Skip to main content
Advertisement

Gwasanaeth Iechyd Cymru Bron wedi Dirywio Yn ystod y Pandemig Covid-19

Adroddiad diweddar yn nodi bod gwasanaeth iechyd Cymru bron wedi dymchwel yn ystod y pandemig Covid-19 oherwydd diffyg paratoi, straen system, a chyfyngiadau ar ymweld, gyda staff yn gweithio dan bwysau mawr.

·5 min read
Nyrsys mewn mygydau

Gwasanaeth Iechyd Cymru Bron wedi Dymchwel Yn ystod y Pandemig

Bu bron i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac ar draws y DU, "ddymchwel" yn ystod pandemig Covid-19 oherwydd diffyg paratoi a'r ffaith bod y system dan gymaint o straen o flaen llaw.

Dyna un o brif ganfyddiadau adroddiad diweddaraf Ymchwiliad Covid y DU, sy'n dweud fod y system wedi ymdopi yn y pendraw, ond "dim ond o drwch blewyn".

"Ymdrech rhyfeddol" staff sydd i ddiolch y ffaith na chafodd y gwasanaeth ei orlethu yn y pendraw.

Yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, mae'r ymdrechion hyn wedi atal cwymp llwyr y gwasanaeth iechyd.

Serch hynny, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o bryderon ynglŷn ag effaith "ddinistriol" y pandemig ar y gwasanaeth iechyd a'r gofal a gafodd cleifion.

Effaith ar Gleifion a Gwasanaethau

Cafodd 13,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir.

Dynes mewn mwgwd
Disgrifiad o’r llun, Cafodd 13,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir

Yn benodol, mae'r adroddiad yn nodi na chafodd rhai cleifion eu derbyn i'r ysbyty er bod angen, oherwydd y straen a'r ambiwlansys ac unedau brys.

Ni chafodd rhai eu derbyn i unedau gofal dwys er bod angen, oherwydd bod y rheiny wedi gorlenwi, er gwaethaf ymdrechion mawr i gynyddu capasiti.

Mae'r adroddiad yn dweud hefyd fod miloedd lawer o gleifion oedd yn aros am driniaethau wedi dioddef oherwydd y penderfyniad i ohirio triniaethau nad oedd yn rhai brys, a bod rhai wedi dirywio cymaint nad oedd modd eu trin nhw wedyn.

Mae hefyd yn awgrymu fod Cymru wedi bod yn araf yn delio â'r twf aruthrol mewn cleifion ar restrau aros.

Ysbyty
Disgrifiad o’r llun, Mae'r adroddiad yn awgrymu fod Cymru wedi bod yn araf yn delio â'r twf aruthrol mewn cleifion ar restrau aros

Effaith ar Staff a Gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd

Mae'r adroddiad yn nodi bod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar les ac iechyd meddwl staff, a fu'n gorfod gweithio "dan bwysau annioddefol" mewn system oedd mor fregus i ddechrau.

Mae'n dweud fod ymdrechion i atal Covid rhag lledaenu yn y cyfnod cynnar wedi methu oherwydd diffyg cydnabyddiaeth bod y feirws yn lledaenu trwy'r awyr.

Dywed hefyd bod cyfyngiadau ar ymweld wedi cael "effaith andwyol" ar deuluoedd, ac mae pryderon am wahaniaethau ar draws y DU o ran gwasanaethau i gefnogi cleifion â Covid hir.

Ymateb a Gwasanaethau Yn Benodol yng Nghymru

Mae'r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau penodol am yr ymateb yng Nghymru, gan gynnwys sylwadau meddyg ymgynghorol blaenllaw a nododd nad oedd mygydau ar gael yn ei adran ar ddechrau'r pandemig, a bod ef a'i gydweithwyr wedi cael eu taro'n wael o ganlyniad.

Cafodd 13,000 o'r 91,000 o lythyrau yn rhoi cyfarwyddyd i bobl fregus yng Nghymru i gysgodi, eu hanfon i gyfeiriadau anghywir.

Roedd Prif Feddyg Cymru ar y pryd, Syr Frank Atherton, yn cydnabod nad oedd digon o gapasiti mewn ysbytai o flaen llaw i ymateb, gan nodi bod ceisio rhedeg system mor "effeithlon" yn golygu nad oedd y system wedi paratoi'n ddigonol.

Advertisement

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi arafwch yng Nghymru o ran llacio cyfyngiadau ar ymweld â mamau beichiog.

Dim ond 60 o gleifion gafodd eu trin mewn ysbytai maes, er bod £136m wedi cael ei wario arnyn nhw, ond nid yw'r ymchwiliad yn beirniadu'r egwyddor o'u sefydlu.

Ysbyty maes Stadiwm Principality
Disgrifiad o’r llun, Dim ond 60 o gleifion gafodd eu trin mewn ysbytai maes, er bod £136m wedi cael ei wario arnyn nhw

Dywed hefyd fod heriau mawr wedi wynebu gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru oherwydd salwch ac absenoldeb staff, a bod gohirio rhai rhaglenni sgrinio canser wedi achosi niwed i rai.

O ran iechyd a lles staff, clywodd yr ymchwiliad am staff yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd wedi gorfod dychwelyd i'w ceir i fwyta neu am baned, gan nad oedd llefydd eraill ar gael iddyn nhw gael seibiant.

Rhestrau Aros a Gweithlu

Mae'r adroddiad yn awgrymu fod Cymru wedi bod yn araf yn delio â'r twf aruthrol mewn cleifion ar restrau aros.

Ystadegau iechyd diweddaraf yn dangos fod y gwasanaeth iechyd yn dal i gael trafferth ymdopi â rhestrau aros a dyfodd yn aruthrol yn ystod y pandemig.

Clywodd yr ymchwiliad hefyd fod Cymru a Gogledd Iwerddon "yn amlwg yn ei chael hi'n anodd iawn delio â hyn".

Mae'r ffigyrau diweddaraf a gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod 713,048 o driniaethau eto i'w cwblhau yng Nghymru, ond mae hynny bron i 28,000 yn llai na'r mis blaenorol.

Clywodd yr ymchwiliad hefyd nad oedd data ar gael ynglŷn â faint, a'r math o gleifion gafodd driniaeth breifat wedi'i dalu gan y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig.

Argymhellion a Dyfodol y Gwasanaeth Iechyd

Mae'r gwasanaeth iechyd yn "fwy bregus" nag erioed i ymateb i argyfwng, yn ôl yr ymchwiliad.

Ymateb 'Annigonol ac Araf' i'r Pandemig yng Nghymru

Mae'r ymchwiliad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y DU, gan gynnwys angen cynyddu capasiti mewn gofal brys ac argyfwng, a chryfhau a chysoni canllawiau i atal a rheoli heintiau.

Mae hefyd angen gwella prosesau cofnodi data ynglŷn ag unigolion sydd â risg penodol o gael ei heintio, a chynyddu cymorth iechyd a lles i weithwyr iechyd er mwyn cryfhau'r gweithlu a chadw staff.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News