Dyw 35% o safle Ysbyty Gwynedd ddim yn cyrraedd safonau iechyd a diogelwch
Mae angen gwario tua £1bn ar waith trwsio a chynnal adeiladau oedrannus y gwasanaeth iechyd, yn ôl ymchwil newydd gan BBC Cymru.
Mae'r adeiladau dan sylw yn cael eu hystyried mewn cyflwr sy'n achosi risg "difrifol" neu "sylweddol".
Er bod nifer o'r pleidiau gwleidyddol yn addo buddsoddi mewn isadeiledd newydd petai nhw'n ffurfio'r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd, fe fydd hefyd angen iddyn nhw ystyried sut i ymateb i'r her sylweddol o drwsio a chynnal yr ystâd bresennol.
Mae BBC Cymru wedi bod yn edrych ar gyflwr 210 o safleoedd y gwasanaeth iechyd dros Gymru - o glinigau cymunedol i ysbytai mawr.
Mae angen gwario £106.8m ar waith cynnal a chadw adeiladau yn ysbyty mwyaf Cymru - Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd

Mae'r ffigyrau gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn dangos fod cost y gwaith cynnal a chadw mwyaf pwysig sydd angen ei gyflawni wedi codi i £917m - 72% o gynnydd mewn pedair blynedd.
Mae hynny'n cynnwys gwariant o £616m i drwsio'r problemau mwyaf sylweddol yn 12 o'r 13 prif ysbyty yng Nghymru.
O edrych yn fanylach, mae'r ystadegau diweddaraf, ar gyfer 2024-25, yn dangos:
- Ôl-groniad gwerth £110.5m yng ngwaith trwsio a chynnal adeiladau sy'n cael eu hystyried â "risg uchel neu ddifrifol" yn Ysbyty Gwynedd, Bangor;
- Byddai angen gwario £106.8m ar yr un math o waith yn ysbyty mwyaf Cymru - Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd;
- Mae tri ysbyty yng Nghymru (Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor) â 40% o'u safleoedd sydd ddim yn cydymffurfio â safonau diogelwch tân;
- Dyw 35% o safle Ysbyty Gwynedd ddim yn cyrraedd safonau iechyd a diogelwch;
- Mae dros 30 o safleoedd yn nodi bod mwy na hanner o'u hadeiladau yn hŷn na'r gwasanaeth iechyd ei hun - wedi'u hadeiladu cyn 1948. Clinigau ac ysbytai cymunedol yw'r rhain yn bennaf;
- Mae 17 safle arall, gan gynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas a Bronglais yn Aberystwyth, gyda chanran sylweddol o isadeiledd sydd rhwng 50 a 60 oed.
Ysbyty'r Faenor ger Cwmbrân - agorodd ei ddrysau yn 2020 - yw'r unig ysbyty sydd ddim yn nodi problemau cynnal a chadw penodol.
Agorwyd yr ysbyty ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, ar ôl mwy na degawd o waith paratoi, cynllunio ac adeiladu gwerth mwy na £350m.
Dyma oedd yr ysbyty mawr newydd cyntaf yng Nghymru mewn 20 mlynedd, sy'n awgrymu faint o amser a chost sydd ynghlwm ag adeiladu cyfleusterau iechyd newydd.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cynnal arolwg blynyddol, dolen allanol sy'n dangos cyflwr adeiladau yr holl fyrddau iechyd, ond gofynnodd BBC Cymru am ffigyrau ychwanegol a manylach.
Ble mae'r heriau mwyaf?
Mae'r ffigyrau'n dangos y byddai angen gwario £278m ar y gwaith mwyaf difrifol yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mae yna waith gwerth £233m angen ei gyflawni - er bod prif ysbyty'r bwrdd yn gymharol newydd.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn wynebu bil o £221m.
Mae yna drafod wedi bod ers blynyddoedd am sefydlu ysbyty newydd ar gyfer gorllewin Cymru - er y gallai fod yn flynyddoedd lawer cyn i hwnnw ymddangos, os o gwbl.
Mae cadeirydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cydnabod yn ddiweddar bod cyflwr Ysbyty Athrofaol Cymru - gafodd ei adeiladu yn 1971 - yn cael effaith negyddol ar ysbryd staff a gwasanaethau i gleifion.
Er hynny, nid her ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn unig yw hon, gyda'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn nodi fod angen £16bn yno.
Beth yw cynigion y pleidiau?
Mae Llafur Cymru'n addo cronfa gwerth £4bn i adeiladu ysbytai newydd gan gynnwys yng Nghaerdydd, Wrecsam a "datblygiad sylweddol yng ngorllewin Cymru".
Byddai'r cyllid yn "gymysgedd" o arian cyfalaf confensiynol, benthyciadau, a model o "fuddsoddi cydweithredol".
