Skip to main content
Advertisement

Yr Arglwydd Newborough yn rhoi stad Glynllifon ar werth am £10.9m

Mae'r Arglwydd Newborough yn gwerthu stad Glynllifon am £10.9m, gan ddod â diwedd i gysylltiad canrifoedd o hanes teuluol yn Sir Gaernarfon.

·3 min read
Yr Arglwydd Newborough

Mae'r Arglwydd Newborough yn gwerthu stad Glynllifon am £10.9 miliwn

Wrth deithio rhwng trefi Caernarfon a Phwllheli, mae un o stadau mwyaf Gogledd Cymru i'w gweld ar y ffordd. Mae stad Glynllifon wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol Sir Gaernarfon ac wedi bod yn gartref i un o deuluoedd bonedd mwyaf yr ardal ers 1700.

Bellach, mae'r Arglwydd Newborough presennol wedi gwneud y penderfyniad anodd o roi'r stad gyfan ar werth am swm sylweddol o arian.

Yn ôl yr hanesydd lleol John Dilwyn Williams, mae hyn yn nodi diwedd cyfnod o gysylltiad y teulu â'r ardal ar ôl canrifoedd.

John Dilwyn Williams
Disgrifiad o’r llun, Maer hanesydd John Dilwyn Williams yn ymddiddori yn hanes Glynllifon

Hanes a chynnwys y stad

Roedd stad Glynllifon ar un adeg yn cynnwys cannoedd o acer o dir a phopeth oedd y tu mewn i waliau gerddi'r plasty. Fodd bynnag, ers diwedd y 1940au mae Parc Glynllifon wedi bod yn annibynnol ar y stad wreiddiol.

Cafodd y rhan fwyaf o'r eiddo o fewn y waliau o amgylch tir y plasty ei werthu at ddiben addysg amaethyddol, a daeth dan ofal Cyngor Sir Gaernarfon.

Er bod y plasty bellach yn eiddo preifat, nid yw'r adeilad a godwyd yn y 1830au wedi bod dan berchnogaeth Arglwydd Newborough ers dros 70 mlynedd.

Yn y plasty hwn cynhaliwyd y parti nos ar ôl i'r Brenin Charles III gael ei arwisgo'n Dywysog Cymru yn 1968.

Mae Parc Glynllifon bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn cynnwys llwybrau cerdded a gerddi godidog.

Advertisement

Manylion y gwerthiant

Mae dros 900 acer o dir ffermio yn rhan o werthiant y stad, yn ogystal â thri ffermdy ar hyd arfordir ardal Pontllyfni sydd y tu allan i'r waliau.

Stad Glynllifon
Disgrifiad o’r llun, Mae dros 900 acer o dîr yn rhan o werthiant y stad

Yr Arglwydd Newborough, sef yr 8fed Barwn i ddal y teitl, hefyd yn berchen ac yn byw ar stad Rhug ger Corwen. Dywedodd ei fod yn gwerthu stad Glynllifon gan nad yw'n bosib iddo fod ymhob man.

"Dwi wrth fy modd yno, mae golygfeydd prydferth a phobl hyfryd, ond dwi'n 77 oed ac dwi wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd yma, does gen i neb arall i reoli'r stad."

Ystyr y gwerthiant yn hanesyddol

Yn ôl John Dilwyn Williams, mae gwerthu'r stad yn dod â chyfnod hanesyddol pwysig o ran cysylltiad y teulu i ben yn yr ardal.

"Mae cysylltiad y teulu Wynniaid wedi chwarae rhan allweddol yn yr ardal.
Syr Thomas Wynn ddaeth yr Arglwydd Newborough cyntaf yn 1776 a dros y degawdau wedyn roedd y teulu yn ddylanwadol iawn yn wleidyddol.
Roedd aelodau o'r teulu yn priodi teuluoedd bonedd mewn ardaloedd eraill, felly roedd dylanwad a thir y Wynniaid yn ymestyn y tu hwnt i Glynllifon.
Yn sicr bydd gwerthu beth sy'n weddill o'r stad Glynllifon yn ddiwedd cyfnod fod cysylltiad y teulu efo'r ardal yma'n dod i ben," meddai.

Mae stad Glynllifon wedi'i roi ar werth am bris o £10.9 miliwn.

Rhagor o wybodaeth

Safle pwysig yn hanes theatr Cymraeg ar werth

Pont Pen Llyn ym Mrynrefail yn 200

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News