O gyfresi drama yn America i Pobol y Cwm
Yr wythnos hon, mae cymeriad newydd, Kyle Anderson, yn ymddangos yng Nghwmderi. Mae Hans Obma, yr actor sy'n chwarae'r rhan, yn disgrifio ei gymeriad fel dyn nad yw'n "100% onest, ond sy'n gwneud beth sy'n rhaid ei wneud." Mae Hans wedi siarad gyda Cymru Fyw am ei daith o'r Unol Daleithiau i Gymru a'i brofiad ar Pobol y Cwm.
Hans yw'r mwyaf adnabyddus am ei rôl fel Adrian yn y gyfres Netflix Better Call Saul, ac mae wedi ymddangos mewn cyfresi poblogaidd megis WandaVision a Grace & Frankie. Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd brosiect a fyddai'n ei arwain yn ôl at wreiddiau ei deulu yng Nghymru.
"Ces i'r syniad i ddatblygu sgript, wel cyfres, o'r enw Cwestiynau Heb Atebion. Achos o'r cyfnod clo oedd gyda fi'r amser i ddatblygu a sgrifennu. Ar ôl i fi ysgrifennu y sgript pilot o'r gyfres, nes i sylweddoli pa mor dda bysa hi i'r gyfres, tasai'r prif gymeriad yn siarad Cymraeg.
"Wedyn, 'nes i ddechrau i chwilio am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg."
"O'n i wedi bod eisiau gwneud hynny ers amser hir cyn hynny achos roedd fy mam-gu yn dod o Gymru, o Brynmawr yma yn y de."

Dysgu Cymraeg
Hans esboniodd ei broses o ddysgu Cymraeg, gan ddechrau gyda chyrsiau haf yn y Sefydliad Dysgu Cymraeg yng Nghaerdydd, lle treuliodd bum wythnos yn paratoi ar gyfer y dosbarthiadau a siarad Cymraeg drwy'r dydd, er nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth o'r iaith cyn hynny.
"Trwy'r flwyddyn, nes i ddosbarth ar-lein yn y bore. O'n i yn yr Unol Daleithiau am chwech o'r gloch y bore achos oedd y pawb yn y dosbarth am hanner dydd yma yng Nghymru. A wedyn nes i ddal ati. Des i'n ôl unwaith eto i'r cwrs haf am trydydd gwaith.
"A nawr, yma gyda chi, wrth fy modd ar Pobol y Cwm."
Mae Pobol y Cwm wedi bod yn allweddol i Hans wrth ddatblygu ei sgiliau Cymraeg. Dechreuodd wylio'r rhaglen yn gynnar yn ei siwrnai iaith, gan ddweud ei fod wedi teimlo fel petai'n 'nabod cwpwl o bobl o'r sioe'.
"Nes i ddechrau gwylio Pobol y Cwm yn eitha gynnar yn fy siwrnai iaith Gymraeg achos o'n i moyn rhywbeth o'n i'n gallu gweld bob wythnos.
"O'n i'n teimlo fel bron o'n i'n 'nabod cwpwl o bobl o'r sioe. Nes i gwrdd â Mark Roberts a Jack Quick yn Tafwyl unwaith. O'n i fel, 'Dwi'n eich 'nabod chi.'"
"A wedyn nes i gwrdd â ffrind da o'r enw Rhys ap Trefor oedd yn actio ar Pobol y Cwm. Oedd e'n chwarae Tom, ac oedd e'n fy nghefnogi i. [Fydda i] wastad yn ddiolchgar iddo fe am ddweud 'Ia, dwi'n meddwl dylet ti fod ar Pobol y Cwm.'"
"Dwi wastad wedi meddwl bod Pobol y Cwm yn eiconig.
"Dwi'n falch i fod mewn sioe mae pawb yn Cymru'n 'nabod. Does neb sydd ddim yn 'nabod Pobol y Cwm."

Cymeriad Kyle Anderson a Gwella Cymraeg Hans
Yn ôl Hans, mae Kyle Anderson yn gymeriad "sydd ddim yn 100% onest" ac sy'n "gwneud beth sydd rhaid ei wneud". Mae Hans wedi gwella ei Gymraeg yn sylweddol ers iddo gyrraedd Cymru, gan dreulio chwe wythnos yma tra'n ffilmio Pobol y Cwm. Yn ystod yr wythnos gyntaf, roedd yn Nant Gwrtheyrn, lle cafodd gyfle i siarad Cymraeg yn llawn.
"Yr wythnos gyntaf es i i'r gogledd i Nant Gwrtheyrn. Dwi'n ddiolchgar iawn i Llywodraeth Cymru am y cyfle i siarad Cymraeg efo pobl am wythnos yn hollol yn Gymraeg.
"Wedyn, des i'n ôl i Gaerdydd a nes i ddechrau [siarad] efo pobl yn y Gymraeg trwy'r amser felly mae fy Nghymraeg wedi tyfu llawer mewn chwech wythnos.
"Y ffordd orau i ddysgu iaith yw gweithio yn yr iaith."


Dyfodol a Theulu
Bydd Hans yn dychwelyd i Gymru fis Awst i fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol. Er nad oedd ei fam-gu yn siarad Cymraeg, dywedodd beth y byddai hi'n ei ddweud pe byddai'n gweld ef yn siarad Cymraeg ac yn ymddangos ar Pobol y Cwm:
"Dw i'n meddwl basai hi'n synnu ac yn delighted fy mod i wedi dysgu iaith y nefoedd."
Hefyd o ddiddordeb
- Pobol y Cwm: 'Stori Gaynor yn gallu digwydd i unrhyw un'
- Pobol y Cwm yn 50: Fy hoff straeon gwych a gwallgo'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