Dywedodd y blaid byddai'r llywodraeth newydd yn gweithio gyda byrddau iechyd ar fanylion ac amserlen ar gyfer ysbytai penodol ac y bydd yr addewid i adeiladu ysbytai o'r newydd yn datrys llawer o'r heriau gyda'r adeiladau presennol, "ond byddwn hefyd yn parhau i gynnig arian cyfalaf i fyrddau iechyd i gynnal eu hystadau".
Dywedodd Plaid Cymru fod y costau cynnal a chadw yn "syfrdanol", gan fynnu bod addewid Llafur i wario £4bn ar adeiladau newydd "ddim yn gwneud synnwyr yn fathemategol... ac yn addewid gwag arall".
"Ochr yn ochr â'n cynlluniau i fynd i'r afael ag argyfwng rhestrau aros... megis creu canolfannau llawfeddygol ar draws Cymru i drin pobl yn gyflymach a thorri rhestrau aros - byddwn yn blaenoriaethu taclo'r ôl-groniad cynnal a chadw risg-uchaf ac ymgymryd â'r atgyweiriadau brys i hyrwyddo diogelwch staff a chleifion, gan asesu'r stad yn ôl yr angen," medd llefarydd.
"O fewn y 100 diwrnod cyntaf, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn datblygu strategaeth ddigidol i wneud Cymru yn arweinydd y byd mewn arloesi iechyd digidol, gan wella effeithlonrwydd yn stad y gwasanaeth iechyd, a dechrau'r gwaith ar raglen tele-iechyd i Gymru er mwyn i gleifion gael mynediad gwell at driniaeth gan leihau'r pwysau ar yr ystâd ei hun."
Dywedodd Reform UK fod "adeiladau sydd ar chwâl, pibellau carthion sy'n gollwng a llygod mawr ar rai safleoedd yn profi pa mor annerbyniol yw'r sefyllfa".
Mae'r blaid yn dweud bod "angen bod yn pragmataidd a realistig wrth ddelio â'r gwaith trwsio a chynnal a chadw sylweddol sydd angen ei gyflawni yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru".
Maen nhw'n mynnu hefyd mai nhw yw'r unig blaid sy'n cynnig atebion ystyrlon a chredadwy gan y byddan nhw "yn blaenoriaethu cyllideb cyfalaf i glirio'r ôl-groniad yng ngwaith cynnal a chadw adeiladau presennol, yn hytrach nag addo amryw o ysbytai newydd sbon, fel y pleidiau eraill".
O leiaf degawd arall nes y bydd ysbyty newydd yn y gorllewin
Gofal unedau brys y gogledd 'yn waeth na rhai o ysbytai tlota'r byd'
Profiadau 'erchyll' cleifion yn 'argyfwng' i unedau brys ysbytai
Beio 27 mlynedd o gam reoli gan Lafur a chyllidebau a gafodd eu llunio ar y cyd â Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'r Ceidwadwyr Cymreig.
Ychwanegodd llefarydd:
"Dim ond ni sydd â chynllun clir ac ystyrlon o gyhoeddi 'argyfwng iechyd cenedlaethol', gwella perfformiad y gwasanaeth, adeiladu pedwar ysbyty cymunedol newydd gyda chyfleusterau mân anafiadau, gan gynnwys ysbyty yn Y Rhyl gyda 30 o welyau".
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod y pwyslais wedi bod "am gyfnod rhy hir" ar ymateb i argyfyngau yn hytrach na chynllunio ar gyfer y dyfodol.
"Byddem yn rhoi blaenoriaeth i uwchraddio'r rhannau gwaethaf o ystâd y gwasanaeth iechyd a darparu cyfleusterau modern sy'n cefnogi diagnosis cynt, amseroedd aros byrrach a gwell canlyniadau cleifion," meddai llefarydd.
"Mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn canolfannau diagnosteg a llawfeddygaeth gymunedol, fel nad yw cymaint o bobl yn dibynnu ar ysbytai mawr, gan adeiladu ar brosiectau fel Canolfan Iechyd y Drenewydd."
Yn ôl y Blaid Werdd yng Nghymru, "mae ôl-groniad cynnal a chadw o £1 biliwn yn warth", gan ddweud mai canlyniad blynyddoedd o danfuddsoddi ydy hyn.
"Byddem yn buddsoddi mewn symud i ffwrdd o ofal sy'n canolbwyntio ar yr ysbyty i wasanaethau ataliol a chymunedol.
"Ein blaenoriaeth yw rhwydwaith o ganolfannau iechyd a lles lleol, gan ddod â meddygon teulu, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a gwasanaethau cymunedol ynghyd o dan un to, yn agos at ble mae pobl yn byw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




