Dwy fam o ogledd Cymru yn rhannu eu profiadau
Mae dwy fam o ogledd Cymru wedi cychwyn podlediad sy'n trafod eu profiadau fel rhieni i blant ag anghenion arbennig.
Mae Kim Williams Adams o Bwllheli yn fam i Caio Cymro, naw oed, sy'n byw gydag anghenion dwys, a Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yn fam i Twm, naw oed, sy'n byw gydag awtistiaeth.
Fis Medi dechreuodd Caio fynychu Ysgol Hafod Lon sy'n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol lle roedd Twm eisoes yn ddisgybl.
Gyda hynny, daeth Kim a Leian yn ffrindiau ac maen nhw wedi dechrau'r podlediad Llais Mam sy'n rhoi llais gonest i'w profiadau.
"Doedd yna ddim byd fel hyn allan yna i ni. Mae bod yn fam i blentyn gydag anghenion dwys yn gallu bod mor unig.
Mae o reit exciting bod y ddwy ohonan ni'n codi ymwybyddiaeth."
Rhannu profiadau
Mae Caio, mab Kim "yn blentyn hapus iawn, yn lyfio tedis, pobl ac mae o'n chydig o joker," ond mae hefyd yn byw gydag amrywiadau i'w gromosomau a microcephaly sy'n effeithio ar ddatblygiad ei ymennydd.
Pan ddechreuodd Caio fynychu Ysgol Hafod Lon ym mis Medi, daeth Kim i adnabod cymuned newydd o famau sy'n rhannu'r un heriau wrth fagu plant ag anghenion arbennig.
Dywed fod hynny wedi bod yn gysur mawr iddi:
"Mae yna griw o bedair ohonan ni'n cyfarfod yn rheolaidd, ni ydi gang Loose Women Hafod Lon. Breuddwyd Leian ydi'r podlediad a dwi wedi ymuno,"eglurai Kim.
Meddai Leian:
"O'n i wastad wedi meddwl gwneud hyn ond do'n i erioed wedi bod efo person i 'neud o efo. Ddoth Kim ar y sîn a neshi feddwl 'hon ydi'r hogan'."
Caio a Twm ar ôl diwrnod yn Ysgol Hafod Lon

Mae Leian eisoes yn trafod ei phrofiadau fel Mam i Twm "sydd wedi cael diagnosis o ASD, gydag anghenion dysgu ac yn nonverbal," ar ei thudalen Instagram Taith Twm a ASD.
Meddai am ei mab:
"Dydi Twm ddim yn hogyn bach mor hapus â Caio, mae o'n rhwystredig iawn ond yn hapus yn ei fyd ei hun. Mae o wrth ei fodd hefyd efo soft toys a chwiaid plastig."
'Nunlla i droi'
Ei phrofiadau ei hun wnaeth gymell Leian i gychwyn y podlediad:
"Yn y dyddia' cynnar efo Twm pan o'n i'n dechrau amau fod ganddo anghenion, doedd gen i absolutely ddim byd â nunlla i droi ato yn enwedig yn Gymraeg.
Felly o'n i'n teimlo reit passionate i greu rwbath i famau sy'n mynd drwyddi. Hynny oedd y syniad tu ôl i'r podlediad a hefyd i godi ymwybyddiaeth a rhannu fy stori.
Ac roedd gweledigaeth Leian yn taro deuddeg gyda Kim:
"'Dan ni wedi bod y mamau yna sydd wedi teimlo fel ein bod ni ar ein pennau ein hunain ac yn googlo bob dim.
Os ydi pobl yn gallu uniaethu hefo ni, yna mae Llais Mam yn gwneud be' oeddan ni isio."
Ers cychwyn y podlediad ym mis Chwefror, mae gan Llais Mam eisoes dros 1,500 o ddilynwyr ar eu tudalen Facebook.
Recordio'r podlediad gydag Owain Llŷr - mae Kim a Leian yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Owain

Ond mae addysgu pobl sydd heb gysylltiad â phlant ag anghenion arbennig yn bwysig hefyd.
