Myfyriwr Parafeddygol Yn Ystyried Symud Dramor Oherwydd Diffyg Swyddi
Mae e'n bryder, bydde' ni wedi hoffi cael rhywfaint o rybudd, mae'n teimlo fel slap i'r wyneb,medd Lorna Edwards.
Mae myfyriwr sy'n hyfforddi i fod yn barafeddyg yn ystyried symud dramor am waith ar ôl cael gwybod na fydd unrhyw swyddi ar gael i barafeddygon newydd gymhwyso yng Nghymru.
Mae Lorna Edwards, 26 oed o Landeilo, ymhlith grŵp o tua 70 o fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd yng Nghymru sydd wedi cael gwybod am rewi recriwtio.
Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gadarnhau ddydd Mercher mai
"tirwedd ariannol a gweithredol anodd"oedd y rheswm dros y rhewi.
Mae'r corff sy'n cynrychioli parafeddygon yn rhagweld y gallai'r rhewi recriwtio ymestyn ledled y DU yn y misoedd nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn
"gweithio'n agos"gyda'r gwasanaeth a chyrff eraill i fynd i'r afael â'r heriau a chefnogi graddedigion.
Mae Lorna Edwards ymhlith y grŵp o tua 70 o fyfyrwyr sydd wedi cael gwybod bod recriwtio'n cael ei rewi am gyfnod.

Cwrs a Chyllid Parafeddygol yng Nghymru
Gall myfyrwyr sy'n awyddus i fod yn parafeddygon astudio'r cwrs BSc Gwyddoniaeth Parafeddygol mewn dwy brifysgol yng Nghymru, Abertawe a Wrecsam. Mae dros 50 o gyrsiau ar gael ledled y Deyrnas Unedig (DU).
Yn Nghymru, mae rhan helaeth o'r cymhorthdal yn dod o Addysg a Gwella Gofal Iechyd Cymru (AaGIC), cangen o'r GIG sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru.
Mae bwrsariaethau AaGIC yn talu ffioedd dysgu am dair blynedd, cyfanswm o bron i £30,000, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer llety a lleoliadau gwaith.
Y llynedd, dim ond tua thraean o raddedigion yn wreiddiol a gafodd gynnig swyddi ar gyfer parafeddyg newydd gymhwyso.

Eleni, bydd y nifer hwnnw yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (YGAC) yn sero.
Profiad Lorna Edwards a'i Gobeithion
Ers tair blynedd, mae Lorna Edwards wedi bod yn astudio gwyddoniaeth parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd ei gobaith yn cael swydd yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ôl graddio, ond mae'r cyhoeddiad diweddar wedi codi amheuaeth am ei chamau nesaf.
"Rydyn ni wedi cael gwybod y bydden ni'n graddio ym mis Gorffennaf, ond bydd dim swyddi ar gael i ni'n fuan yn y band rydyn ni wedi hyfforddi ar ei gyfer,"meddai.
"Mae e'n bryder. Bydden ni wedi hoffi cael rhywfaint o rybudd. Mae'n teimlo fel slap i'r wyneb.
"Rydym wedi cael ein cadw yn y tywyllwch mewn gwirionedd ac mae'n sarhaus braidd. Rydym yn teimlo nad ydyn ni'n bwysig ac wedi cael ein gwthio i'r ochr.
"Nawr, gallen ni gael swyddi mewn bandiau llawer is na'r hyn rydyn ni wedi hyfforddi ar ei gyfer, a fi'n credu y bydd pobl naill ai'n gadael neu'n chwilio am yrfaoedd eraill.
"Felly beth wnaethon ni hyfforddi ar ei gyfer?"

