Skip to main content
Advertisement

Alw am sicrwydd i ffordd osgoi Llanbedr wrth i drafferthion dyfu

Mae galw am sicrwydd ariannol gan Lywodraeth Cymru i godi ffordd osgoi newydd i Llanbedr, Gwynedd, wrth i drafferthion traffig a tagfeydd hir barhau, gan greu pryderon diogelwch a chymunedol.

·6 min read
Ambiwlans yn cael trafferth gwneud ei ffordd trwy'r traffig yn Llanbedr

Trafferthion traffig yn Llanbedr yn parhau

Roedd car ambiwlans wedi cael trafferth gwneud ei ffordd trwy'r traffig yn y pentref yn gynharach yn yr wythnos.

Mae galw am sicrwydd ariannol gan Lywodraeth Cymru i godi ffordd osgoi ger pentref Llanbedr yng Ngwynedd yn sgil trafferthion parhaus o dagfeydd a chiwiau hir.

Am gyfnod yr wythnos hon bu'n rhaid i drigolion - gan gynnwys dau o fechgyn yn eu harddegau - sefyll yng nghanol y pentref yn dargyfeirio cerbydau oherwydd yr oedi.

Er i gynllun i godi ffordd osgoi newydd gael ei ganslo gan Lywodraeth Cymru yn 2021, mae 'na addewid o ffordd liniaru lai 40mya, gyda'r gwaith o'i datblygu ar y gweill.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr her ac yn gweithio gyda'r gymuned leol.

Ffordd osgoi ar y gweill, ond pryd?

Ers y 1960au mae 'na alwadau am ffordd osgoi yn Llanbedr, wrth i nifer y cerbydau yn y pentref chwyddo deirgwaith yn fwy yn yr haf o'i gymharu â'r gaeaf, oherwydd y diwydiant ymwelwyr.

Yn 2021 fe gafodd y cynllun am ffordd osgoi 1.4 cilometr ar gost o £14m ei ganslo gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw benderfynu peidio ag adeiladu rhagor o ffyrdd.

Ond yn 2023 daeth tro pedol, gyda'r llywodraeth bryd hynny'n dweud eu bod yn gweld yr angen am ffordd liniaru lai o faint, gyda chyfyngiad cyflymder 40mya.

Mae gwaith ar y gweill bellach, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, i asesu opsiynau ar gyfer ffordd osgoi newydd i ysgwyddo baich y traffig lleol.

Mae archwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai ffordd liniaru, gyda gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithiau llesol, gostio tua £45m.

Dywedodd Ceri Roberts fod ciwiau o 40-50 munud er mwyn croesi'r bont ynghanol Llanbedr yr wythnos hon.

Ceri Roberts yn Llanbedr
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Ceri Roberts fod ciwiau o 40-50 munud er mwyn croesi'r bont ynghanol Llanbedr yr wythnos hon

Tra bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, mae'r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu'r sefyllfa'r wythnos hon.

Mae Ceri Roberts yn byw yng nghanol y pentref, ond yn dweud nad yw hi wedi cerdded ar hyd y ffordd fawr ers dwy flynedd oherwydd pryderon diogelwch.

"O'dd hi'n hectic yma [yr wythnos hon] - ddaru fi avoidio gyrru drwy'r pentref oherwydd oedd 'na rhyw 40-50 minute wait yn trio dod dros y bont yma.
Mae o'n creu lot o bryder i mi efo'r emergency services.
Mae gen i blant ifanc. Dwi'n meddwl pe bai rhywbeth yn digwydd a fasa ambiwlans [methu] ein cyrraedd ni, ac felly mae'n amser rili dychrynllyd."

Cynghorydd lleol yn trafod yr her

Mae'r cynghorydd Gwynfor Owen yn cydnabod fod gosod amserlen ar gyfer y ffordd osgoi "braidd yn anodd".

Gwynfor Owen
Disgrifiad o’r llun, Mae'r cynghorydd Gwynfor Owen yn cydnabod fod gosod amserlen ar gyfer y ffordd osgoi "braidd yn anodd"

Yn ôl y cynghorydd lleol Gwynfor Owen, mae angen atebion i'r gymuned leol.

