Mae o jest yn neis i fod yn rhan o grŵp
Fel un sydd wedi profi unigrwydd yn ei bywyd, mae Emma Pritchard o Ynys Môn yn falch o fod yn un o'r pedair menyw sy'n trafod y grŵp Facebook Rhwydwaith Menywod Cymru ar fodcast newydd gan S4C.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, mae Emma, sy'n ddylanwadwr yn gweithio'n bennaf ar TikTok, yn sôn am yr unigrwydd a brofodd ar ôl tor-priodas a pham bod y sgwrs ar y fodcast gyda'r grŵp wedi bod yn brofiad arbennig.
Er ei bod hi'n gweithio yn y byd ar-lein, doedd Emma heb glywed am Rwydwaith Menywod Cymru, sef cymuned ar-lein lle mae pynciau'n amrywio o harddwch i dor-perthynas, cyn cael ei gwahodd i'r fodcast gan S4C.
"O'n i erioed wedi clywed amdano fo achos do'n i ddim ar Facebook. Dwi wedi ymuno rŵan – mae rhai o ffrindiau fi arno fo ers blynyddoedd. A dwi'n loveio fo.
Mae'n reit refreshing cael grŵp Cymraeg, mae'n neis gweld pa mor gefnogol yw'r grŵp. Mae 'na un neu ddau o gwestiynau personol bob wythnos, pobl sy' isho cyngor a support."

Unigrwydd a cholli ffrindiau
Yn y fodcast, mae pedair o fenywod o wahanol ardaloedd o Gymru yn trafod pynciau a godwyd ar y rhwydwaith. Un o'r pynciau cyson yw unigrwydd, rhywbeth mae Emma'n uniaethu ag ef.
"Mae'n torri calon fi ond mae lot o ferched unig yn y byd yma am resymau gwahanol – efallai bod nhw wedi cael divorce neu yn colli ffrindiau ond beth sy'n bwysig yw fod 'na bobl allan yna i bawb.
Mae llwyth o ffyrdd o wneud ffrindiau. Gorfod ailddechrau wnes i."
Ar ôl tor-priodas, colli nifer o ffrindiau oedd un o'r heriau a wynebodd Emma, fel y mae'n egluro:
"Mi o'n i wedi priodi ac mae gen i ddau o blant.
'Nes i fynd trwy divorce a gwahanu wrth fy ngrŵp. 'Nes i golli bob ffrind – am fod bywyd fi wedi newid a bod fi ddim yn ffitio. Do'n i ddim yn dallt pam.
Mae'n beth cas. Dwi'n hollol deall fod bywyd yn newid a pobl yn mynd mewn directions gwahanol ond dwi'n teimlo hefyd yn y generation yma mae gormod o bobl yn cuttio pobl off heb explanation. Mae rili yn damaging i rywun.
Dwi'n 37 ac yn edrych lot ifancach. Dwi'n meddwl pan wnes i wahanu efo fy ngŵr o'n i isho mynd allan a ail-fyw fy 20au. O'n i jyst isho'r period 'na o gael hwyl a ches i ddim cefnogaeth.
Dwi'n sengl am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd. Ges i agoriad llygad so 'nes i ddechrau cael diddordeb mawr mewn social media a thynnu lluniau a 'neud content.
Oedd ffrindiau fi ddim yn dallt ac yn dweud mod i rhy wahanol. Ond mae pawb yn wahanol. I'r diwrnod yma dwi dal ddim yn dallt ond dwi wedi gwneud ffrindiau newydd."

Byw fel mam ifanc a'r heriau sy'n dod gyda hynny
Mae Emma hefyd yn teimlo bod bod yn fam ifanc yn gallu arwain at feirniadaeth gan eraill.
"Dwi'n gweld weithiau mae lle dwi'n dod o yn gallu bod yn judgemental ofnadwy oherwydd dwi yn fam.
Dwi'n ifanc yn fy ffordd ond 'di o ddim yn 'neud fi'n fam ddrwg.
Dwi'n teimlo bod bywyd fi ar social media a bod 'na lot o judgement.
Dwi'n gwybod mod i'n hogan gyfeillgar ac mae 'na bobl allan 'na sy' am werthfawrogi fi fel person."
15,000 o ddilynwyr a gyrfa fel dylanwadwr
Mae Emma'n disgrifio ei hun fel entrepreneur ac ar ôl gweithio ym maes addysg am gyfnod, trodd hi'n ddylanwadwr:
"Roedd gen i ddiddordeb mewn bod yn influencer so 'nes i gychwyn platfform TikTok ac mae wedi tyfu oherwydd mae gen i lot o ddilynwyr sy'n Gymreig.
Mae rhai o TikToks fi yn y iaith Gymraeg wedi mynd yn feiral.
Mae gen i lot o bobl o Gymru sy'n edrych i fyny i fi. Mae'r fodcast yn gyfle da i fi fel person i adeiladu proffil fy hun. Dwi wedi bod yn cael drysau yn agor."
Gan greu cynnwys ar-lein am ei ffordd o fyw, mae Emma'n gweithio gyda chwmnïau fel Shein a Boohoo yn hyrwyddo dillad y brandiau. Hefyd, mae'n creu cynnwys teuluol gan fod gan ei dilynwyr ddiddordeb yn ei bywyd bob dydd.
"Dwi'n gwerthu pethau ond mae pobl yn licio fi'n rhannu day to day life.
Mae gen i followers mwy ifanc ond mae TikTok yn mynd yn fawr i fusnesau ac ati."
Criw fodcast Rhwydwaith Menywod Cymru
Gyda phenodau'r fodcast yn amrywio o Sut i siafio'ch bwsh? i Bŵbs a Psychics, mae'r criw yn cael hwyl yn recordio, yn ôl Emma:
"'Da ni ddim yn stopio chwerthin, oedd bol fi'n brifo ar ôl yr un cyntaf.
'Da ni gyd yn wahanol a weithiau 'da ni ddim yn deall ein gilydd ond mae o'n gweithio a 'da ni wedi closio.
Mae'r genod yn ffantastig. Mae gen i feddwl y byd o nhw. Mae'n bwysig cofio pan 'da chi'n 'neud ffrindiau s'dim rhaid iddo fod yn bobl yr un oed."
Mae Emma'n siarad yn ddiflewyn-ar-dafod ar y fodcast, gan gydnabod:
"Dwi ddim yn dal yn ôl – weithiau dwi'n anghofio fod camerâu 'na."
Mae hyn wedi arwain at ambell i sylw negyddol:
"Roedd un neu ddau ar-lein 'di dweud mod i'n reit uchel a 'nath rhywun alw fi'n showoff. Dwi yn bersonoliaeth cryf.
Dim ond mod i ddim yn offendio neb, mae'n rhaid i bawb gofio mae hawl gyda pawb i'w barn.
'Da ni'n siarad a siarad. Y nod ydy dod â merched Cymraeg at ei gilydd i chwerthin a siarad am fywyd go iawn. Mae cymuned ar y grŵp."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




