Rhybudd i beidio â chodi, cwtsio na chusanu ŵyn oherwydd peryglon haint
Mae cyffwrdd ag ŵyn yn gallu arwain at bobl i ddal cryptosporidiwm - haint all fod yn ddifrifol i blant ifanc a grwpiau bregus.
Mae yna rybudd i bobl beidio â "chodi, cwtsio na chusanu" ŵyn oherwydd peryglon y gallai pobl fynd yn sâl ar ôl bod mewn cyswllt agos â'r anifeiliaid.
Cafodd dros 80 achos o cryptosporidiwm - haint y stumog sydd yn aml yn deillio o ddod i gysylltiad ag anifeiliaid fferm - eu cofnodi yn gysylltiedig ag un fferm yn ne Cymru yn 2025.
Mae un teulu wedi dweud eu bod nhw'n poeni y bydden nhw'n colli eu mab pedair oed wedi iddo fynd yn ddifrifol wael gyda'r haint wedi'r digwyddiad hwnnw.
Gall y salwch achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn a chrampiau stumog gwael, a gall fod yn ddifrifol iawn i blant ifanc a grwpiau bregus.
Felly wrth i deuluoedd baratoi i ymweld â ffermydd ac atyniadau anifeiliaid dros gyfnod y Pasg, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn annog ymwelwyr i fwynhau profiadau fferm yn gyfrifol.
Aeth Michael yn ddifrifol wael ar ôl mynd i ddigwyddiad ar fferm gyda'i fam-gu y llynedd
Aeth Michael, mab pedair oed Gareth Carpenter a Kate Wiejak o Ben-y-bont, yn "eithriadol o sâl" yn dilyn y digwyddiad ym Mro Morgannwg y llynedd a adawodd dros 80 yn wael.
Roedd y teulu ar wyliau pan gafodd Michael ei ruthro i'r ysbyty, ychydig ddyddiau wedi iddo fynd i fwydo ŵyn gyda'i fam-gu.
"Roedd Michael wedi golchi a saniteiddio ei ddwylo yn syth, ac wedi newid ei ddillad ar ôl iddo gyrraedd adref," meddai Gareth.
Doedd y teulu felly ddim yn deall pam fod y bachgen wedi dechrau teimlo'n wael tra ar wyliau yn Sbaen ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
"Fe gymron nhw fe i'r ysbyty ble datblygodd e dymheredd gwael a dolur rhydd. Roedd e ar drip, angen fluids trwy'r adeg, poenladdwyr cyson.
Roedd e'r profiad gwaethaf i fi fod trwy yn fy mywyd. Roedd e'n ddifrifol wael, ac roedden ni'n meddwl y bydden ni'n colli fe."

'Dyw hi byth am fod yn ddigon'
Roedd Michael yn yr ysbyty am bedwar diwrnod, a dim ond wedi iddyn nhw gael galwad gan ICC ar ôl mynd ag ef i'w meddygfa leol yng Nghymru y daeth ei rieni i wybod fod achosion eraill.
"Dyw e ddim wir yn fai ar y ffermwr, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n cymryd camau, dyw hi byth am fod yn ddigon i gael gwared â'r posibilrwydd yn llwyr," meddai Gareth.
"Bydden i'n cynghori pobl i beidio gwneud e o gwbl, a bod yn blaen, ond fi'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl am anwybyddu fi a chael amser grêt.
Roedd Michael yn iach, ac roedd gweld e'n mynd trwy hynny yn gwybod fod ei iechyd e'n tip top, bydden i ddim eisiau meddwl am rywun yn mynd trwy hynny gyda system imiwnedd gwan."
"Peidiwch â chodi ŵyn - osgowch eu dal, eu cwtsio na'u cusanu," meddai ICC
Fel rhan o'u rhybudd i beidio â thrin anifeiliaid fferm er mwyn osgoi dal haint, mae ICC yn cynnig y cyngor isod i'r cyhoedd:
- Peidiwch â chodi ŵyn - osgowch eu dal, eu cwtsio na'u cusanu. Dyma un o'r gweithgareddau sydd â'r risg uchaf ar gyfer lledaenu haint;
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr â dŵr tap cynnes a sebon hylif ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, ffensys, neu arwynebau. Nid yw geliau dwylo a weipiau'n effeithiol yn hyn o beth;
- Goruchwyliwch blant yn ofalus, yn enwedig wrth olchi dwylo a chyn bwyta neu yfed;
- Osgowch fwyta neu yfed ger anifeiliaid;
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas a glanhewch unrhyw beth sy'n mynd yn fudr cyn gynted â phosibl.
Mae golchi dwylo'n drylwyr yn un o'r prif argymhellion i arbed pobl rhag salwch wrth ymweld ag anifeiliaid fferm.


