Skip to main content
Advertisement

Gweinidog Iechyd yn pwysleisio gweithio o fewn y gyllideb i wella canlyniadau iechyd

Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Iechyd Cymru, pwysleisio gweithio o fewn y gyllideb i leihau rhestrau aros a gwella canlyniadau iechyd, gan greu hybiau arbenigol a chynllun gweithlu newydd i gefnogi'r GIG.

·5 min read
Mabon ap Gwynfor

Gweinidog Iechyd yn mynnu bod modd 'gweithio o fewn y gyllideb' a gwella canlyniadau

Mae Mabon ap Gwynfor yn credu y gallai'r rhestrau aros ddechrau codi eto oni bai bod y system gyfan yn newid.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor, wedi mynnu y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn byw o fewn ei fodd, er gwaetha'r pwysau ar gyllidebau a gwasanaethau.

Dywedodd y byddai'n edrych ar ddefnyddio arian ac adnoddau mewn ffyrdd gwahanol er mwyn lleihau'r rhestrau aros am driniaeth.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na hanner ei chyllideb ar iechyd ac mae £120m ychwanegol i'w wario ar leihau'r rhestrau aros ymhellach.

Mae'r llywodraeth newydd wedi dweud y bydd nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth yn cael ei ddileu yng Nghymru o fewn misoedd.

Gwario £120m ar restrau aros mewn ffordd mwy 'cynaliadwy' - gweinidog iechyd

Cynghori parafeddygon newydd i symud dramor gan nad oes swyddi yng Nghymru

Sut mae gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr?

Dywedodd fod staff y GIG yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ond dywedodd nad yw'r gwasanaeth yn "sylfaenol wedi torri", er iddo roi asesiad tywyll o gyflwr y gwasanaethau pan gyfeiriodd at y Senedd yr wythnos hon.

Mae'r arosiadau hiraf o fwy na dwy flynedd wedi bod yn gostwng am y 10 mis diwethaf yn olynol.

Mae Mr ap Gwynfor yn credu y gallai'r rhestrau aros ddechrau codi eto oni bai bod y system gyfan yn newid.

"Buddsoddodd y llywodraeth Lafur £1.5 biliwn i ostwng y rhestrau aros, ond ni wnaethon nhw adeiladu capasiti.
Fe wnaeth nhw ganolbwyntio ar atebion tymor byr, math o blastr dros y broblem.
Bydd hynny'n arwain at y niferoedd hynny'n codi eto, oni bai ein bod yn rhoi system ar waith sy'n mynd i'r afael â hynny'n gynnar.
Felly nid yw bob amser yn ymwneud ag arian.
Os edrychwch ar amserlen y theatrau yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd, dydan nhw ddim yn cael eu defnyddio i'w llawn potensial."

Creu hybiau arbenigol i leihau rhestrau aros

Mae rhwydwaith o hyd at 10 canolfan lawfeddygol yn cael eu creu i geisio lleihau'r rhestrau aros am driniaeth.

Advertisement
"Byddwn yn gweithio o fewn y gyllideb sydd gennym.
Bydd yn cymryd amser ond bydd yn golygu y bydd canlyniadau pobl yn gwella ac na fyddwn yn gweld unigolion yn mynd ar y llwybrau hir hynny ac yn aros am driniaeth yn y dyfodol.
Rwy'n argyhoeddedig y gallwn wneud i bethau weithio a gwella canlyniadau i bobl Cymru, a dyna'r peth pwysig."
"Y tîm clinigol fydd yn cynghori ac yn arwain ar yr hybiau fydd yn gweithredu dros yr haf."

Bydd rhan gyntaf cynllun gweithlu'r GIG yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd:

"Mi ydan ni am ymgynnull tîm o arbenigwyr clinigol er mwyn adnabod lle allwn ni ddatblygu canolfannau, hybiau triniaeth arbenigol ar draws Cymru.
Er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu gweld yn gynt tra hefyd bod ni'n buddsoddi yn gynt yn y system ac yn gynharach yn yr ochr glinigol i neud yn siŵr fod pobl ar y rhestrau cywir.
Mae 'na nifer o bobl ar restrau aros na ddyle nhw fod arnyn nhw ac felly mi fyddwn ni'n sicrhau fod pobl yn gallu cael eu gweld yn gynt wrth weld y person cywir."

'Mae'r sefyllfa yn un gwbl anfoddhaol'

Yn ôl Mr ap Gwynfor, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu er mwyn cadw graddedigion meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn awyddus i ddelio â'r mater o swyddi i raddedigion ac fe fydd uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach ym mis Mehefin i "ddatrys y broblem tymor byr gyda'r rheini sydd ddim yn gallu ffeindio gwaith".

Mae'r graddedigion meddygol am fod "yn weithwyr holl bwysig i'r gwasanaeth iechyd".

"Mae'r sefyllfa yn un gwbl anfoddhaol.
Dyle ni ddim fod wedi ffeindio ein hunain ynddi i ddechrau."

Esboniodd y daw hyn o ganlyniad i "benderfyniadau a wnaed yn ôl yn 2022 ac felly mae'n mynd i gymryd amser i hynna weithio trwy'r system oherwydd ddaru'r llefydd yma gael eu comisiynu bryd hynny," meddai.

Mae angen "gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n ffeindio ein hunain yn y sefyllfa fel yma yn y dyfodol trwy ddatblygu cynllun gweithlu amgenach er mwyn gwneud yn siŵr bod ni'n ateb y problemau yma".

Fel rhan o becyn ehangach i feddygon teulu dywedodd Mr ap Gwynfor wrth Newyddion S4C fod y llywodraeth am gyflwyno 100 o feddygon teulu wedi eu cyflogi gan GIG i weithredu "yn yr ardaloedd lle ma'r problemau mwyaf acute er mwyn tynnu pwysau oddi ar y meddygon yno ac oddi ar yr adrannau brys."

"Mi fydd pobl yn cael eu gweld yn gynt a fod pobl yn cael triniaeth ynghynt."
"Byddwn yn cynnig cefnogaeth i feddygfeydd sydd angen cefnogaeth er mwyn datblygu eu lleoliadau nhw i ddenu mwy o feddygon teulu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News