Skip to main content
Advertisement

Teulu Pontypridd yn Dringo’r Wyddfa i Gefnogi Teuluoedd sy’n Alaru ar Golled Babi

Teulu o Bontypridd sydd wedi colli eu mab bach yn annog teuluoedd eraill i geisio cefnogaeth, gan drefnu dringo'r Wyddfa i godi ymwybyddiaeth am golled babi a chymorth mewn profedigaeth.

·4 min read
Brooke Webb a Wiliam Rees, y ddau yn 27 oed, gyda'u mab bach Gwilym Ioan Rees-Webb.

Brooke Webb a Wiliam Rees, y ddau yn 27 oed, gyda'u mab bach Gwilym Ioan Rees-Webb

Mae rhieni o Bontypridd sydd wedi colli eu mab bach yn annog teuluoedd eraill i estyn am help, gan bwysleisio bod cefnogaeth ar gael – boed hynny yn syth ar ôl colled neu flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae'r teulu'n bwriadu dringo i gopa'r Wyddfa dros nos ar 9 Mai mewn ymgais i godi arian a chodi ymwybyddiaeth am golled babi a'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd mewn profedigaeth.

'Yn ei garu cyn iddo gyrraedd'

Bu farw Gwilym Ioan Rees-Webb, mab Wiliam Rees a Brooke Webb, ar noswyl Nadolig 2025, yn ddim ond 11 diwrnod oed.

"Gwilym yw ein babi cyntaf, ac roedden ni mor gyffrous i'w gyfarfod," meddai Wiliam.
"Roedden ni'n ei eisiau a'i garu'n fawr ymhell cyn iddo gyrraedd.
"Cafodd ei eni'n iach, yn pwyso 9 pwys, ac roedd yn hollol berffaith.
"Er mai dim ond 11 diwrnod gawson ni gyd ag e, newidiodd ein bywydau am byth. Yn yr amser byr yna, daeth e â chymaint o gariad a hapusrwydd i'n bywydau."
"Mae'r atgofion hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n eu trysori am byth."

Mae'r teulu'n dweud bod y profiad wedi gadael ôl barhaol ar bob agwedd o fywyd.

"Mae colli ein mab wedi newid pob rhan o'n bywydau, ac mae'r galar yn rhywbeth na ddylai neb orfod ei wynebu," meddai.
"Ar adeg pan ddylen ni fod yn dathlu camau cyntaf Gwilym a'i wylio'n tyfu i fyny, mae'n rhaid i ni ddysgu sut i fod yn rhieni iddo mewn ffordd gwahanol."
Gwilym
Disgrifiad o’r llun, "Daeth Gwilym â chymaint o gariad a hapusrwydd i'n bywydau mewn amser byr iawn," meddai ei dad Wiliam

"Daeth Gwilym â chymaint o gariad a hapusrwydd i'n bywydau mewn amser byr iawn," meddai ei dad Wiliam.

Er gwaethaf eu colled, mae'r teulu wedi penderfynu troi eu profiad yn rhywbeth cadarnhaol, gan obeithio y gallant wneud gwahaniaeth i eraill sydd wedi bod trwy brofiad tebyg.

Ad (425x293)
"Roedd ei fywyd yn llawer rhy fyr, ond mae Gwilym wedi rhoi'r cryfder i ni i'w anrhydeddu a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd eraill.
"Dewisom ni i ddringo'r Wyddfa oherwydd ei fod yn rhywbeth nad oeddem erioed wedi'i wneud o'r blaen," ychwanegodd Wiliam.
"Daeth y cyfle gyda Sands i wneud y her hyn gyda grŵp o rieni a theuluoedd eraill yn yr un sefyllfa.
"Fydd hyn yn gyfle i ni gyd cofio ein babis, a chodi arian ac ymwybyddiaeth am achos mor bwysig."

Mae'r teulu'n dweud y bydd y daith yn un emosiynol.

"Bydd yn brofiad emosiynol iawn – bydd adegau'n anodd, ond rydym yn gwybod pam rydym yn ei wneud.
"Mae'n symbol o'r daith rydym wedi bod arni fel teulu dros y misoedd diwethaf – llawn her, tristwch, ond hefyd cariad a chryfder.
"Fydd dringo'r mynydd gyda theuluoedd eraill sydd wedi mynd trwy brofiadau tebyg yn ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain."

'Ddim wedi gallu ymdopi heb gefnogaeth'

Mae'r teulu'n pwysleisio pa mor bwysig yw rôl elusennau wrth gefnogi rhieni mewn profedigaeth.

"Ers i Gwilym farw, rydym wedi cael ein cefnogi gan Sands a 2Wish, ac mae nhw wedi bod yn hynod o bwysig i ni yn ystod cyfnod anoddaf ein bywydau.
"Mae'r caredigrwydd hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth i ni geisio canfod atebion a dysgu sut i fyw bywyd ar ôl colli Gwilym.
"Mae nhw wedi rhoi cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i ni, gan ein helpu i deimlo'n llai unig trwy gysylltu ni â rhieni eraill sy'n deall y boen o colli babi.
"Mae eu grwpiau cymorth wedi rhoi cysur i ni mewn cyfnod hynod o anodd."

'Peidiwch â bod ofn estyn allan'

"Y peth pwysicaf i ni yw bod pobl yn deall pa mor ddwys a pharhaus yw'r galar o golli babi.
"Nid yw'n rhywbeth rydych chi'n symud ymlaen" ohono.
"Rydych chi'n dysgu byw gydag e, a gyda'r cariad sydd dal yno am eich plentyn.
"Y peth pwysicaf yw cofio nad ydych ar eich pen eich hun."
"Mae cefnogaeth ar gael – boed hynny'n syth ar ôl colled, neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
"Peidiwch â bod ofn estyn allan."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Mali Gravelle: Pwysigrwydd 'dathlu'r person' wrth alaru
  • Y ddwy sy'n newid diwylliant galar i bobl ifanc

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News