Skip to main content
Advertisement

Uned strôc Ysbyty Bronglais yn bosibl i'w chadw gyda chynigion newydd

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno cynigion newydd sy'n galluogi cadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais, gan ychwanegu opsiynau newydd i'r cynlluniau ar gyfer gwasanaethau strôc yn y dyfodol.

·4 min read
Posibilrwydd cadw uned strôc Ysbyty Bronglais wedi cynigion newydd

Posibilrwydd cadw uned strôc yn Ysbyty Bronglais

Mae'n bosibl y gall uned strôc gael ei chadw yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ar ôl i gynigion newydd gan y bwrdd iechyd lleol ar gyfer dyfodol y gwasanaeth gael eu cyhoeddi.

Y llynedd, ymgynghorodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gynlluniau i newid y gwasanaeth ym Mronglais o fod yn uned strôc i wasanaeth 'trin a throsglwyddo'.

O dan y cynigion gwreiddiol, byddai gofal strôc arbenigol yn cael ei ddarparu yn Hwlffordd a Llanelli, a chleifion strôc yn cael eu trosglwyddo i'r llefydd hynny ar ôl cael triniaeth yn Ysbyty Bronglais.

Nawr, mae'r bwrdd iechyd wedi ychwanegu dau ddewis amgen - Opsiynau 106 a 210 - i gael eu hystyried mewn cyfarfod yn ddiweddarach ym mis Chwefror.

Yn ôl y bwrdd iechyd, cafodd y dewisiadau amgen eu hawgrymu fel rhan o'r broses ymgynghori y llynedd.

Arwydd Ysbyty Bronglais

Galw am warchod gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais

Pryderon am gynlluniau i gau unedau strôc

Pe bai Opsiwn 106 yn cael ei ddewis, byddai Bronglais yn newid i gynnig gwasanaeth 'trin a throsglwyddo', ond fe fyddai'n cynnig uned adsefydlu wedi strôc hefyd.

Byddai cefnogi Opsiwn 210 yn golygu y byddai uned strôc yn parhau ym Mronglais ac yn cynnwys gwasanaeth arbenigol 12 awr y dydd.

Dywedodd Mark Henwood, cyfarwyddwr meddygol gweithredol ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda:

"Rydym yn cydnabod cryfder y teimlad tuag at y gwasanaethau rydym yn eu darparu ledled canolbarth a gorllewin Cymru.
Gall dioddef strôc fod yn ddinistriol i gleifion a'u teuluoedd," meddai.
"Mae'r dystiolaeth yn glir y gall newid y ffordd y mae gwasanaethau strôc yn cael eu darparu achub bywydau a gwella canlyniadau cleifion."

'Angen newid i ddarparu gwell gofal'

"Mae strôc yn un o naw gwasanaeth sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol y gwnaethom ymgynghori arnynt yn ystod yr haf," meddai Mr Henwood.

Dwedodd fod "angen i'n gwasanaethau strôc newid i fodloni safonau clinigol ac i ddarparu gwell gofal i'n cymunedau".

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae wedi derbyn 4,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad a 200 o syniadau amgen i'w hystyried.

Ychwanegodd Mr Henwood y byddai pob opsiwn yn golygu y byddai diagnosis cychwynnol a thriniaeth thrombolysis a allai achub bywydau, yn parhau i gael eu darparu ym mhob un o'r pedwar ysbyty acíwt yn ardal Hywel Dda, gan gynnwys Ysbyty Bronglais.

Ddydd Sadwrn, mae disgwyl i gefnogwyr AGB ffurfio cadwyn ddynol ar hyd un ochr o Ysbyty Bronglais.

Advertisement
Poster
Disgrifiad o’r llun, Ddydd Sadwrn, mae disgwyl i gefnogwyr AGB ffurfio cadwyn ddynol ar hyd un ochr o Ysbyty Bronglais

Mewn ymateb i'r dewisiadau amgen

Croesawodd Lisa Francis - cadeirydd y grŵp ymgyrchu Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais (AGB) - "opsiwn sy'n cadw gwasanaeth adfer wedi strôc llawn ym Mronglais".

"Mae'n siomedig nad oedd modd i'r bwrdd iechyd weld mai dyma oedd y ffordd orau ymlaen yn y lle cyntaf," meddai.

Mae ymgyrchwyr AGB wedi disgrifio cynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd ar gyfer newid gwasanaethau strôc yn "anymarferol ac yn beryglus" a "ddim yn addas at y diben".

Dywedodd Ms Francis fod gwrthwynebiad "enfawr ac angerddol" i gynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd, oherwydd nad oedden nhw'n ystyried dalgylch ehangach Ysbyty Bronglais, sy'n cynnwys cymunedau yn ne Gwynedd a gogledd Powys.

"Roedd y cynigion hyn gan Hywel Dda yn sylfaenol ddiffygiol o'r cychwyn cyntaf.
Nid oedd digon o fanylion ac roedd yn amlwg eu bod yn anymarferol ac yn beryglus.
Dyw elfen 'trosglwyddo' y cynllun erioed wedi'i hegluro'n llawn ac ry'n ni'n gwybod bod problemau enfawr ynghylch darpariaeth ambiwlansys ac amseroedd ymateb yng nghanolbarth Cymru."

'Cwtsh mawr i Fronglais'

Mae Dr Phil Jones, cyn-feddyg strôc yn ysbyty Bronglais a chyn-arweinydd strôc Cymru, yn cefnogi ymgyrch AGB.

Dywedodd Dr Jones ei fod yn credu bod cynigion gwreiddiol y bwrdd iechyd wedi methu ag ystyried "mynediad cleifion, gofalwyr a pherthnasau / ffrindiau at wasanaethau strôc".

"Nid dyna'r cynllun strôc sydd ei angen. Mae'n brin o arloesedd ac mae'n anaddas at y diben. Dylid bod wedi'i dynnu'n ôl."

Ddydd Sadwrn, mae disgwyl i gefnogwyr AGB ffurfio cadwyn ddynol ar hyd un ochr o Ysbyty Bronglais, er mwyn dangos cefnogaeth i'r gwasanaethau y mae'n eu darparu.

Mae'r ymgyrchwyr yn disgrifio'r weithred fel rhoi "cwtsh mawr i Fronglais".

Bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnal cyfarfod eithriadol ar 18 a 19 Chwefror, pan fydd yn gwneud penderfyniadau ynglyn â sut fydd y naw gwasanaeth - gan gynnwys strôc - yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News