Skip to main content
Advertisement

Achos marwolaeth Sian Batchelor yn parhau'n ddirgelwch, meddai'r cwest

Mae achos marwolaeth Sian Batchelor, 32 oed, a gafodd ei darganfod ar draeth yn Sir Benfro ym 2024, yn parhau'n ddirgelwch gyda phatholegydd heb allu cadarnhau'r achos hyd yma.

·2 min read
Sian Batchelor

Teulu yn disgrifio Sian Batchelor fel 'person prydferth, doniol a chariadus'

Mae patholegydd wedi methu hyd yma â sefydlu achos marwolaeth dynes 32 oed a gafodd ei darganfod yn farw ar draeth yn Sir Benfro yn 2024.

Cafodd Sian Stephanie Batchelor ei darganfod ar draeth Pennar yn Noc Penfro ar 30 Ebrill 2024.

Adolygiad cyn-cwest yn datgelu diffyg clirdeb ar achos y farwolaeth

Mewn adolygiad cyn-cwest, dywedodd yr Uwch-grwner Gareth Lewis bod patholegydd wedi darparu tri adroddiad meddygol, ond nad oedd wedi gallu cadarnhau sut y bu farw Ms Batchelor.

Yn ystod y gwrandawiad yn Hwlffordd, dywedodd Mr Lewis y byddai'n rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys bod y llu bellach yn "person sydd â diddordeb" yn ei ymchwiliad.

Ad (425x293)
"Byddai nodi hynny yn galluogi'r heddlu i ryddhau dogfennau ychwanegol allai fod yn berthnasol, ac i ddatrys unrhyw faterion y mae'r teulu yn ei gredu sydd ddim wedi cael digon o sylw hyd yma."

Pryderon teulu am ymchwiliad yr heddlu

Clywodd y gwrandawiad fod gan deulu Ms Batchelor bryderon ynghylch ymchwiliad yr heddlu yn dilyn ei marwolaeth.

Dywedodd y crwner ei fod wedi rhoi ymrwymiad i'r teulu y byddai'n ceisio cwblhau'r cwest erbyn diwedd y flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth a chysylltiadau

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok am ddiweddariadau.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News