Llafur yn addo trawsnewid gofal iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Llafur yn addo "trawsnewid" gofal iechyd meddwl, gan sicrhau gwasanaethau yr un diwrnod a phrofion ym mhob un o fyrddau iechyd Cymru os cânt eu hethol yn y Senedd nesaf.
Byddai'r blaid Lafur yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n "hawdd i'w defnyddio" ar draws Cymru, meddai'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wrth lansio ymgyrch etholiad ei phlaid yng Nghasnewydd ddydd Llun. Mae hi wedi addo "canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd".
Mae Llafur yn gaddo gwasanaethau iechyd meddwl yr un diwrnod a phrofion ar gael ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, fel rhan o'u cynlluniau i drawsnewid y system.
Er bod plaid Eluned Morgan wedi bod mewn llywodraeth yn y Senedd ers i'r sefydliad agor 27 o flynyddoedd yn ôl, mae polau piniwn yn awgrymu y gallent ddod yn drydydd tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK ym mis Mai.
Nid dyma'r tro cyntaf i Lafur gyhoeddi cynlluniau am wasanaethau yr un diwrnod, gan adeiladu ar y gwasanaeth iechyd meddwl brys 111 'pwyswch dau'.
Yn ogystal, mae Eluned Morgan yn addo gwella trafnidiaeth i ysbytai, bod yn fwy llym ar bobl sy'n gadael sbwriel yn anghyfreithlon, ac yn cynnig gwarant ail-hyfforddi am oes i gefnogi gweithwyr i ddychwelyd neu aros yn y gwaith.
Mae Llafur hefyd wedi cyhoeddi uchafswm tocynnau bws o £2 a chyflog drwy'r flwyddyn i gymhorthyddion dosbarth.
'Cynnydd allwch chi weld, mesur a theimlo'
Mewn araith, bydd arweinydd Llafur Cymru yn dweud:
"Ni all degwch heddiw olygu amynedd di-ddiwedd. Allith o ddim golygu, 'arhoswch efo ni'.
Mae tegwch heddiw yn golygu cynnydd allwch chi weld, cynnydd allwch chi fesur, cynnydd allwch chi deimlo."
"Mi fyddwn ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud y gwahaeniaeth mwyaf i fywyd dyddiol, ac mi fyddwn ni'n dilifro nhw gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol o lywodraeth".
Mewn neges i'r pleidiau eraill, disgwylir iddi ddweud na all problemau polisi gael eu datrys ar y cyfryngau cymdeithasol:
"Allwch chi ddim gwella rhestrau aros gyda hashnod. Allwch chi ddim cynyddu cyflogau ar TikTok. Allwch chi ddim adeiladu ysbyty gyda pwyllgor. Mae'n rhaid i chi gael cynllun."
Mae digwyddiad Llafur yn dilyn cynhadleddau gwanwyn y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru fis Chwefror.
- Plaid Cymru yn datgelu cynllun 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth
- Ceidwadwyr yn addo 'gwasanaeth wrth gefn' i staffio'r GIG
Mae'r blaid Lafur wedi penderfynu peidio cynnal cynhadledd cyn etholiadau'r Senedd eleni, ond maen nhw wedi dweud wrth BBC Cymru bod disgwyl iddynt gynnal un yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Yn ôl ffynhonnell o'r Blaid, doedd dim bwriad cynnal cynhadledd eleni erioed, er bod cynhadleddau gwanwyn cyn etholiadau'r Senedd wedi cael eu cynnal yn 2016 a 2021.
Dywedodd ffynhonnell arall o'r blaid:
"'Dach chi eisiau pob un o'ch ymgyrchwyr allan ar y drysau pob penwythnos.
Mae 'na gost/risg o fynd â'ch ymgyrchwyr i Landudno am y penwythnos."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







