Cyfnod Ŵyna: Cysgu'n y Garafan a Hyfforddi ag Oen Plastig
Mae hi'n gyfnod prysur iawn i Elen Gwen Williams a'i theulu, gan mai cyfnod ŵyna ydyw iddyn nhw.
Mae Elen a'i phartner Owain wedi bod yn ŵyna mewn sied yn Rhosneigr, Ynys Môn ers dechrau mis Mawrth. Er bod hi'n gyfnod y mae hi'n edrych 'mlaen ato bob blwyddyn, mae'n amser hir a blinedig, ac mae Elen yn
"edrych ymlaen at noson allan wedyn!"
Mae'r blinder yn fwy amlwg eleni, gan egluro Elen ei chyfnod mamolaeth gyda'u merch ifanc, Casi, ac oherwydd bod tua 150 o ddefaid yn y sied sydd angen eu sylw.
"Mae 'na bach o gystadleuaeth rhwng Owain a fi ar hyn o bryd, pwy sy'n cysgu orau! Neithiwr oedd y noson mae Casi 'di cysgu hira'.
"Pan mae o'n dod i'r tŷ, mae o'n cysgu ar y soffa fel nad yw'n deffro ni. Fel arfer, 'da ni'n gallu dod â charafan – doedd ganddon ni ddim lle eleni – a'i fod o'n cysgu yn y garafan, a bod o fath â crèche bach i'r plant!"
"Alli di weld pan ti'n mynd i'r sêl pwy sy'n ŵyna, achos bod nhw ddim wedi cael haircut ers dipyn!"
Rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
Er bod Elen wedi arfer ag ŵyna, gan ei bod wedi ei magu ar fferm Fron Felen yn Henllan, mae bod yn fam i Awel, sy'n dair oed, a Casi, sy'n bron yn 10 mis, yn golygu ei bod yn uniaethu'n fwy gyda'r defaid yn y sied fawr y dyddiau hyn, meddai.
"Dwi'n ei gymharu o efo maternity ward! Os ydyn nhw'n dod ag oen eu hunain, 'sa ni'n dod â'r ddafad allan, mynd â hi i'r pen bach [yn y sied] wedyn, maen nhw yna am tua dau ddiwrnod, yn dibynnu os ydyn nhw'n iawn, a mae'r fam yn cymryd yr oen.
"Maen nhw'n dod i'r 'Cylch Meithrin', fel dwi'n licio'i alw o, i gymysgu. Unwaith mae popeth yn iawn, mi câ'n nhw fynd allan i'r cae, a dyna pryd maen nhw'n 'mynd adra' i mi.
"Dwi'n fwy teimladwy tuag at y defaid rŵan, ar ôl cael plant!"
Cynnig Help Llaw
Wrth gwrs, mae adegau pan nad yw natur yn dilyn y cynllun, ac mae'n rhaid i'r ffermwr roi help llaw, ond mae blynyddoedd o brofiad a digon o ymarfer yn golygu bod Elen yn gwybod yn union beth sydd angen ei wneud er lles y ddafad a'r oen:
"Dwi'n cofio yn Ngholeg Llysfasi, roedd 'na gefn dafad i ti ymarfer efo oen plastig, ac oedd o'n dangos y gwahanol sefyllfaoedd 'sa ti'n gallu bod ynddyn nhw wrth dynnu oen.
"Rhai yn dod am ei ôl, felly weithiau 'alli di jyst cael cynffon yn dod, wedyn tisho trio troi a thwistio er mwyn cael y coesau. Weithiau mae 'na un goes yn ôl ac un ymlaen. 'Da ni wedi bod yn bwydo rhai efo potel. Os oes 'na rai yn dod efo triplets, ti'n trio rhoi un i ddafad arall. Mae 'na rai wastad isho help.
"Mae mor bwysig, unwaith mae'r oen yn dod, bod y ddafad yn llyfu'r oen, a gwneud y bond sbesial yna. Achos pryd maen nhw yn y pen mawr, maen nhw'n nabod y fref, ac maen nhw'n gallu cofio'r ogla', felly pan maen nhw allan yn y cae, maen nhw'n gwybod.
"Dwi wrth fy modd yn gweld hynna – pryd mae'r ddafad yn brefu am yr oen, ac mae'r oen yn dallt fod Mam yn brefu, ac yn troi nôl. Mae'r bond yna'n bwysig."
Prysur Ond Pwysig
Nid yw'r gwaith caled wedi dod i ben i Elen a'r teulu eto - mae ychydig mwy o wythnosau prysur o'u blaenau - ond dyma un o gyfnodau pwysicaf y calendr amaethyddol iddyn nhw, eglurodd, ac mae gwerth yr holl flinder.
"Mae o'r cyfnod mwya' prysur mae ffarmwr yn ei gael ond mae o'r cyfnod pwysica' achos dyma 'di'r arian sy'n dod fewn, pan maen nhw'n mynd i'r farchnad. Felly tisho gneud y gora' a chadw pob oen yn fyw a phob dafad yn iach.
"Mae'n gyfnod hir – alli di weld pan ti'n mynd i'r sêl pwy sy'n ŵyna, achos bod nhw ddim wedi cael haircut ers dipyn!
"Dwi'n ei fwynhau o – dwi'n edrych ymlaen iddo fo bob blwyddyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Hefyd o Ddiddordeb
- Cyhoeddi enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar
- Sut beth yw bod yn 'ffermwraig' yn 2026?
- Lluniau: Diwrnod gwerthu ym Mart Dolgellau
- 'Hel mynydd' ar ucheldiroedd ffermydd Cymru







