Skip to main content
Advertisement

Arbenigwyr yn Rhybuddio am Problemau Sylweddol mewn Addysg Grefyddol yng Nghymru

Arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn rhybuddio am broblemau sylweddol mewn addysg grefyddol yng Nghymru, gan alw am fwy o gefnogaeth a buddsoddiad i wella'r sefyllfa a sicrhau dyfnder a chydlyniad yn y cwricwlwm.

·5 min read
Addysg Grefyddol

Mae arbenigwyr yn rhybuddio am gyflwr addysg grefyddol yng Nghymru

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi mynegi pryderon difrifol am gyflwr addysg grefyddol yng Nghymru, gan nodi bod "problemau sylweddol" yn y ddarpariaeth dysgu mewn ysgolion.

Mae hyn yn dilyn adroddiad diweddar gan y corff arolygu Estyn, a nododd ddiffyg cydbwysedd a dyfnder mewn gwersi, ynghyd â phrinder staff sydd â arbenigedd yn y maes.

Mae Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi mynegi "pryder difrifol" ynghylch y canfyddiadau hyn.

Maent yn rhybuddio y gallai'r pwnc dirywio ymhellach heb newidiadau, gan alw am fwy o gefnogaeth a buddsoddiad i wella'r sefyllfa.

Dim gwerslyfr Cymraeg i ddysgu pwnc yn 'bryder sylweddol'

Addysg Grefyddol gorfodol yn torri hawliau?

Newid i addysg grefyddol yn 'ynysu' athrawon

Yn ôl adroddiad Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau, a seiliwyd ar arolygiadau a gynhaliwyd rhwng 2024 a 2025, roedd amrywiaeth fawr yn y ffordd y caiff bynciau'r dyniaethau eu haddysgu mewn ysgolion.

Dywed y pwyllgor fod crefydd, gwerthoedd a moeseg yn "arbennig wedi'u tangynrychioli", gyda "diffyg dysgu proffesiynol penodol i'r pwnc yn cyfyngu ar ddatblygiad staff."

Yn ogystal, mae prinder staff arbenigol a gallu cyfyngedig i ddefnyddio cyfleoedd cyfoethogi yn cael effaith negyddol ar brofiadau disgyblion.

Mewn datganiad, mynegodd Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru "bryder difrifol", gan ychwanegu bod y "canfyddiadau'n cyflwyno darlun clir ac anesmwyth".

"Yn anochel, mae amser cwricwlwm cyfyngedig yn cyfyngu ar y dyfnder, y cydlyniad a'r uniondeb disgyblaethol y mae gan ddysgwyr hawl i'w profi.
Mae arolygwyr hefyd yn sylwi nad yw dysgwyr yn cael eu cefnogi i ymgysylltu'n ystyrlon â chymhlethdod."

Dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru fod llai o bobl yn hyfforddi i fod yn athrawon crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Addysg Grefyddol
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd un o Gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru fod llai o bobl yn hyfforddi i fod yn athrawon crefydd, gwerthoedd a moeseg

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd y Dr Gareth Evans-Jones fod llai o bobl yn hyfforddi i fod yn athrawon crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Advertisement

Dywedodd hefyd fod blaenoriaethau ysgolion ac agweddau mewnol yn gallu effeithio ar faint o amser a roddir i'r pwnc, gan ychwanegu bod y syniad ei fod yn "bwnc Mickey Mouse" yn anghywir.

Yn ôl Dr Evans-Jones, mae pynciau STEM yn tueddu i gael mwy o sylw, er bod cysylltiadau pwysig rhwng y disgyblaethau hyn a chrefydd a moeseg.

Rhybuddiodd fod perygl y bydd y pwnc yn dirywio ymhellach heb newid, ac y gallai gael ei leihau i fod yn bwnc ymylol o fewn y dyniaethau.

Yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, fodd bynnag, mae athrawon yn dweud bod diddordeb yn y pwnc yn parhau'n gymharol sefydlog.

Eleni, mae pedwar disgybl Lefel A ac wyth yn dilyn y cwrs TGAU, gyda 10 disgybl arall wedi dewis y pwnc ar gyfer TGAU fis Medi.

Dywed Aimie Williams-Burn fod y pwnc yn cael "chwarae teg" yn ei hysgol.

Pennaeth Addysg Grefyddol, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Aimie Williams-Burn
Disgrifiad o’r llun, Dywed Aimie Williams-Burn fod y pwnc yn cael "chwarae teg" yn ei hysgol
"'Da ni wastad wedi cael chwarae teg o ran opsiynau a chynnig y cwrs lefel A.
Er efallai fod gennym ni niferoedd bach, 'da ni wastad yn derbyn disgyblion sydd wir isio 'neud y pwnc ac yn angerddol, gan wybod yn union be' ma' nhw isio ei wneud yn y dyfodol.
Mae gennym ni ddisgyblion sydd isio mynd i weithio fel cyfreithwyr, gwaith llys, doctoriaid, ac maen nhw'n gweld fod yna werth yn y pwnc.
I fi tydio erioed wedi bod yn bwnc hen ffasiwn, ond 'da ni yn trio neud o mor gyfredol ac yn berthnasol o oedran blwyddyn 7 hyd at Lefel A."

Dywed Catrin, sy'n ddisgybl Lefel A, fod camddealltwriaeth am gynnwys y pwnc.

Catrin, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun, Dywed Catrin, sy'n ddisgybl Lefel A, fod camddealltwriaeth am gynnwys y pwnc
"Mae pawb yn meddwl bo ni jest yn astudio Iesu.
Dwi'n meddwl mai jest camsyniad o beth yn union ydy'r pwnc ydy'r broblem fwyaf."

Ychwanegodd fod hyn yn gamddealltwriaeth gyffredin sy'n effeithio ar ddewis disgyblion iau.

"Mae fy chwaer ym mlwyddyn naw a dwi wedi bod yn ei gwthio hi i neud Addysg Grefyddol, ond dydy hi ddim yn cael dim ohono fo."

Mae Ariana'n dweud nad oes angen bod yn grefyddol i astudio'r pwnc.

Ariana, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun, Mae Ariana'n dweud nad oes angen bod yn grefyddol i astudio'r pwnc
"Mae pawb yn gofyn i ni, ydach chi'n grefyddol?" meddai Ariana sydd â'i bryd ar fynd i astudio gradd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Manceinion.
"Oes, mae rhai pobol yn grefyddol, ond does dim rhaid.
Mae'r pwnc jyst yn dod a lefel dyfnach a dealltwriaeth o bob dim dachi'n neud yn eich bywyd."

Dywed Angharad fod y pwnc yn helpu deall gwahanol safbwyntiau.

Angharad, Disgybl Lefel A, Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun, Dywed Angharad fod y pwnc yn helpu deall gwahanol safbwyntiau
Mae disgybl arall, Angharad o Langollen yn gobeithio mynd i astudio diwynyddiaeth ym Mhrifysgol Durham, ac yn dweud fod astudio Addysg Grefyddol yn gymorth i ddeall am y byd a'i bobol.
"Yn bersonol dwi yn grefyddol, ond dwi actually, really yn mwynhau cael dealltwriaeth gwahanol o bethau." meddai.
"'Da ni'n astudio Bwdhaeth ar y funud, ac mae o mor dda i weld pa mor wahanol ydy eu syniadau nhw i'r ffyrdd traddodiadol 'da ni'n wybod amdanyn nhw."
"Mae o mor bwysig ein bod ni'n gwybod fod yna fwy nag un ffordd o feddwl."

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News