Skip to main content
Advertisement

Cyrsiau parafeddygon yng Nghymru'n cael eu hoedi oherwydd diffyg swyddi

Ni fydd cyrsiau parafeddygon yng Nghymru yn cael eu cynnal eleni oherwydd diffyg swyddi, gan arwain at oedi rhaglenni i gefnogi graddedigion presennol.

·5 min read
Ambiwlans

Oedi cyrsiau parafeddygon yng Nghymru eleni

Ni fydd cyrsiau hyfforddi parafeddygon yn cael eu cynnal yng Nghymru eleni, yn sgil y trafferthion mae myfyrwyr presennol yn eu hwynebu wrth geisio canfod swyddi. Cadarnhaodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC), y corff sy'n gyfrifol am hyfforddi'r gweithlu iechyd, y byddai'r cwrs yn cael ei oedi ym mis Medi eleni.

Daw'r penderfyniad ar ôl i fyfyrwyr parafeddygol gael cyngor i ymgeisio am swyddi dramor gan nad oes gwaith ar gael yng Nghymru ar eu cyfer. Mae Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cytuno â'r penderfyniad, a ddisgrifir fel "anodd".

Mae myfyrwyr mewn sawl maes gofal iechyd wedi mynegi eu siom a rhwystredigaeth i'r BBC oherwydd diffyg swyddi yn eu meysydd.

'Gwella cyfleoedd i raddedigion presennol'

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd AGIC y byddai cyrsiau parafeddygol, a gynhelid yn y prifysgolion Abertawe a Wrecsam, yn cael eu hoedi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Nodwyd bod hyn er mwyn "gwella'r cyfleoedd am swyddi i'r graddedigion presennol".

Dywedodd y datganiad fod nifer y lleoedd ar gyfer astudio ar gyfer 2026 wedi cael eu penderfynu yn 2022, yn fuan ar ôl pandemig Covid-19, pan oedd y galw am weithwyr yn sylweddol uwch.

Ers hynny, mae newidiadau i'r drefn o weithio, pwysau ariannol, a lefelau uwch o staff yn aros yn y gwasanaeth wedi arwain at lai o swyddi ar gael.

Dywedodd AGIC eu bod yn "deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fyfyrwyr a graddedigion" ond mai oedi yw'r "cam mwyaf cyfrifol" i leihau cystadleuaeth am swyddi a "chefnogi myfyrwyr a graddedigion presennol i gael gwaith".

Cafodd niferoedd cwrs 2026 eu penderfynu yn syth ar ôl pandemig Covid-19, pan oedd pwysau sylweddol ar y gweithlu

Ad (425x293)
Parafeddyg
Disgrifiad o’r llun, Cafodd niferoedd cwrs 2026 eu penderfynu yn syth ar ôl pandemig Covid-19, pan oedd pwysau sylweddol ar y gweithlu

Y sefyllfa ar y farchnad swyddi parafeddygol

Dywedodd Richard Lee o Goleg Brenhinol y Parafeddygon fod y newyddion yn "bryder", ond y bydd y broblem "yn pasio". Nododd nad yw'n "broblem unigryw i Gymru, mae'n broblem ledled y Deyrnas Unedig", ond ei fod yn waeth yng Nghymru oherwydd mai dim ond un ymddiriedolaeth ambiwlans sydd yma.

"Felly, mae gorfod mynd ymhellach i ddod o hyd i waith yn fwy o broblem yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU, lle mae sawl ymddiriedolaeth ambiwlans yn ffinio hefo'i gilydd a phobl yn gallu symud o gwmpas."

Er bod swyddi parafeddygol ar gael ledled y DU, dywedodd nad yw llawer o'r swyddi hynny ar gael i barafeddygon sydd newydd gymhwyso.

"Wrth i chi gymhwyso, rydych chi'n destun cyfnod dwy flynedd sy'n cael ei alw'n barafeddyg newydd gymhwyso - NQP. Mae gweithio mewn ambiwlans yn rôl ddelfrydol oherwydd gallwch chi gael goruchwyliaeth, mae cefnogaeth dros y ffôn, mae cefnogaeth glinigol gan barafeddygon mwy profiadol.
Ond mae rhai o'r rolau eraill sydd ar gael i barafeddygon rŵan, fel gweithio mewn adrannau brys, gweithio mewn meddygfeydd teulu, neu mewn ystafelloedd cadw'r heddlu i ofalu am garcharorion, yn gofyn eich bod wedi pasio'r cyfnod dwy flynedd hwnnw."

Cynghori parafeddygon newydd i symud dramor

Mae'r sefyllfa yn peryglu "colli cenhedlaeth o barafeddygon newydd yn y dyfodol", meddai Bedwyr Morgan, cyn-barafeddyg o Langefni. Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd:

"Mae'n un stori drist ar ôl y llall yn anffodus yn ddiweddar. Mae'n dorcalonnus i'r bobl ifanc 'ma sydd wedi gwneud llawer o waith yn barod tuag at y cyrsiau yma.
Synnwyr cyffredin ydy o – mwyaf y byd y criwiau sydd ar y lôn, y gorau ydy'r gobaith o achub bywyd. Mae hyn yn anelu at golli cenhedlaeth o barafeddygon newydd yn y dyfodol.
Mae 'na fwy o hyfforddiant am fod i'r bobl sydd yn y swyddi yn barod, ond wrth gwrs, mae 'na lot o ffactorau yn gallu dod ar draws hynna, fel ymddeoliad, gwyliau, salwch a rhaid cadw'r gwasanaeth i fynd."

Ymatebion gan wasanaethau a phleidiau gwleidyddol

Dywedodd Carl Kneeshaw, cyfarwyddwr pobl yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru:

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn siomedig i ddarpar fyfyrwyr a phawb sy'n ystyried gyrfa mewn parafeddygaeth, ond wrth i lefelau'r swyddi sydd ar gael i barafeddygon sydd newydd gymhwyso barhau i fod yn anodd eu rhagweld, rydym yn credu mai oedi rhaglenni yw'r peth mwyaf synhwyrol i'w wneud."

Mae'r sefyllfa'n cael ei disgrifio fel "warth" gan ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper, sydd yn dweud ei bod yn "ymgorffori methiant Llafur pan ddaw at y gwasanaeth iechyd". Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru'n "datblygu a chryfhau gweithlu'r GIG gyda strategaeth genedlaethol" i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r penderfyniad yn "tanlinellu methiant difrifol mewn cynllunio'n gweithlu", gan addo "cadw, recriwtio a rhoi mwy o staff rheng flaen ar waith, gan sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hyfforddi'n camu'n syth i mewn i swyddi".

Dywedodd Reform fod "methiant y llywodraeth i gynllunio'r gweithlu yn addas wedi creu rhai o'r amseroedd aros hiraf yn y DU am ambiwlans neu driniaeth". Ychwanegodd y byddai'r blaid yn creu cynllun gweithlu i'r GIG, "er mwyn atal y sefyllfa sarhaus o staff iechyd wedi cymhwyso ond heb swyddi".

Mae gweddill y pleidiau wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News