Mae gan yr asiantaeth gyngor i ffermwyr sy'n bwriadu croesawu ymwelwyr dros y gwyliau hefyd.
Mae'r rheiny'n cynnwys hyrwyddo canllawiau ieuenctid i staff ac ymwelwyr, darparu gorsafoedd golchi dwylo, a chadw ŵyn mewn corlannau caeedig, gan ganiatáu bwydo o'r tu allan i'r lloc yn unig.
Yn ôl Rob Owen, mae "pobl fwy on the ball rŵan nag oedden nhw flynyddoedd yn ôl"
Mae Rob Owen o Barc Fferm Llanfair ger Harlech yn un o'r rheiny sy'n paratoi am Basg prysur yn dangos teuluoedd a phlant ysgol o amgylch eu fferm.
"Lle mae'r ŵyn a'r geifr, maen nhw i gyd mewn peniau - dydyn nhw ddim yn mynd mewn atyn nhw a cherdded efo nhw neu eu rhoi nhw ar eu glin," meddai.
"Mae 'na seins fyny yn bob man yn d'eud iddyn nhw ganolbwyntio ar olchi eu dwylo, a mae 'na sincs mewn rhyw bump lle gwahanol o gwmpas y lle.
Mae'r bobl yn cael gwybod am olchi dwylo a pheidio rhoi sws i'r anifeiliaid, a rhyw bethau fel'na, pan maen nhw'n cyrraedd.
Wedyn maen nhw'n iawn. Maen nhw'n deall. Mae pobl fwy on the ball rŵan nag oedden nhw flynyddoedd yn ôl."

Mae'r ffermwr Colin Evans yn annog pobl i fynd at "brofiadau wyna go iawn lle mae pawb wedi'u diogelu"
Mae Colin Evans o Fferm Cantref Uchaf yn Aberhonddu hefyd yn annog unrhyw un sy'n meddwl ymweld â fferm i fynd at "brofiadau wyna go iawn lle mae pawb wedi'u diogelu".
"Mae'r tymor wyna'n gyfnod hudolus, ac rydym wrth ein bodd yn ei rannu gyda'r cyhoedd, ond mae mor bwysig bod pobl yn ei fwynhau'n ddiogel," meddai.
"Yma, gall ymwelwyr wylio ŵyn yn cael eu geni a hyd yn oed eu bwydo â photel drwy'r corlannau, a hynny i gyd wrth gadw'r anifeiliaid a nhw eu hunain yn ddiogel."
Ychwanegodd: "Mae gennym ni ddŵr cynnes a sebon yn barod ar gyfer golchi dwylo wedyn, felly'r unig beth y byddwch yn mynd ag ef adref yw atgof gwych, nid germau diangen."

Cludo plentyn, 4, i'r ysbyty ar ôl sesiwn mwytho anifeiliaid ar fferm
89 o bobl wedi eu heintio ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid
Degau'n sâl ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid ar fferm
Dywedodd Dr Andrew Nelson, uwch epidemiolegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae'r tymor wyna'n gyfle gwych i deuluoedd fwynhau cefn gwlad, ond mae'n hanfodol cofio y gall anifeiliaid fferm ifanc gario germau sy'n achosi salwch.
Drwy osgoi dod i gyswllt agos ag ŵyn ac ymarfer hylendid dwylo da, gall ymwelwyr leihau'r risg o haint yn sylweddol a mwynhau Pasg diogel."
Ond hyd yn oed gyda'r diogelwch cywir mewn lle, mae ICC yn annog unrhyw un sy'n profi dolur rhydd neu chwydu o fewn pythefnos o ymweld â fferm i gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio GIG 111.
Fe ddylai unrhyw un sy'n sâl gadw i ffwrdd o'r gwaith, yr ysgol neu'r feithrinfa nes eu bod yn rhydd rhag symptomau ers o leiaf 48 awr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







