Skip to main content
Advertisement

Dyn yn marw yn y Trallwng; 22 oed wedi'i arestio am lofruddiaeth

Dyn wedi marw yn y Trallwng ar ôl argyfwng meddygol; dyn 22 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth.

·1 min read
Police officers standing next to a cordoned-off area in Church Street, Welshpool

Digwyddiad yn y Trallwng

Cafodd heddlu a pharafeddygon eu galw i Stryd yr Eglwys yn gynnar fore Sul.

Mae dyn wedi marw yn Y Trallwng yn dilyn "argyfwng meddygol" ac mae dyn arall, 22 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiad am ddyn oedd wedi cael ei anafu ar Stryd yr Eglwys am 01:16 fore Sul.

Advertisement

Ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn.

Bu ambiwlans awyr yn bresennol yno hefyd.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei gadw'n y ddalfa ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ffyrdd wedi cau ar hyd Stryd yr Eglwys a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yno tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News