Ad (425x293)
"Dwi'n dal i alw am ffordd liniaru 40mya sydd yn mynd i fod o gymorth i'r ardal ac yn gymorth ym mhob ffordd o ran diogelwch, o ran llygredd a hefyd o ran yr economi," meddai.
"Sicrwydd o arian 'da ni eisiau gyntaf - hyd yn oed os ydi o'n digwydd mewn blwyddyn neu bum mlynedd.
Sicrwydd o arian 'da ni eisiau a sicrwydd fod y cynllun yn mynd i gymryd lle, ond o ran amserlen, ella fod hynny braidd yn anodd ar y funud."

Dau fechgen lleol yn helpu gyda'r traffig

Fe wnaeth Idris a Theo sefyll ar y bont yn cyfeirio'r traffig yr wythnos hon.

Idris a Theo
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth Idris a Theo sefyll ar y bont yn cyfeirio'r traffig yr wythnos hon

Yn gynharach yr wythnos hon fe benderfynodd dau o fechgyn lleol yn eu harddegau sefyll ar y bont a chyfeirio traffig i geisio helpu'r sefyllfa.

Yn ôl Idris, 12, a Theo, 13, roedden nhw'n gwneud eu gorau i ddatrys y sefyllfa.

"Oeddan ni wedi diflasu a roedden ni am wneud o am hwyl, a doeddan ni ddim yn meddwl bod pobl am wrando, ond 'naeth pawb wrando ac mi 'naeth o helpu'r traffig," meddai Theo.
Yn ôl Idris, mae'r tagfeydd yn "stressful i bawb, ac os mae'r emergency services methu dod mewn - mae 'na broblem fawr".

Ychwanegodd Grŵp Ymgyrchu Ffordd Osgoi Llanbedr fod yna angen amlwg am ddatrysiad ar frys wedi blynyddoedd o ddisgwyl am weithredu.

Effaith y tywydd braf a'r gwyliau

Mae'r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu'r sefyllfa dros y dyddiau diwethaf.

Traffig yn Llanbedr
Disgrifiad o’r llun, Mae'r tywydd braf a chyfnod y gwyliau wedi dwysáu'r sefyllfa dros y dyddiau diwethaf

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "rheoli traffig mewn ardaloedd poblogaidd arfordirol a gwledig yn ystod cyfnodau brig yn her wirioneddol".

"Rydym yn cymryd pryderon cymunedau lleol o ddifri'," meddai llefarydd.
"Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a'r gymuned leol i archwilio ffyrdd o wella rheoli traffig yn Llanbedr.
Bydd cyfleoedd ymgysylltu i bartneriaid a'r cyhoedd wrth i opsiynau gael eu datblygu."

Datblygiadau a chyllid ar gyfer y ffordd osgoi

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi sicrhau £400,000 i barhau gwaith datblygol yn ystod 2026/27, a hynny'n cynnwys "gwaith technegol paratoadol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ffordd cyflymder isel ymhellach ynghyd ag elfennau eraill i wella'r cysylltiadau cerdded a beicio i'r pentref".

"Mae'r prosiect wedi'i gynnwys fel blaenoriaeth uchel yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ond bydd ei wireddu'n ddibynnol ar sicrhau cyllid pellach ar gyfer ei adeiladu.

"Yn y cyfamser, mae rhai mesurau eisoes wedi'u gweithredu, gan gynnwys cynyddu amlder gwasanaethau bysiau a gosod llochesi bysiau newydd yn y pentref.

"Mae caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun ffordd hefyd wedi'i warchod.

"Ar hyn o bryd, nid oes amserlen pendant wedi ei gytuno ar gyfer adeiladu ffordd newydd.

"Fe fydd hyn yn ddibynnol ar nifer o ffactorau sydd eto i'w cadarnhau gan gynnwys sicrhau ffynhonnell gyllid ar gyfer y cynllun sylweddol yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News