Eglurodd Ms Edwards wrth BBC Cymru ei bod wedi mwynhau'r cwrs a bod y brifysgol wedi darparu cefnogaeth trwy gydol y broses, ond bod y newyddion wedi lladd yr ysbryd tua diwedd y flwyddyn academaidd.
Mae myfyrwyr gwyddoniaeth parafeddygol eraill wedi cysylltu â'r BBC trwy Dy Lais, gan ddweud eu bod wedi cael cyngor i wneud cais am swyddi yng Nghanada, Seland Newydd ac Awstralia.
Nid yw Lorna Edwards yn diystyru symud dramor ar hyn o bryd.
"Fi'n ystyried mynd i ffwrdd. Fi'n credu bod angen i mi gadw fy holl opsiynau yn agored. Fi ddim yn diystyru unrhyw beth."
Esboniodd nad yw rhai opsiynau'n ymarferol iddi hi, fel mynd i Ganada, er y byddai hynny'n
"gyfle gwych i rai pobl".
"Mae llawer ohon ni'n fyfyrwyr aeddfed. Mae gan lawer o bobl eraill forgeisi, plant, gyrfaoedd eraill y maen nhw wedi'u stopio am nawr ac allen nhw ddim ailddechrau eu bywydau a symud hanner ffordd ar draws y byd.
"Hyd yn oed petai nhw'n medru, nid yw rhai pobl eisiau ac nid dyna oedden ni'n ei ddisgwyl."

Safbwynt Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn ôl eu Cyfarwyddwr Pobl Carl Kneeshaw, yn
"llywio tirwedd ariannol a gweithredol anodd, fel llawer o sefydliadau'r GIG".
Mae hyn yn golygu, meddai,
"bod rhaid i benderfyniadau recriwtio fod ar sail amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys lefelau staffio presennol, galw am wasanaethau, cymysgedd sgiliau'r gweithlu a fforddiadwyedd".
"Yn anffodus, fel mae pethau'n sefyll, nid ydym mewn sefyllfa i gyflogi parafeddygon sydd newydd gymhwyso eleni."
Cyngor i Raddedigion a Rhagolygon y Dyfodol
Ychwanegodd Mr Kneeshaw eu bod yn annog graddedigion sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gwasanaeth i ystyried rolau technegydd meddygol brys y mae disgwyl i'r gwasanaeth eu cynnig drwy 2026, neu rolau o fewn gwasanaethau ambiwlans eraill a sefydliadau o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r corff sy'n cynrychioli parafeddygon yn rhagweld y bydd rhewi recriwtio tebyg yn cael ei gyflwyno ledled y DU yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Parafeddygon y llynedd fod
"anghydweddid ledled y DU"rhwng nifer y myfyrwyr sy'n graddio a nifer y rolau sydd ar gael.
Ymatebion Gwleidyddol
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod
"wedi ymrwymo i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant y GIG yn cael ei gefnogi gan gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon".
"Rydym yn gweithio'n agos gydag YGAC, AaGIC a phrifysgolion i fynd i'r afael â'r heriau hyn a chefnogi graddedigion."
Yn ôl Llafur Cymru, maent
"wedi ymrwymo i sicrhau bod gan y GIG yng Nghymru y staff sydd eu hangen arno nawr ac yn y dyfodol"trwy gynllun gweithlu hirdymor.
Mae Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Cymru am fethu myfyrwyr a'r GIG, gan ddweud eu bod wedi amlinellu cynlluniau i
"creu strategaeth gweithlu cenedlaethol cynhwysfawr newydd, sydd ei hangen yn fawr".
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod y penderfyniad yn
"wastraff syfrdanol o dalent ac arian trethdalwyr", nad oedd yn gwneud synnwyr
"ar adeg pan fo amseroedd ymateb ambiwlansys yn dal yn rhy hir ac mae cleifion yn aros mewn poen".
Yn ôl James Evans o Reform UK, mae'r penderfyniad yn
"gwatwar"trethdalwyr Cymru.
"Nid yn unig y bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i fod heb ddigon o staff ac yn debygol o barhau i fethu â chyrraedd targedau amser ymateb allweddol sy'n achub bywydau, ond trethdalwyr sy'n talu'r bil,"meddai.
Dywedodd Ceidwadwyr Cymreig fod hwn yn
"fethiant clir o ran cynllunio'r gweithlu gan Lywodraeth Lafur Cymru"ac yn
"gwbl annerbyniol bod myfyrwyr parafeddygol yn cael eu gadael heb gyfleoedd swyddi yng Nghymru".
Yn ôl Ian Chandler, Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Blaid Werdd:
"Mae rhewi recriwtio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn doriad ym mhob ffordd ond enw - pan fydd staff yn gadael, fydd neb yn dod i'w lle.
"Mae hynny'n golygu amseroedd ymateb arafach a mwy o risg i gleifion. Mae'n fethiant clir o ran cynllunio gan y Llywodraeth Lafur."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




