Dysgu Cymraeg i Ymdopi â Phrofiadau Personol
Mae dysgu'r iaith Gymraeg wedi bod yn ffynhonnell gefnogaeth i Jen Rizio o Utica, Efrog Newydd, wrth iddi ymdopi â chyflwr niwrolegol ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Dechreuodd Jen ddysgu Cymraeg ar ôl cyfnod mewn ysbyty yn Chicago, lle roedd yn dioddef o feigryn difrifol. Yn ystod y cyfnod hwn, clywodd am y lle enwog Llanfairpwll am y tro cyntaf, fel y dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Roedd gen i boen pen am flynyddoedd heb stopio.
"Yn 2020, o'n i'n gwylio fideo firal ar YouTube lle oedd Liam Dutton (y cyflwynydd tywydd) wedi dweud yr enw Llanfairpwll ac mi wnes i benderfynu dechrau dysgu Cymraeg yn y fan a'r lle."
Ar ôl gadael yr ysbyty, dechreuodd Jen sesiynau bioadborth i helpu ei chyflwr, gan ddefnyddio'r Gymraeg yn y sesiynau hyn. Mae bioadborth yn dechneg sy'n cysylltu'r meddwl a'r corff drwy ddefnyddio synwyryddion i fonitro prosesau corfforol megis curiad y galon.
"Roedd siarad Cymraeg y peth cyntaf i helpu fi gyda tyndra a circulation ar y sgrîn bioadborth. Dw i'n teimlo bod siarad Cymraeg wedi helpu ailweirio fy mrên."
Hwyl a Chynnydd gyda'r Iaith
Yn ogystal â defnyddio bioadborth, bu Jen yn gwylio rhaglen Now You're Talking Welsh am 10 munud ddwywaith y dydd. Fodd bynnag, daeth y trobwynt pan ddechreuodd ddysgu gyda thiwtor ar-lein. Meddai:
"Mi wnes i basio yr arholiad Mynediad yn 2024, ac mi af i i Gymru i sefyll yr arholiad Sylfaen ym mis Mehefin eleni.
"Mae fy niwtor yn bendigedig! Dw i'n teimlo bod y tiwtoriaid dysgu Cymraeg yn ardderchog yn paratoi y dosbarth i sefyll yr arholiadau."
Mae Jen wedi cwympo mewn cariad â'r Gymraeg, un o chwe iaith y mae hi wedi dysgu. Dywedodd:
"Dw i'n caru sain yr iaith; mae mor hwyl!
"Fy hoff bethau ydy'r llythrennau arbennig: ll, ch, ac yn y blaen. Hefyd dw i'n mwynhau sgwennu yn Gymraeg achos mae'r iaith mor disgrifiadol."
Yn ogystal â Chymraeg, mae Jen yn siarad Saesneg, Sbaeneg, Eidaleg, ychydig o Hebraeg a Rwsieg, ond ychwanegodd:
"ond Cymraeg ydy fy hoff un"
Yn 2023, enillodd y drydedd wobr am ei cherdd 'Fy Ffrind' yng nghystadleuaeth Merched y Wawr i ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg.
Helpu Dysgwyr Eraill
Mae angerdd Jen am y Gymraeg wedi arwain ati i greu sianel YouTube o'r enw Curious About Welsh? i gefnogi dysgwyr eraill. Ers dechrau dysgu, mae wedi cyfarfod llawer o bobl drwy'r iaith. Dywedodd:
"Dw i'n trio helpu pobl eraill i ddysgu Cymraeg achos dw i eisiau cadw hanes Cymru yn fyw.
"Yn anffodus, roedd y Blue Books a'r Welsh Not yn trio stopio pobl i siarad eich iaith, a newid iaith busnes a chyfraith i'r Saesneg.
"Rŵan, mae gan y Llywodraeth brosiect Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a dw i'n gobeithio helpu cefnogi pobl i ddechrau siarad neu ailddechrau siarad Cymraeg efo ffrindiau, teulu ac yn y busnesau.
"Mae gen i lond bol o bobl yn galw Cymraeg yn 'useless'. Cymraeg ydy iaith yr wlad, iaith bobl Cymru. Cymru am byth!"
Mae Jen yn adnabod siaradwyr Cymraeg eraill yn America ac mae'n cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda Chymdeithas Madog. Meddai:
"Mi wnaeth pobl sgwennu ata i ar ôl gwylio fy sioe YouTube.
"Ro'n i wrth fy modd pan oedd yr actores Cathe B wedi gofyn i mi siarad efo hi ar ei rhaglen YouTube hi, The Aunty Sochelle Hour-Ish Show am siarad Cymraeg. Hefyd, mi wnes i siarad ar y radio lleol am fy nysgu Cymraeg ac y pwysigrwydd o drio pethau newydd."
"Dw i'n caru rhannu fy joio. Dwi'n awtistig a ieithoedd ydy fy hoff beth i ddysgu. Wrth gwrs, Cymraeg ydy fy hoff iaith i siarad.
"Mae gen i PTSD, ac mae siarad Cymraeg yn helpu fi teimlo mwy hyderus ac ymlaciol.
"Iaith y Nefoedd yn helpu fi ffeindio fy llais eto ac mae gen i obaith rŵan."
Mae'r peth anoddaf i Jen wrth ddysgu Cymraeg yw'r treigliadau. Meddai:
"Dw i'n siŵr does dim syndod mae'r treigladau yn anodd i mi, ond dw i'n trio fy ngorau glas."
Yn Mehefin 2024, bu Jen yn ymweld â Bangor ac Ynys Môn, gan ddweud:
"Mae gen i un person yn y dosbarth Sylfaen yn byw yn yr Unol Daleithiau hefyd.
"Yn anffodus, does dim llawer o bobl yn fy ardal i'n siarad Cymraeg, ond mae fy ffrind coleg gyda diddoreb yn dysgu.
"Dw i'n gobeithio symud i Gymru un dydd."

Cyngor Jen i Ddysgwyr Cymraeg
Pan ofynnwyd i Jen am gyngor i ddechreuwyr, dywedodd:
"Y sgwrs cyntaf ydy y mwya' anodd, ac wedyn bydd yn haws. I gychwyn, gwrandewch ar radio Cymraeg am 10 munud ddwywaith y diwrnod. Ymarfer mwy a mwy. Ysgrifennwch eich rhestr siopa yn Gymraeg. Cyfrifwch yn Gymraeg. Trïwch gwrs dysgu Cymraeg. Gwyliwch fy rhaglen Curious About Welsh? a rhaglenni eraill ar Youtube.
"Mae'n iawn i wneud mistêcs neu defnyddio ychydig o eiriau Saesneg. Dal ati!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







