Mae Emlyn Williams yn dweud bod y sefyllfa yn "wael iawn"
Mae oedi bwrdd iechyd wrth drin canser y prostad yn golygu bod dyn o Fôn yn "wynebu marwolaeth araf", ac "mae angen i rywun fod yn atebol", meddai.
Daw sylwadau Emlyn Williams wrth i ombwdsmon ddweud bod oedi ar gyfer sganiau a thriniaeth canser y prostad yng ngogledd Cymru yn golygu bod amseroedd aros wedi treblu, sy'n "annerbyniol".
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i'r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dilyn cŵyn gan y claf am y gofal a'r driniaeth yn dilyn ei ddiagnosis.
Dywedodd yr ombwdsmon mai dyma'r pedwerydd adroddiad ynghylch y mater yn y naw mlynedd diwethaf, a'i bod yn "hynod siomedig gorfod adrodd unwaith eto ar fethiannau yn yr un maes".
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro a dweud eu bod yn derbyn canfyddiadau'r ombwdsmon.

'Methiant clir yn y gwasanaeth'
Dechreuodd yr ymchwiliad yn sgil cŵyn gan glaf o'r enw Emlyn Williams, sy'n cael ei adnabod fel Mr C yn yr adroddiad, am ei driniaeth yn dilyn diagnosis o ganser y prostad.
Fe ystyriodd yr ombwdsmon oedi cyn cael sgan PSMA PET - sgan sy'n cael ei ddefnyddio i ganfod ac amlygu celloedd canser y prostad.
Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd yr oedi cyn cael therapïau hormonaidd a'r effaith bosib ar ymlediad ei ganser.
Daeth yr ombwdsmon i'r casgliad, er bod y gofal a'r driniaeth ar y cyfan wedi dilyn llwybr cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer canser y prostad, bod oedi sylweddol ar gamau allweddol.
Roedd Mr Williams wedi aros dros dair gwaith yn fwy nag y dylai fod wedi gwneud cyn i'w driniaeth ddechrau.
Er fod biopsi wedi dangos fod sgan PSMA PET yn briodol, ni gafodd y sgan am bron i bedwar mis.
Mae'r adroddiad yn nodi hyn fel cam "annerbyniol ac yn fethiant clir yn y gwasanaeth".
Mae'n nodi hefyd y dylai Mr Williams fod wedi derbyn therapi hormonaidd yn gynharach.
Ond oherwydd yr oedi sylweddol gyda'r sgan ei hun, cafodd y therapi hormonaidd ei ohirio'n ddiangen hefyd, gan olygu aros mwy na 180 diwrnod am driniaeth bendant.
Yn siarad gyda'r BBC, dywedodd Mr Williams bod y
"bobl yma yn hamddenol - dylai nhw fod wedi rhuthro i gael y sganiau".
Ychwanegodd ei fod yn
"byw fy mywyd yn pendroni pryd fydd y feddyginiaeth yn stopio gweithio, oherwydd dwi eisoes wedi cael gwybod y bydd yn stopio gweithio, a beth sy'n digwydd wedyn?"
"Ydw i'n colli fy ngallu i gerdded? Ydw i'n dod yn faich i fy nheulu - rhywbeth dwi bendant ddim eisiau i ddigwydd, mae'n sefyllfa wael iawn."
Mae
"diagnosis o ganser risg uchel iawn" yn ei wneud yn glir "bod gennych chi fawr o amser i'w ddatrys", meddai.
Ond
"dydyn nhw ddim i weld yn sylweddoli hynny, dydyn nhw ddim yn ymddangos fel pe bai nhw'n gweld y brys yn hynny".
"Maen nhw wedi arwain ata i'n wynebu marwolaeth araf - cyn belled a dwi'n gweld yr holl sefyllfa.
"Ddylen nhw ddim allu cael drwy hyn heb wynebu canlyniadau, mae angen i rywun fod yn atebol."
Argymhellion i'r bwrdd iechyd
Mae'r ombwdsmon hefyd yn bryderus am fethiant y bwrdd iechyd i gydnabod yr oedi wrth ymateb i'r gŵyn.
Mae'r ombwdsmon yn argymell y dylai'r bwrdd adolygu sut y gwnaeth ddelio â'r gŵyn, ymhlith argymhellion eraill:
- Ymddiheuro i Mr Williams am yr oedi a'r anghyfiawnder a gafodd ei achosi;
- Rhannu'r adroddiad gyda'r clinigwyr a oedd yn gysylltiedig â gofal Mr Williams fel bod modd ystyried a thrafod y canfyddiadau;
- Adolygu cleifion a oedd angen sgan PSMA PET yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i asesu amseroedd aros rhwng y pwynt amheuaeth a dechrau'r driniaeth;
- Adolygu llwybrau canser y prostad lleol a'i feincnodi yn erbyn y Llwybr Delfrydol Cenedlaethol a'r rhai sy'n cael eu defnyddio gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru;
- Adolygu achos Mr Williams i ddeall sut oedd ei siwrnai llwybr canser wedi cymryd mwy na 180 diwrnod;
- Atgoffa staff sy'n delio â chwynion o'r angen am ymchwiliadau trylwyr a chadarn.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi derbyn bob un o'r argymhellion.
'Hynod siomedig'
Dywedodd yr ombwdsmon, Michelle Morris, mai dyma'r pedwerydd adroddiad mewn naw mlynedd ynghylch oedi wrth drin canser y prostad o fewn y bwrdd iechyd.
"Mewn adroddiadau blaenorol, gwnaethom annog y bwrdd iechyd i ymrwymo'n llawn i newid a gwella fel na fyddai angen i ddynion ddod â phryderon tebyg i'm swyddfa eto.
"Mae felly yn hynod siomedig gorfod adrodd unwaith eto ar fethiannau yn yr un maes. Ni chydymffurfiwyd yn llawn ag argymhellion blaenorol, ac nid yw cynllun gwella'r bwrdd iechyd ei hun - a gytunwyd gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon - wedi'i gwblhau."
Dywedodd fod rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn parhau i fod heb eu cymryd.
Ychwanegodd bod y bwrdd yn dweud mai salwch staff a phroblemau capasiti sydd ar fai am y sefyllfa, ond
"nid yw'r rhesymau hyn yn egluro'n union pam y bu'n rhaid i Mr C aros dros 180 diwrnod rhwng y pwynt o amheuaeth i gael triniaeth bendant".
"Ar bwysau tebygolrwydd, mae'n fwy tebygol na pheidio bod yr oedi hyn wedi cyfrannu at ganser Mr C yn dod yn fwy datblygedig.
"Yn anffodus, bydd yr ansicrwydd y mae hyn yn ei greu yn anghyfiawnder bythol i Mr C a'i deulu."
'Ymddiheuro am yr oedi annerbyniol'
Mewn datganiad, mae prif weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer wedi
"ymddiheuro am yr oedi annerbyniol"yn yr achos, a derbyn canfyddiadau'r ombwdsmon
"yn llawn".
"Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau fel mater o frys", meddai.
Ychwanegodd bod cais wedi mynd i'r llywodraeth am sefydlu canolfan ragoriaeth yn y gogledd, fyddai'n
"trawsnewid" y gofal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Menyw wedi dysgu am ei chanser terfynol ar ôl i gês ddisgyn arni ar drên
- Cwpl o Bwllheli 'ofn' geni babi yn y gogledd ar ôl profiad 'erchyll'
- Gwahaniaethau goroesi canser dros Gymru yn dangos 'problemau parhaus'







