Bydd angen gofal ar Craig Lewis-Williams am weddill ei fywyd
Mae Craig Lewis-Williams yn cael ei fwydo trwy diwb ac mae gofalwyr yn ymweld ag ef chwe gwaith y dydd, ar ôl i un dyrnod ei adael methu cerdded ac â niwed i'r ymennydd.
Digwyddodd yr ymosodiad ym mis Tachwedd 2021, ond bydd angen gofal arbenigol ar y dyn 50 oed o Llai, Wrecsam, am weddill ei oes.
Derbyniodd yr iawndal uchaf posibl - £500,000 - ond cafodd y lefel hwn ei osod yn 1996, ac mae ymgyrchwyr yn credu pe bai wedi cynyddu yn unol â chwyddiant, byddai pobl fel Craig yn derbyn tua £1,015,000 heddiw.
Maen nhw am weld cynnydd yn yr iawndal i ddioddefwyr trosedd, gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod yn "gwneud popeth posibl i sicrhau bod goroeswyr yn cael y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu".
Angen cymorth gofalwyr
Newidiodd bywyd Craig am byth ym mis Tachwedd 2021, pan wnaeth un ergyd arwain ato'n disgyn am yn ôl a tharo ei ben ar y llawr.
Fe wnaeth y dyn oedd yn gyfrifol am ymosod arno, Adam Chamberlin, gyfaddef achosi niwed corfforol difrifol ac fe gafodd ei garcharu am flwyddyn a phedwar mis ym mis Rhagfyr 2022.
Roedd Craig, oedd yn arfer bod yn rheolwr warws, yn cerdded adref pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Mae ganddo niwed i'r ymennydd, nid yw'n gallu cerdded na llyncu, ac mae ganddo broblemau gyda'i gof.
Yna, yn ystod ei driniaeth, cafodd strôc gan barlysu ochr chwith ei gorff.
Mae bellach yn cael ei fwydo trwy diwb, gyda gofalwyr yn angenrheidiol i ofalu amdano.
'Dydi'r arian ddim yn mynd i bara'
Mae'n 30 mlynedd ers i'r gyfradd iawndal uchaf o £500,000 gael ei osod, ym mis Ebrill 1996, gan yr Awdurdod Iawndal Anafiadau Troseddol (CICA).
Ar ôl apelio, dyma'r swm derbyniodd Craig.
Mae ei deulu'n credu na fydd hynny'n ddigon, gyda'i wraig Anna, 45, yn dweud:
"Mae gennym ni'r car, y teulu, mae prisiau'n llawer uwch nag oedden nhw 30 mlynedd yn ôl, ac mae 'na argyfwng costau byw ac mae'r hyn sy'n digwydd yn Iran.
Bydd angen newid pethau fel ei gadair olwyn a'r fan - maen nhw'n bethau mawr i dalu amdanyn nhw.
Maen nhw'n bethau drud, dydi'r person cyffredin ddim eu hangen.
Allwch chi ddim mynd allan a phrynu car am £500 neu £1,000, ac mae'n rhaid i ni addasu popeth.
Dydi'r arian ddim yn mynd i bara. Mae o newydd droi'n 50 oed ac mae disgwyliad oes dyn yn 75 i 80, felly mae hynny'n 25 i 30 mlynedd arall."
Derbyniodd Craig gyfradd iawndal oedd wedi'i osod 30 mlynedd yn ôl, ac nid yw'n ystyried chwyddiant

Nid teulu Craig yw'r unig rai sy'n poeni am ei sefyllfa ariannol, gydag eraill ynghyd â chyfreithwyr yn codi pryderon y gallai'r iawndal redeg allan.
Byddai hyn yn eu gadael heb gefnogaeth hanfodol ac yn cael effaith ar ansawdd eu bywyd yn ehangach.
Maen nhw'n credu nad yw'r swm uchaf o £500,000 sydd ar gael bellach yn ddigon i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac maen nhw'n galw am adolygu'r ffigwr.
Mae'n cael ei dalu i ddioddefwyr trosedd sydd wedi cael anafiadau difrifol sydd wedi newid eu bywydau, gan gynnwys niwed i'r ymennydd a pharlys.
Mae'r arian ar gyfer eu gofal yn ogystal â'u dyfodol hirdymor, gan fod eu hanafiadau yn aml yn golygu nad oes modd iddyn nhw weithio.
Ond mae ffigyrau newydd gan ymgyrchwyr yn awgrymu pe bai'r swm uchaf wedi cynyddu yn unol â chwyddiant, byddai bellach yn £1,015,000 - dros ddwbl yr uchafswm presennol.
Dioddefwyr wedi'u hanwybyddu 'am yn rhy hir'
Dywedodd Neil Sugarman, cyfreithiwr sydd wedi gweithio ar achosion anafiadau troseddol a chyn-lywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL), y dylai'r pen-blwydd fod yn "alwad i bobl deffro".
"Mae'n 30 mlynedd ers cyflwyno'r uchafswm dyfarniad o £500,000 i'r dioddefwyr sydd wedi derbyn yr anafiadau mwyaf difrifol, a dylai fod yn foment i'r llywodraeth deffro a sylweddoli nad yw hyn bellach yn dderbyniol," meddai.
"I oedolion a phlant sy'n dioddef anaf trychinebus i'r ymennydd, sy'n gaeth i gadair olwyn neu y mae eu bywydau wedi'u difetha gan gamdriniaeth, mae'r ffaith eu bod nhw'n gorfod ceisio byw gyda'r swm yma am weddill eu hoes heb eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o'i le, yn sarhad."
Mae Kim Harrison, cyn-lywydd APIL, yn galw am adolygiad ar unwaith, gan ddweud bod y rhai sy'n cael eu heffeithio wedi cael eu hanwybyddu "am yn rhy hir".
"Er nad yw cael cap ar iawndal i oroeswyr trosedd yn berffaith, o leiaf dylid cydnabod na fydd y swm, oedd wedi'i sefydlu yn 1996, yn mynd mor bell yn arian heddiw, dri degawd yn ddiweddarach," meddai.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder:
"Mae ein meddyliau gyda holl ddioddefwyr troseddau treisgar.
Rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod goroeswyr dewr yn cael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu, gyda dros £164m wedi'i dalu gan y Cynllun Iawndal Anafiadau Troseddol, sy'n cael ei ariannu gan y trethdalwr, yn 2024/25."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




