Skip to main content
Advertisement

Plaid Cymru Proposes Local Profit Shares for Renewable Energy Projects

Plaid Cymru yn cynnig i brosiectau ynni adnewyddadwy roi cyfran o'u helw i gymunedau lleol, gan sicrhau bod cymunedau'n elwa'n llawn o'r newid i ynni gwyrdd.

·3 min read
Tyrbinau gwynt

Prosiectau Ynni Adnewyddadwy i Rannu Elw gyda Chymunedau Lleol

Bydd angen i brosiectau ynni adnewyddadwy gynnig rhywfaint o'u helw i gymunedau lleol er mwyn cael eu cymeradwyo os bydd Plaid Cymru yn cael eu hethol fel llywodraeth nesaf Cymru, medden nhw.

Mae disgwyl i arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, ddweud mewn araith ym Methesda, Gwynedd, fod yn rhaid i gyhoedd Cymru "elwa'n llwyr" o gynlluniau ynni gwynt a solar.

Dywedodd y blaid y byddai angen i bob cynllun ynni sy'n fwy na 10 megawat sicrhau bod cymuned leol yn berchen ar o leiaf gyfran o rhwng 15% a 25%.

Mae arolygon barn yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform UK fydd yn cystadlu am y brig cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers Mehefin 2023.

Rhun ap Iorwerth yn gwisgo siwt glas tywyll a chrys glas golau, gyda bryniau a chaeau gwyrdd yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun, Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers Mehefin 2023

Y Bwrdd Ynni Cenedlaethol a Rheoli Caniatâdau

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth ddweud y byddai ei blaid yn sefydlu bwrdd ynni cenedlaethol ar gyfer Cymru fyddai'n gyfrifol am brosiectau mawr.

Advertisement

Mae angen i brosiectau ynni bach a chanolig - rhwng 10MW a 350MW - gael caniatâd gan lywodraeth Cymru cyn eu bod nhw'n cael eu rhoi ar waith.

Ar gyfer cynlluniau mwy na hynny mae angen caniatâd Llywodraeth y DU, ac mae rhai llai na hynny'n cael eu sortio'n lleol.

Cefnogaeth i Ynni Adnewyddadwy a Lles Cymunedau

Bydd Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n cefnogi "ynni adnewyddadwy yn ddiamwys yn union fel rydym yn credu bod yn rhaid i les cymunedau fod wrth wraidd strategaeth ynni llywodraeth Cymru".

"Os caiff ei wneud yn iawn, gall y newid i ynni gwyrdd ddod â chyfleoedd cymdeithasol ac economaidd mawr.
Mae'n rhaid i gymunedau Cymru elwa'n llawn o ynni adnewyddadwy Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cyfran deg o'r elw."
"Yn y pen draw, rydym yn credu mai cynyddu cyfran cymunedau ym mherchnogaeth ynni adnewyddadwy Cymru yw'r ffordd orau o sicrhau lefel uwch o ailfuddsoddi yn y cymunedau hynny yn yr hirdymor."

Doedd cyhoeddiad Plaid Cymru ddim yn nodi sut y bydd y cyfrannau hyn i gymunedau'n gweithio, na pha gyrff fyddai'n elwa.

Ffyrdd o Gysylltu a Dilyn Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News