Skip to main content
Advertisement

Ffermwyr Cymru'n Cystadlu'n Llwyddiannus ar Britain's Got Talent gyda Hawkstone Farmers

Mae côr Hawkstone Farmers, gyda saith o ffermwyr o Gymru, wedi cael eu dewis yn syth i rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent ar ôl i Amanda Holden wasgu'r Golden Buzzer, gan greu profiad swreal i'r aelodau.

·5 min read
Hawkstone Farmers gefn llwyfan gydag Ant & Dec

Ffermwyr Cymru'n Dathlu Llwyddiant ar Britain's Got Talent

Aled Wyn Davies (canol yn y crys siec) ac Aled Griffiths (ar y chwith yn y rhes gefn) gefn llwyfan gyda gweddill aelodau'r Hawkstone Farmers, a chyflwynwyr BGT Ant & Dec (ar y dde)

Mae nifer o ffermwyr o Gymru'n dathlu ar ôl i'w côr gael eu dewis yn syth i rownd gyn-derfynol Britain's Got Talent ar ôl i un o'r beirniaid wasgu'r botwm aur, y Golden Buzzer.

Roedd y Hawkstone Farmers, a sefydlwyd yn wreiddiol ar gyfer hysbyseb cwrw gan y cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson, yn cystadlu ar y rhaglen deledu nos Sadwrn.

Ymhlith y 32 o amaethwyr ar y llwyfan roedd saith o Gymru, gan gynnwys cyn-enillydd y Rhuban Glas a chadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.

Gwnaethant argraff fawr fel bod y beirniad Amanda Holden wedi gwasgu'r botwm aur, gan eu hanfon yn syth i'r rownd gynderfynol heb iddynt orfod cystadlu mewn rowndiau eraill.

Criw Britain's Got Talent
Disgrifiad o’r llun, Cyflwynwyr a beirniaid Britain's Got Talent: (chwith i'r dde) Ant McPartlin, Amanda Holden, Alesha Dixon, Simon Cowell, KSI a Declan Donnelly

Aelodau'r Côr a'u Cefndir

Un o aelodau'r côr yw Aled Griffiths o Gwmllinau, Powys, ffermwr sy'n gweithio hefyd i undeb yr NFU ac sy'n gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2027.

"Un gair sydd i ddisgrifio'r holl brofiad - swreal ydy hwnna," meddai ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.
"Roedda ni'n gwylio Britain's Got Talent weithiau ar nosweithiau Sadwrn, yn enwedig pan oedd y plant yn iau - roedden nhw'n mwynhau gweld yr amrywiaeth o adloniant oedd ar y rhaglen.
"A tasa rhywun wedi dweud wrtha i faswn i ar y rhaglen eleni faswn i ddim wedi coelio nhw deud gwir ond dyna ni mae'r pethe ma'n digwydd."

Un o'i gyd-aelodau yw ei gyfaill Aled Wyn Davies, tenor o Lanbrynmair.

"Dwi'n lwcus mod i wedi gwneud lot o ganu yn bersonol o'r blaen ond roedd hwn yn rhywbeth gwahanol - fel Steddfod yr Urdd ar steroids neu rywbeth," meddai ar Radio Wales.
"Roedd yn deimlad mor swreal - doedden ni ddim yn gwybod be' i'w ddisgwyl ond aeth o mor briliant. Roedd pobl ar eu traed pan wnaethon ni gerdded i mewn - roedd yn foment briliant wna i byth anghofio."
Aled Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun, Roedd y tenor Aled Wyn Davies, sy'n gyn-enillydd y Rhuban Glas, yn un o'r saith o Gymru gyda chôr Hawkstone Farmers ar Britain's Got Talent

Sefydlu a Dewis y Côr

Sefydlwyd y côr flwyddyn yn ôl er mwyn canu mewn hysbyseb teledu ar gyfer cwrw a gynhyrchwyd gan Jeremy Clarkson, sydd bellach yn adnabyddus am ei gyfresi teledu sy'n dilyn ei fywyd ar ei fferm.

Advertisement

Rhoddwyd hysbyseb am y prosiect cerddorol ar grŵp Facebook Côr Meibion Machynlleth ac fe gytunodd y ddau Aled, sy'n aelodau, i roi cynnig arni.

Ar ôl anfon clip fideo ohonyn nhw'n canu, fe'u dewiswyd ymysg y 35 o tua 600 a gafodd eu hystyried.

Cadw'r Cyfrinach a Perfformiad ar Britain's Got Talent

Yn dilyn ymateb ffafriol ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnaeth y côr gais i gystadlu ar Britain's Got Talent a chafodd eu derbyn.

Chwe mis yn ôl, perfformiodd y côr eu fersiwn o "One Day Like This" gan y band Elbow yn Birmingham.

"Mi ryda ni wedi gorfod cadw'r gyfrinach ers mis Hydref," meddai Aled Griffiths.
"Neshi ddim sylw ei bod hi [Amanda Holden] wedi gwagu'r botwm aur a dweud y gwir - o'n i'n edrych rownd y gynulleidfa - cynulleidfa fawr wrth gwrs."
Aled Griffiths
Disgrifiad o’r llun, Aled Griffiths (chwith), sy'n byw ar ei fferm deuluol ger Cwmlline, Dyffryn Dyfi, gefn llwyfan Britain's Got Talent gydag aelodau eraill Hawkstone Farmers

Paratoi ar gyfer y Rownd Gynderfynol

Disgwylir i'r rownd gynderfynol gael ei chynnal yn ystod mis Mai, gan roi ychydig wythnosau i'r côr ddysgu cân newydd, sy'n heriol gan fod aelodau'n byw ledled Prydain.

"Fyddwn ni'n cyfarfod mewn tua thair wythnos am gwpl o ddyddiau i ddysgu cân newydd ac wedyn mis Mai gobeithio fydd y rownd gynderfynol," meddai Aled Wyn Davies.
"Fyddwn ni'n mynd lawr i Lundain i'r rhaglen fyw - felly ychydig mwy o nerfau eto ond gobeithio bydd y cyhoedd a'r gymuned amaeth yn ein cefnogi a gobeithio wnaiff pawb bleidleisio i ni."

Cyd-dynnu a Chyfeillgarwch rhwng Aelodau'r Côr

Mae'r ddau Aled wedi adnabod ei gilydd ers blynyddoedd, ond mae'r prosiect diweddaraf wedi arwain at greu ffrindiau newydd gyda ffermwyr o bob rhan o Brydain.

"Be' sy'n rhyfedd ydy'n bod ni i gyd yn cyd-dynnu. Mae un peth sy'n dod â ni ynghyd ac amaethyddiaeth ydy hwnnw," meddai Aled Griffiths.
"Mae gennyn ni un peth sy'n gyffredin ac mae'n amlwg pan yda ni'n cwrdd â'n gilydd. Mae rhyw gyfeillgarwch od wedi digwydd a dweud y gwir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News