Skip to main content
Advertisement

Beth yw llid yr ymennydd a sut i adnabod ei symptomau?

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint yn cael gwrthfiotegau a brechlyn ar ôl achosion llid yr ymennydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio gwybodaeth am symptomau a'r angen am driniaeth fuan i achub bywydau.

·4 min read
Pedwar myfyriwr mewn mygydau yn cerdded ar gampws Prifysgol Caint yn dilyn nifer o achosion o lid yr ymennydd yn lleol

Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint yn cael gwrthfiotegau a brechlyn ar ôl achosion llid yr ymennydd

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Caint ymhlith y rhai all fod wedi dod i gysylltiad â llid yr ymennydd ac yn cael cynnig gwrthfiotegau a brechlyn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi dweud bod angen i bobl wybod beth yw symptomau llid yr ymennydd, a pheidio oedi cyn gofyn am gyngor meddygol os oes unrhyw bryderon.

Daw'r rhybudd yn dilyn nifer o achosion yng Nghaint, a marwolaethau myfyriwr 21 oed a disgybl chweched dosbarth.

Hyd at brynhawn Mercher, roedd 20 achos o lid yr ymennydd wedi eu cadarnhau yn yr ardal ac mae gwrthfiotegau a brechlynnau'n cael eu cynnig i bobl all fod wedi dod i gysylltiad â'r salwch.

Er hynny mae ICC wedi pwysleisio bod achosion o lid yr ymennydd "yn gymharol brin" yng Nghymru.

Yn ôl data ICC, cafodd 18 achos o salwch meningococaidd eu cofnodi yng Nghymru yn 2023 ac 19 yn 2024.

'Doedd neb yn gwybod amdano' - Rhieni'n galw am frechlyn llid yr ymennydd

'Meddwl bod gen i'r ffliw, cyn colli breichiau a choesau i sepsis'

Beth yw llid yr ymennydd?

Haint yw llid yr ymennydd o'r pilennau (membranes) o amgylch yr ymennydd a llinyn y cefn, ac mae'n gallu bod yn gyflwr difrifol iawn os na chaiff ei drin yn gyflym.

Fe allai effeithio ar unrhyw un ond mae'n fwyaf cyffredin o blith babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Mae profion yn gallu cadarnhau achos yr haint, boed yn sgil bacteria penodol neu ambell feirws.

Mae llid yr ymennydd bacterol yn fwy prin na llid yr ymennydd feirol ond mae'n fwy difrifol. Fe allai arwain at wenwyno'r gwaed, neu sepsis, ac effeithio ar yr ymennydd.

Llid yr ymennydd ymledol yw'r math yma o haint difrifol, gan fod yr haint wedi cyrraedd y llif gwaed neu leininau'r ymennydd.

Meningitis B, neu MenB, yw'r straen wrth wraidd mwyafrif yr achosion o salwch meningococaidd yn y DU, gan gynnwys y marwolaethau mwyaf diweddar yng Nghaint.

Graffeg rhai o symptomau llid yr ymennydd

Beth yw'r symptomau?

Mae symptomau'r clefyd yn gallu datblygu'n gyflym, ac maen nhw'n cynnwys:

  • Brech nad sy'n pylu wrth bwyso gwydr arno
  • Cur pen difrifol sy'n gwaethygu
  • Anallu i edrych ar oleuadau llachar
  • Angen cwsg eithafol neu drafferth deffro

Mae achosion o salwch meningococaidd yn brin ond gall godi dan amgylchiadau ble mae pobl yn dod at ei gilydd, fel campysau coleg a chanolfannau adloniant.

Advertisement

Mae rhai pobl â'r bacteria yn y trwyn neu'r gwddf heb fynd yn sâl, ond yn ei drosglwyddo i eraill trwy gyfnewid poer yn sgil tagu, tisian, cusanu neu rannu fêps.

Mae'n bosib hefyd i berson â llid yr ymennydd ei ledu, er mae hynny'n llai cyffredin.

Mae'n bosib cael llid yr ymennydd fwy nag unwaith.

Y ffordd orau o'i atal rhag ledu yw rhoi gwrthfiotegion i bobl all fod wedi dod mewn cysylltiad â'r clefyd.

Y cyngor os oes amheuaeth bod unrhyw un â symptomau posib yw i chwilio am gymorth meddygol yn syth, trwy ffonio 999 neu fynd i'r adran frys ysbyty agosaf, gan fod triniaeth fuan yn gallu achub bywydau.

Mae dau frechlyn yn amddiffyn rhag prif achosion llid yr ymennydd a septisemia:

  • Y brechlyn MenB sy'n cael ei argymell i fabanod pan yn wyth wythnos oed gyda'i ail ddos yn 12 wythnos oed a dos ychwanegol pan yn flwydd oed.
  • Y brechlyn MenACWY sy'n amddiffyn rhag pedwar math o facteria gall achosi salwch meningococaidd gwpriau A, C, W ac Y.

Mae hwn yn cael ei gynnig i ddisgyblion Blwyddyn 11 a 12. Gall pobl dan 25 oed sydd heb gael eu brechu ac yn mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf holi i'w meddyg teulu i gael brechlyn MenACWY.

Gweithiwr mewn labordy, mewn gwisg las a menig gwyn, yn cydio mewn chwistrell fawr gyda hylif pinc ynddi

'Byddwch yn ymwybodol'

Dywedodd Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ICC, Dr Christopher Johnson: "Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau o salwch meningococaidd ymledol yng Nghaint ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

"Y peth pwysicaf all pobl wneud yw bod yn ymwybodol o'r symptomau a gofyn am gyngor meddygol ar frys os oes pryder.

"Gall ddiagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotegion wella canlyniadau yn sylweddol.

"Ni fydd pawb yn cael pob un o'r symptomau a dydy'r frech ddim bob tro yn ymddangos, felly os yw unrhyw un yn dechrau teimlo'n sâl yn sydyn neu mae symptomau'n gwaethygu'n gyflym, mae'n bwysig i ofyn am gymorth meddygol yn syth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Annog myfyrwyr i dderbyn brechiad llid yr ymennydd
  • Dyn wedi marw'n annisgwyl o lid yr ymennydd

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News