref.
Aeth â'r gyriant disg caled i'r gwaith hefyd ambell dro, meddai, "a'i fenthyg i gydweithwyr i gopïo pethau arno mae wedi bod allan o'm dwylo sawl tro a'i ddychwelyd ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach".
Dywedodd ei fod wedi gwylio pornograffi ond "ddim yn aml... deunydd heterorywiol cyfreithiol a fyddai'n cael ei ystyried yn dderbyniol i oedolion".
Pan ofynnwyd a oedd ganddo ddiddordeb rhywiol mewn plant, atebodd:
"Yn bendant ddim."
Delweddau o ferched glasoed a chyn glasoed
Clywodd y llys gan Jennifer Gorman, swyddog gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a archwiliodd y deunydd oedd ar y dyfeisiadau.
Roedd y delweddau, meddai, yn cynnwys rhai o gamdriniaeth Categori A, ar enethod ystod glasoed a merched cyn glasoed.
Cafodd crynodeb o'r dystiolaeth ei anfon at gyfreithiwr Mr Dawes cyn ail gyfweliad heddlu ym mis Rhagfyr 2022.
O drawsgrifiad yr ail gyfweliad hwnnw, clywodd y llys fod datganiad wedi ei lunio o flaen llaw ble wadodd Mr Dawes "unrhyw wybyddiaeth ynghylch unrhyw ddelweddau anweddus" ar ei ddyfeisiadau.
Ychwanegodd nad oedd "erioed wedi edrych o fwriad" ar bornograffi plant, a nad oedd ganddo "ddiddordeb rhywiol" mewn plant.
Dywedodd ei fod wedi lawrlwytho pornograffi cyffredin, a bod "yr holl ddyfeisiadau, ar wahanol adegau, wedi eu gadael am gyfnodau helaeth mewn swyddfeydd agored, y tu hwnt i'm meddiant".
Fe atebodd Mr Dawes "dim sylw" mewn ymateb i sawl cwestiwn wedi hynny, gan gynnwys ymholiad pwy arall wnaeth ddefyddio'r dyfeisiadau, a phryd y cawsant eu gadael yn y swyddfa.
Dyna ei ateb hefyd pan ofynnwyd ynghylch archwilio'r term jailbait ar-lein, a pham y cafodd rhai lluniau eu canfod mewn ffeil Dylan.
'Yn fodlon iawn i gydweithredu'
Ar ran yr erlyniad, gofynnodd Harry Baker a ddilynodd swyddogion unrhyw drywydd arall o ran pwy allai fod wedi bod yn y mannau ble y cafodd y dyfeisiadau eu gadael yn ôl y diffynnydd.
Atebodd Ms Gorman bod hynny'n "dibynnol ar ddata cardiau mynediad" sy'n annibynadwy "oherwydd achosion o tailgating" ym mynedfa hen ganolfan y BBC yn Llandaf.
Gofynnodd Mr Taylor wrth ei chroesholi a oedd yn cytuno fod Mr Dawes wedi caniatáu "mynediad llawn i'r holl ddeunydd angenrheidiol" ac yn fodlon iawn i gydweithredu" yn ystod ei gyfweliad heddlu cyntaf.
Dywedodd Ms Gorman ei fod "wedi ateb pob cwestiwn y gofynnon ni".
Cytunodd hefyd ag awgrym ei fod "wedi amlinellu ei sefyllfa yn hollol glir" gyda'i ddatganiad cyn yr ail gyfweliad heddlu.
Mae Dylan Dawes yn gwadu'r chwe chyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




