Alun ac Ann tu ôl i'r bar yn y Tŷ Gwyn
Mae tafarn yn Nyffryn Conwy wedi ailgyflwyno traddodiad poblogaidd sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r gymuned cefn gwlad ers degawdau.
Pob nos Wener yn nhafarn y Tŷ Gwyn ym mhentref Rowen, roedd y lle'n llawn gyda phobl yn mwynhau canu Cymraeg. Roedd pobl yn teithio mor bell â Wrecsam i gymryd rhan yn y digwyddiad. Er i'r nosweithiau hyn stopio yn ystod y cyfnod clo, mae perchnogion newydd y dafarn wedi dechrau eu hailgyflwyno unwaith y mis.

Mae Ann Anderson, gwreiddiol o Rowen, wedi treulio 30 mlynedd yn byw dramor yn Tanzania a Sweden cyn dychwelyd i Gymru. Ers dros flwyddyn, hi, ei gŵr John, a'i brawd Alun, sydd wedi cymryd drosodd y dafarn.
Mae'r dafarn ar lwybr y pererinion
"Pan wnaethon ni y penderfyniad i gymryd drosodd, roedden ni jyst eisiau troi'r lle yn ôl i fod yn dafarn a lle i bobl allu dod i gymdeithasu, a'r ffocws ar yr ochr gymdeithasol yna."
Mae Alun wedi byw yn yr ardal drwy ei oes ac yn cofio'r nosweithiau canu'n glir. Yn gymdeithasol, roedd yn adnabyddus yn y gymuned, gan chwarae rygbi i dîm Nant Conwy am ddegawdau, ac yn cael ei goroni fel Y Cymro Cryfaf yn 1991 gan y diweddar Orig Williams.

Mae'r tlws yn cael ei arddangos y tu ôl i'r bar i'w weld gan bawb.
Yn ôl Ann, mae canu Cymraeg wedi bod yn rhan bwysig o hanes y dafarn.
"Yn ôl be' dwi'n ddeall mae canu Cymraeg wedi bod yn mynd ymlaen yn fan hyn ers degawdau,"meddai.
"Mae Dad wedi bod yn canu yma ers 1945 ac roedd canu pob nos Wener yn y cyfnod yna hyd at jest cyn Covid gyrraedd.
Dwi ddim yn gwybod sut oedden nhw'n llenwi'r lle pob nos Wener ond roedd pobl yn dod yma o bob man."
Mae Ann yn annog pobl ifanc i ymuno â'r canu ac yn gwahodd unrhyw gôr i gysylltu os ydynt eisiau cyfle i ymarfer.
"Fel mae'r blynyddoedd wedi mynd mae'r hen fois 'ma i gyd yn dechre blino. Pan wnaethon ni gymryd drosodd 15 mis yn ôl y peth cynta' naethon ni 'neud oedd rhoi'r canu Cymraeg yn ôl,"meddai.
Ymdrechion i wneud y dafarn yn gynhwysol
Un o flaenoriaethau Ann, John ac Alun oedd gwneud y dafarn yn lle cynhwysol. Mae Rowen yn bentref gyda chymdogion Cymraeg, rhai'n ffermio'r tir ac eraill wedi byw yno gydol eu hoes, tra bod eraill wedi symud i'r ardal i fyw.
Mae lleoliad y pentref ar droed mynyddoedd y Carneddau yn ei wneud yn boblogaidd gyda cherddwyr, ac mae'r dafarn hefyd wedi'i lleoli ar ochr llwybr y pererinion.
"O'n i'n gweld o fel cyfle i ddod â'r dafarn yn ôl yn rhywle i'r gymuned ac i bobl y pentref,"meddai Ann.
"Rwy'n ceisio bod yn gynhwysol yn y ffordd yna hefyd achos mae Rowen yn bentra reit wahanol, mae dipyn o Gymry a ffermwyr sydd dal yn asgwrn cefn y gymuned, i ddweud y gwir, ond mae yna lot o bobl yn amlwg wedi symud i mewn.
"Rhai wedi symud ers blynyddoedd maith yn ôl ac yn rhan o'r pentra ers hanner canrif a mwy, ac mae pobl eraill sydd wedi symud i mewn yn reit ddiweddar.
"Yr her ydi cael y cydbwysedd fel bod ni'n cael cadw'r Cymreictod, ond ei wneud o fel bod o'n rhywbeth mae pawb yn gallu teimlo'n rhan ohono fo."
Agor y dafarn hefyd wedi galluogi Alun i setlo'n ôl yn ei gynefin ar ôl cyfnod o weithio i ffwrdd.
"Mae hyn yn newid i be' o'n i'n 'neud o'r blaen; ro'n i wedi gweithio i ffwrdd o hyd a byth adra a daeth y cyfle i agor y lle 'ma a dod a fo'n ôl i sut oedd o ers talwm,"meddai Alun.
Dyfodol y traddodiad
Wrth edrych ymlaen, mae Ann yn bwriadu cyflwyno rhagor o ddigwyddiadau i hybu Cymreictod ac yn annog unrhyw un i fod yn rhan o draddodiad pwysig sydd wedi bod yn rhan o gymuned fach gefn gwlad yng Nghonwy ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- O'r 'stafell ddosbarth i'r Llew Coch yn Llansannan
- Tafarn gymunedol Ty'n Llan yn Llandwrog yn agor ar ei newydd wedd







