Skip to main content
Advertisement

Angen mwy o gynnwys Cymraeg ar-lein a mewn gemau i ehangu defnydd yr iaith

Adroddiad newydd yn galw am fwy o gynnwys Cymraeg mewn gemau cyfrifiadurol a chyfryngau cymdeithasol i ehangu defnydd yr iaith ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

·7 min read
Criw o bobl ifanc mewn cylch o'r ysgwyddau i lawr yn dal ffonau symudol yn eu dwylo

Adroddiad yn galw am fwy o Gymraeg mewn gofodau digidol a gemau cyfrifiadurol

Mae pobl ifanc yn treulio cyfartaledd o chwe awr y dydd ar-lein, gyda Saesneg yn cael ei ddefnyddio'n bennaf yn ystod y cyfnod hwn, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen am fwy o gynnwys Cymraeg yn y gofodau digidol lle mae pobl ifanc yn treulio eu hamser, megis gemau cyfrifiadurol a chyfryngau cymdeithasol, er mwyn ehangu defnydd yr iaith yn y dyfodol.

Dyma un o argymhellion allweddol adroddiad sy'n ystyried sut i gryfhau'r Gymraeg mewn cymunedau lle mae siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif.

Yn ogystal, dylai'r iaith fod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd mewn gweithleoedd, clybiau chwaraeon a lleoliadau cymunedol eraill, yn ôl casgliadau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ddiolchgar am yr adroddiad ac yn gweithio eisoes i sicrhau "twf hirdymor y Gymraeg... [a] chyfle teg i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus".

Newid iaith grŵp o'r Gymraeg i'r Saesneg 'ddim yn helpu'r iaith'

Targedau'r Gymraeg yn cael eu hystyried yn bwysig ac yn helpu'r iaith, meddai Ysgrifennydd y Cabinet.

Dros 20,000 o bobl wnaethant ddysgu Cymraeg y llynedd, gyda'r niferoedd yn parhau i dyfu.

Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

Hwn yw ail adroddiad y Comisiwn, wedi iddynt gyflwyno bron i 60 o argymhellion yn 2024 ynghylch sut i warchod sefyllfa'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar gymunedau yn yr 18 sir yng Nghymru lle mae llai na 40% o bobl yn siarad Cymraeg.

Yn ôl yr ymchwil, mae dros hanner y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd o 'dwysedd canolig' a 'dwysedd isel'.

Dywedodd awduron yr adroddiad fod angen mwy o gyfleoedd i bobl yn y cymunedau hyn i ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i fyd addysg.

Ymhlith y 31 o argymhellion yn yr adroddiad, mae galw am gryfhau'r iaith mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnwys o fewn teuluoedd, gweithleoedd, darpariaeth ieuenctid, chwaraeon a diwylliant.

Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi arian tuag at leoliadau megis llyfrgelloedd, hybiau cymunedol a mannau cyfarfod, gan ddweud y dylai "o leiaf un gofod cymdeithasol" i ddefnyddio'r Gymraeg fod "o fewn cyrraedd hawdd" i bawb.

Hen Lyfrgell y Porth a chefnogaeth i siaradwyr Cymraeg newydd

Mae Philip Hughes yn helpu siaradwyr Cymraeg newydd fel Gaynor Morgan a Val Norris yn Hen Lyfrgell y Porth.

"Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ond mae'n rhaid i ti fod yn ddewr i ddechrau sgwrs yn y Gymraeg," meddai Philip Hughes.

"Dwi'n mynd i gwrs sylfaen yn Nhreorci, grŵp sgwrs ar ddydd Iau a dosbarth yn lleol bore dydd Mercher, felly mae llawer o gyfle i siarad gyda phobl," meddai Gaynor Morgan o'r Porth.

"Dwi'n gwneud Duolingo bob dydd ond dim ond pan dwi'n dod i'r dosbarth fel arfer dwi'n siarad Cymraeg," meddai Val Norris. "Dwi ddim yn nabod llawer o bobl sy'n siarad Cymraeg."

"Nawr ac yn y man dwi'n cael siawns," meddai Alan Gill, "ond dwi'n gwylio'r teledu i ddysgu tamaid a [gwrando ar] Radio Cymru yn y car."

Philip Hughes, Gaynor Morgan a Val Norris
Disgrifiad o’r llun, Mae Philip Hughes yn helpu siaradwyr Cymraeg newydd fel Gaynor Morgan a Val Norris, yn Hen Lyfrgell y Porth

App newydd i helpu dod o hyd i weithgareddau Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn datblygu app i helpu pobl ddod o hyd i weithgareddau Cymraeg lleol.

"Ar ôl yr Eisteddfod mae dal lot yn digwydd," meddai Scott Thomas, sy'n cydlynu'r cynllun.

"Ni 'di creu app 'Defnyddia dy Gymraeg'. Mae 20 neu 35 o bethau'n digwydd yn wythnosol ar draws y sir.

"Weithiau os ti ddim yn rhan o'r cylch yna mae'n anodd i ffeindio pethau...

"Mae'r app, gobeithio, yn mynd i'w wneud hi'n haws i bobl weld ble allan nhw fynd i ymarfer neu jyst cael cyfle i gymdeithasu yn Gymraeg."

