Skip to main content
Advertisement

Sesiynau cwnsela Cymraeg am ddim i dorri rhwystr ariannol iechyd meddwl

Cronfa newydd yng Nghymru yn ariannu sesiynau cwnsela Cymraeg am ddim i dorri rhwystr ariannol iechyd meddwl gyda gwasanaeth wyneb yn wyneb gan Melin Bupur.

·4 min read
Llun o Erin Hughes yn sefyll y tu allan i wal ei thy. Mae ganddi wallt hir tywyll ac mae hi'n gwenu ar y camera ar ffurf hunlun. Mae hi'n gwisgo top lliw glas.

Cronfa newydd i gefnogi iechyd meddwl gyda sesiynau cwnsela Cymraeg am ddim

Mae cronfa sy'n casglu arian at ddibenion gwella iechyd meddwl yng Nghymru wedi derbyn nifer o roddion hael a allai ariannu sesiynau cwnsela Cymraeg am ddim, gyda'r nod o "chwalu'r rhwystr ariannol" wrth i bobl geisio cymorth.

O dan nawdd Cronfa Mesen, bydd cwmni cwnsela Melin Bupur yn darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i unigolion sydd ei angen.

Mynegodd dros 25 o bobl ddiddordeb yn y cynllun peilot o fewn ychydig ddiwrnodau, a bu'n rhaid cau'r ymholiadau oherwydd y galw mawr.

Dywedodd sylfaenydd y gronfa, Sioned Erin Hughes, sydd o Ben Llŷn, ei bod hi'n awyddus i gynnig rhywbeth y byddai hi "wirioneddol wedi gallu gwneud ag ef" ar adeg pan oedd hi'n dioddef.

Eisiau rhywbeth i "lenwi'r bwlch"

Brwydrodd Erin, sy'n 27 oed, yn erbyn heriau iechyd meddwl difrifol yn ystod cyfnod clo'r pandemig yn 2020, lle bu'n dioddef o "iselder catatonig".

"Doeddwn i methu gwneud unrhyw beth o gwbl – a hynny am fisoedd wedyn.
Fe arweiniodd ata i'n ceisio dod â fy mywyd i ben" meddai.

Ychydig fisoedd ar ôl y cyfnod anodd hwn, enillodd Erin y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 2022.

Mewn cyfweliad dirdynnol ar ôl y seremoni, fe siaradodd yn agored am ei heriau.

"Erbyn hynny roedd hi'n teimlo'n amserol i mi ddefnyddio'r llwyfan yn llythrennol i siarad am fy mhrofiadau.
Oeddwn i eisiau darparu rhywbeth fyddai'n llenwi'r bwlch" ychwanegodd.

Gwyliwch: Cyfweliad dirdynnol Sioned Erin Hughes yn Eisteddfod 2022

Cydweithio gyda chwnselydd Melin Bupur

Yn cydweithio ag Erin mae'r cwnselydd Elen Rennolf, sy'n 29 oed ac hefyd o ardal Pen Llŷn, ac sy'n berchennog ar gwmni Melin Bupur.

Advertisement

Mae Elen o'r farn ei bod hi'n "bwysig" i bobl hyfforddi fel cwnselwyr yn yr iaith Gymraeg:

"Mae 'na lot o bobl eraill sy'n siarad Cymraeg ac sy'n gwneud y gwaith yma – ond 'dyn ni'n eithaf spread out.
Yn aml beth sy'n digwydd yw bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig o bell i siaradwyr Cymraeg – gallai hynny fod yn addas iawn i rai, ac y dull gorau ar eu cyfer nhw!
Ond roedd hi'n bwysig iawn i ni gynnig y gwasanaeth yn y cnawd – mae pawb sydd wrthi'n derbyn y gwasanaeth gen i yn siaradwyr Cymraeg – sydd wedi uwcholeuo'r angen am hynny hefyd" meddai.

Dywedodd Elen ei bod hi'n "fraint" cael cefnogi gweledigaeth Erin

Llun o Elen Rennolf y tu allan i'w swyddfa gwnsela sydd wedi ei gosod yn yr ardd. Mae hi'n dal y camera ac yn gwenu. Mae ganddi wallt hir brown.
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Elen ei bod hi'n "fraint" cael cefnogi gweledigaeth Erin

Bellach yn ei thrydedd wythnos yn cynnig y sesiynau i'r rheini a gysylltodd â hi, ychwanegodd Elen ei bod hi'n awyddus iawn i dynnu'r rhwystr ariannol oddi ar bobl "yn y byd sydd ohoni":

"Mae costau byw wedi cynyddu... efallai rhyw bum neu chwech mlynedd yn ôl byddai rhywun wedi gallu arbed ychydig o'u harian personol ar gyfer cwnsela ond mae'r arian a fyddai wedi cael ei benodi ar gyfer hynny bellach yn gorfod mynd at... fyw.
Petrol... gwresogi'r tŷ... siopa bwyd. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnig y gwasanaeth hwn am ddim" meddai.

Gwasanaeth di-Gymraeg 'ddim yr un fath'

Un o flaenoriaethau Erin yn ei gweledigaeth oedd i sicrhau gwasanaeth Cymraeg.

"Dwi'n gwybod fod pobl yn aml yn dweud nad oes digon o sesiynau Cymraeg ar gael, ond mae pawb yn dweud hynny am mai dyna yw'r gwirionedd!
Dydy o [gwasanaeth di-Gymraeg] just ddim yr un fath - 'dyw'r mynegiant ar ôl ddim yn cyffwrdd y galon yn yr un modd" ychwanegodd.

Bydd y gronfa ac Elen yn cynnig hyd at 20 o sesiynau am ddim ar gyfer unigolion sydd angen cymorth, ac mae'r ddwy yn awyddus i "gryfhau" gweledigaeth bresennol Mesen.

"Mae'r model yma'n gweithio'n ofnadwy o dda" meddai Elen.
"Mae'r boblogaeth gyffredinol wedi bod mor hael yn cefnogi Mesen – dim ond y ddwy ohonom ni sydd wrthi – pwy a wŷr beth mae'r dyfodol yn edrych fel" ychwanegodd.

Os ydy cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News