Eglurai Leian:
"Mae pobl yn gallu dweud pethau sy'n brifo. Maen nhw'n meddwl yn dda ond dwi wedi cael pobl yn dweud pethau fel 'o dwi'n 'nabod rhywun awtistig ond maen nhw wedi tyfu allan ohono fo'.
Un arall dwi'n ei gael yn aml ydy, 'Fasa ti ddim yn newid o am y byd nasat'. Faswn, mi faswn i yn newid Twm, mi faswn i yn newid y sefyllfa'n llwyr."
Ac mae Kim yn uniaethu:
"Dwi'n licio personoliaeth Caio, dwi'n lyfio fo ond faswn i yn newid bob dim arall.
Pam fydda i'n marw dwi'n gwybod fod y tri arall sydd gen i; Cara, Siôn a Cari am fod yn iawn ond achos anghenion Caio tydw i ddim yn gwybod os fydd o.
Peth arall sy'n brifo ydi pobl yn dweud 'O, mae o'n ciwt dydi'. Dydi ciwt ddim y para pan fydd o'n 20 neu 30 oed. Dwi'n poeni am Caio a'r dyfodol o hyd."
Mae Kim a Leian yn dweud bod Llais Mam yn cynnwys safbwyntiau gonest ac nad ydyn nhw'n "taflu siwgr" dros eu profiadau.
Meddai Leian:
"Dwi wedi cael cyfnod heriol efo Twm yn ddiweddar felly ym mhennod dau dwi'n trafod hynny a sut 'mod i ar feddyginiaeth i ddelio efo'r anxiety sydd gen i ac mae Kim yn trafod diagnosis diweddara' Caio.
Does ganddon ni ddim cywilydd trafod y straen rydan ni'n ei wynebu."
Galaru a chefnogaeth
Er y pynciau dwys, mae trafod yn agored ac yn naturiol â'i gilydd yn gatharsis i'r ddwy, a gyda phob sgwrs rhwng dwy ffrind mae hwyl hefyd.
Meddai Kim:
"Mae'n sgyrsiau ni'n naturiol iawn, 'dan ni jest yn complementio ein gilydd. 'Dan ni isio dangos bod golau mewn dyddiau tywyll."
Dros yr wythnosau nesaf mae'r ddwy'n gobeithio recordio rhagor o rifynnau'n trafod galar, hunaniaid ac effaith ar blant eraill y teulu.
Eglurai Leian:
"'Dan ni am siarad am alar nesaf achos mae cael plentyn efo anghenion fel galar.
Ti'n galaru y bywyd oeddach di wedi meddwl bo' chdi'n cael, a'r plentyn oeddach di'n meddwl bo' chdi'n mynd i'w gael.
'Dan ni am ffocysu ar ychydig o straeon positif hefyd a'r pethau neis sydd wedi digwydd yn ein bywydau ni fel ein cyfeillgarwch newydd ni a mamau eraill Ysgol Hafod Lon.
Fy neges i rieni sy'n wynebu siwrne tebyg ydy Find your tribe. Mae o mor bwysig bod ynghanol pobl sy'n eich cefnogi."
Sut ymateb mae'r podlediad wedi ei gael hyd yma?
"Mae'r ymatab wedi bod yn anhogel a thu hwnt i be oeddan ni'n ei ddisgwyl. 'Dan ni isio pob person Cymraeg dros y byd i gyd gael mynediad i'r podlediad," meddai Leian.
"Dwyt ti ddim yn gorfod cael neb yn dy deulu di efo anghenion i wrando ar y podlediad. Mae pob un ohonon ni am ddod ar draws rhywun efo anghenion felly mae'n bwysig gwybod sut i fod efo'r rhiant a sut i fod efo'r plentyn."
Dilynwch Llais Mam ar Facebook i wrando ar y podlediad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Y prifardd Gruffudd Owen yn rhoi 'darlun gonest' o fod yn rhiant i fab awtistig
- Mewn cariad a byw gyda Syndrom Down
- Y Cyfweliad: 'Dydi pobl ag anableddau dysgu ddim yn dwp'










