Skip to main content
Advertisement

Aberdaugleddau: Bachgen yn honni dod â chyllell i’r ysgol i ddangos i ffrindiau

Mae bachgen 16 oed wedi dweud wrth y llys ei fod wedi dod â chyllell i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau i ddangos i ffrindiau, ar ôl cael ei gyhuddo o drywanu athrawes gyda chyllell gegin fawr.

·3 min read
Ysgol Gyfun Aberdaugleddau

Cyhuddiad o Drywanu Athrawes mewn Ysgol Sir Benfro

Mae bachgen 16 mlwydd oed, sydd wedi ei gyhuddo o drywanu athrawes gyda chyllell gegin mewn ysgol yn Sir Benfro, wedi datgan wrth y reithgor ei fod wedi mynd â chyllell i'r ysgol er mwyn

"dangos ei hun"
i'w ffrindiau.

Fe roddodd y bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, dystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun yn ystod ail wythnos yr achos.

Manylion y digwyddiad

Yn ystod yr wythnos flaenorol, dywedodd Vicki Williams, athrawes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, fod y bachgen wedi ei ddilyn i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn

"hyrddio"
ati gyda chyllell gegin fawr.

Mae'r bachgen, oedd yn 15 ar y pryd, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, yn dilyn adroddiadau bod

"disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes"
.

Map Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
Disgrifiad o’r llun, Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ar 5 Chwefror, yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes".

Tystiolaeth y Bachgen yn y Llys

Yn ystod diwrnod cyntaf yr amddiffyn yn Llys y Goron Abertawe, fe glywodd y rheithgor fod y bachgen yn hoffi ei athrawes ac wedi dewis Hanes fel pwnc TGAU.

Dywedodd nad oedd ganddo unrhyw deimladau drwg tuag at ei athrawes hanes, Vicki Williams, ac nad oedd unrhyw ddadlau nac anghytuno wedi bod rhwng y ddau.

"Sut roeddech chi'n ei gweld?" gofynnodd ei fargyfreithiwr, Matthew Roberts KC.

"Da. Roedd hi'n neis i mi," atebodd.

Manylion y Gyllell a'r Esboniad am ei Chyflwyno i'r Ysgol

Eisoes, fe glywodd y llys fod y

"gyllell gegin"
wedi dod o floc cyllyll yng nghartref y bachgen.

Advertisement

Cafodd ei disgrifio fel

"y mwyaf o'r cyllyll"
gyda llafn y gyllell
"o'r pig i'r ddolen"
yn mesur wyth modfedd.

Wrth ofyn i'r bachgen pam ei fod wedi mynd â chyllell i'r ysgol, dywedodd y bachgen wrth y rheithgor ei fod ef a'i ffrindiau yn arfer

"dod a phethau ar hap"
i'r ysgol i weld beth fydden nhw'n gallu dod i'r ysgol heb i neb sylwi.

Dywedodd ei fod wedi mynd â'r gyllell fwyaf oherwydd y gyllell hon oedd y

"mwyaf trawiadol"
i ddangos i'w ffrindiau, ac nad oedd unrhyw fwriad ganddo i'w defnyddio mewn modd dreisgar.

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd wedi dangos y gyllell i'w ffrindiau ar y 5 Chwefror gan nad oedd ei ffrindiau i gyd yn yr ysgol y diwrnod hwnnw.

Dywedodd ei fod eisiau dangos

"i'r grŵp cyfan"
yr un pryd.

Manylion Ychwanegol am yr Achos

Achos llys trywanu athrawes - llafn y gyllell yn mesur wyth modfedd

Aberdaugleddau: Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News