Teulu'n ddiolch i'r Urdd am gynnig cystadleuaeth newydd i Sion gyda Syndrom Down
Mae Sion Davies, 20 oed, wedi bod wrth ei fodd yn dawnsio a chystadlu gyda Aelwyd Cynwyl Elfed ers ei ieuenctid.
Teulu dyn ifanc o Sir Gaerfyrddin wedi diolch i'r Urdd am greu cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod eleni, wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Wedi bod yn rhan o Aelwyd Cynwyl Elfed ers iddo fod yn 12 oed, dyma fydd y tro cyntaf y bydd Sion yn gallu cystadlu'n unigol mewn categori addas iddo ef.
Mae'r gystadleuaeth newydd, 'Perfformiad unigol dan 25 i ddisgyblion ysgolion/Unedau ag Anghenion Dysgu Ychwanegol', yn un o sawl cystadleuaeth newydd a fydd yn rhan o'r ŵyl eleni.
Mae hyn yn digwydd wrth i'r ŵyl ymestyn i saith diwrnod am y tro cyntaf.
'Fi'n barod!'
Bellach yn 20 oed, mae Sion Davies wedi mwynhau dawnsio a chystadlu gyda Aelwyd Cynwyl Elfed ers blynyddoedd lawer.
Gyda'r cystadlaethau newydd yn rhan o'r Eisteddfod eleni, bydd y dyn ifanc yn cystadlu'n unigol am y tro cyntaf, profiad y mae'n edrych ymlaen ato'n fawr.
"Fi'n barod. Dim fi yn nerfus," meddai Sion, "Fi'n barod!"
Gan fod y gystadleuaeth yn rhoi rhyddid i'r unigolyn berfformio mewn unrhyw gyfrwng, mae Sion wedi penderfynu cystadlu mewn clocsio.
"Bues i'n pori drwy'r rhestr testunau a weles i bod 'na gystadleuaeth newydd eleni a meddwl 'sgwn i os bydde Sion â diddordeb?'…" meddai Meryl Jones
Meryl Jones yw un o arweinwyr y grŵp sydd wedi bod yn dysgu Sion, gan ymarfer ddwywaith yr wythnos.

"Bues i'n pori drwy'r rhestr testunau a weles i bod 'na gystadleuaeth newydd eleni a meddwl 'sgwn i os bydde Sion â diddordeb?'…" meddai Meryl Jones eto,
"Fi'n credu bod e wedi mynd adref a dweud wrth fam a dad bod e'n mynd i wneud e ar ben ei hunan, sai'n credu bo nhw wedi cweit credu fe, o'n nhw'n meddwl bod e wedi camddeall pethau fi'n credu, ond ni wedi mynd ati a fi'n credu bod e wedi pasio unrhyw ddisgwyliadau oedd gyda ni."
Yn hynod o falch o'i fab, dywedodd Arwel, tad Sion, ei fod yn "browd iawn" ohono.
"Mae e wedi cystadlu sawl gwaith gyda'r aelwyd yn y clocsio mawr ond tro hyn mae e'n gwneud e am y tro cyntaf ar ben ei hunan," meddai.
"Mae e'n fendigedig, mae e'n mwynhau gwneud e, mae e'n edrych 'mlaen iddo fe."
'Ni'n ddiolchgar iawn'
Wrth ddisgrifio datblygiad ei fab gyda'r aelwyd dros y blynyddoedd, ychwanegodd Arwel Davies:
"Dechreuon nhw off gyda jyst tamaid bach ar y tro a mae e wedi gweithio ffordd lan a mae e'n gwneud lot fwy nawr a mae e wedi dysgu tipyn o ddawns nawr ac mae e wedi gwneud yn arbennig."
Mae mam Sion, Diane, yn dweud eu bod fel rhieni yn ddiolchgar iawn am garedigrwydd y bobl yn yr aelwyd.
"Ni fel rhieni yn lwcus iawn o bobl yn fodlon helpu fe i traino fe a chwarae piano…
"Ni mor falch i Sion gael y cyfle achos roedd Sion yn hoffi gwneud pethau ei hunan, ni'n ddiolchgar iawn i'r Eisteddfod am gael y gystadleuaeth newydd i Sion gael y siawns i ddawnsio."
Sion fydd hefyd yn cystadlu mewn cystadleuaeth dawnsio grŵp gyda'r aelwyd, grŵp lle mae nifer o'i ffrindiau a'i chwaer fach, Mair, yn rhan ohono hefyd.
Esther Defis, aelod o Aelwyd Cynwyl Elfed, yn dod ag elfen arbennig i'r grŵp.
Yn ôl Esther Defis, 21, o'r aelwyd, mae Sion yn "gwneud y grŵp gymaint gwell".
"Fe yw'r un sy'n dod â'r egni i ni, mae e mor fywiog bob ymarfer, a mae e'n dod a gwên i wyneb pawb achos gymaint mae e'n mwynhau'r clocsio. Mae e'n annog ni i fwynhau gymaint ag e."

Dywedodd Avril Goodman, un o arweinwyr eraill, fod aelodau'r aelwyd yn derbyn Sion "fel un ohonyn nhw".
"S'neb yn cwyno bod e gyda nhw, maen nhw'n derbyn e fel rhan o'r tîm," meddai.
Wrth baratoi i'w gystadlu'n unigol ddydd Sadwrn, dywedodd Esther eu bod yn barod i "weiddi amdano fe" ac yn edrych ymlaen at y profiad.
"Mae e'n mwynhau perfformio gymaint, ac o'r diwedd mae e'n cael y cyfle i serennu ar ben ei hun heb bod ni yn tynnu fe lawr mewn ffordd. Fi'n credu bydd e'n brofiad gwych iddo fe a bydd e'n mwynhau yn fawr…
"Ni gyd yn browd iawn o Sion bob tro a gymaint o ymdrech mae e'n rhoi i bopeth."
Bydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal yn Ynys Môn, ac am y tro cyntaf, bydd yn ŵyl saith diwrnod o hyd.
Gwnaed y newid hwn, yn ôl y mudiad, mewn ymateb i gynnydd yn nifer y bobl oedd yn cofrestru i gystadlu, ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd.
Mae disgwyl i'r cystadlaethau newydd gynnig "mwy o gyfleoedd nag erioed i ymwneud â'r Gymraeg drwy'r celfyddydau", medd y trefnwyr.