Scott Thomas, dyn ifanc gyda gwallt a mwstash brown a sbectol, mewn cyntedd canolfan
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd app newydd yn helpu pobl wybod pa weithgareddau Cymraeg sydd ymlaen yn Rhondda Cynon Taf, medd Scott Thomas, sy'n cydlynu'r cynllun

Dysgu Cymraeg i'r fyddin a newid agweddau at gerddoriaeth Saesneg

Mae argymhellion eraill yn yr adroddiad yn cynnwys gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol ar y stryd fawr, sicrhau darpariaeth teithio i weithgareddau allgyrsiol pobl ifanc, a dysgu gwersi o ieithoedd lleiafrifol eraill.

Advertisement

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am sefydlu cronfa i gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn mannau digidol a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl yr adroddiad, mae pobl ifanc yn treulio cyfartaledd o chwe awr y dydd ar-lein, ond mai Saesneg yn unig sydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod hwn.

Persbectifau pobl ifanc ar Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 a 10 o Ysgol Gartholwg, ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf, yn cydnabod nad yw'r Gymraeg wastad yn amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi ddim yn gweld lot o Gymraeg ar TikTok ond ar Instagram mae 'na rhywbeth i neud gyda Gartholwg felly ni'n gweld y Gymraeg ar hwnna," meddai Jamie.

"Dwi ddim yn gweld llawer o Gymraeg, falle newyddion neu rhywbeth fel' na ond dim llawer. Dyw feeds Cymraeg ddim wir yn trafod pethau sydd o ddiddordeb i fi," meddai Cari.

"Rwy'n gweld fideos o bobl yn canu'n Gymraeg ac mae comments neis ar rheina hefyd," meddai Caitlin, sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg.

"Mae pawb mor used i siarad Saesneg a ddim eisiau siarad Cymraeg ddim mwy," meddai Lowri, gan gyfaddef mai Saesneg yw iaith cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Jamie a Caitlin
Disgrifiad o’r llun, Mae Jamie a Caitlin yn gweld rhywfaint o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
Lowri a Cari
Disgrifiad o’r llun, Mae peth ffordd i fynd eto i gynnal diddordeb pobl ifanc mewn deunydd Cymraeg ar blatfformau digidol, ym marn Lowri a Cari

Y Gymraeg yn ennill ei phlwy ar lwyfannau digidol

Mae cyflwynydd Ameer Davies-Rana yn nodi bod y Gymraeg yn ennill ei phlwy ar lwyfannau digidol er bod gwaith i'w wneud.

"Mae pobl yn gyfarwydd a chyfrifon Trydar neu X yn tweet-io am bêl-droed neu rygbi ac yn arwain gyda'r Gymraeg," meddai.

"Mae hwnna wedi newid dros y bum mlynedd ddiwetha felly mae pobl yn gallu gweld yr iaith o ddydd i ddydd ar sgrin y ffôn."

"Os ti'n siarad Cymraeg, postiwch yn y Gymraeg achos be dwi 'di sylwi yw, mae cynnwys dwi 'di neud yn Gymraeg yn perfformio lot yn well na pethe Saesneg.

"Mae hynna'n dystiolaeth fod y Gymraeg yn fyw ac yn gallu mynd yn viral."

Ameer Davies-Rana
Disgrifiad o’r llun, Mae'r Gymraeg yn ennill ei phlwy ar lwyfannau digidol, o brofiad Ameer Davies-Rana

Dysgu o brofiad Catalwnia

Mae angen sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gymunedol ym mhob cymuned yng Nghymru os yw hi am fod yn iaith genedlaethol sy'n perthyn i bawb, meddai'r adroddiad.

"Awydd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg ond prinder gofod i wneud hynny," meddai Elin Haf Gruffydd Jones, cyd-gadeirydd y comisiwn.

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod creu cyfleoedd mor lleol â phosib yn bwysig, yn enwedig i bobl ifanc sy'n gorfod teithio'n bell neu dros amser hir i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg neu ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i'r ysgol.

Edrychodd y comisiwn hefyd ar brosiectau diddorol mewn gwledydd eraill â ieithoedd lleiafrifol sy'n dangos beth sy'n bosibl ei gyflawni.

Cyfeiriodd at gronfa a sefydlwyd gan lywodraeth Catalwnia ddwy flynedd yn ôl i ysgogi mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, mwy o ddylanwadwyr a mwy o amrywiaeth o gynnwys.

Roedd y camau yn cynnwys noddi unigolion am gyfnod o flwyddyn gyda disgwyliadau a thargedau, a chynghori ar greu portffolio, bywoliaeth, nawdd a sut i gyfuno gwaith dylanwadwyr ag agweddau eraill.

"Gyda'i gilydd, mae dau gam gwaith y Comisiwn bellach yn gosod sylfaen gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y dasg honno," meddai Dr Simon Brooks, cyd-gadeirydd y comisiwn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu 17 o argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn.

"Mae adroddiad yr ail gam yn gosod sylfaen i adeiladu ar y momentwm a sicrhau dyfodol Cymraeg ffyniannus i bob cymuned yng Nghymru," meddai.

Mae awduron yr adroddiad yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i barhau â'r gwaith er mwyn i'r Gymraeg fod yn iaith sy'n perthyn i gymunedau cig a gwaed a chymunedau digidol fel ei gilydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News